Sylw ar sepsis yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Amser darllen munudau

Bob 3 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.

Disgrifir sepsis yn aml fel un o’r clefydau mwyaf cyffredin, ond lleiaf adnabyddus yn y byd datblygedig a'r byd sy'n datblygu..

Ddiwedd 2019, dechreuodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ar ymchwiliad i Sepsis. Roedd un Aelod o'r Pwyllgor hwnnw sef Angela Burns yn oroeswr sepsis ei hun. Roedd y Pwyllgor newydd ddechrau clywed tystiolaeth lafar ar ddechrau 2020, pan darodd COVID-19. Ac yntau’n methu â pharhau â'r gwaith hwn, argymhellodd y dylai ei Bwyllgor olynol ystyried bwrw ymlaen â'r ymchwiliad.

Mae'r materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad yn dal i sefyll, gan gynnwys bod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth y maes proffesiynol, a'r diffyg cefnogaeth i oroeswyr ar hyn o bryd.

Mae'n anochel bod ffocws y byd wedi troi at COVID-19, ond ar Ddiwrnod Sepsis y Byd mae'n werth myfyrio, nid yn unig am ddifrifoldeb sepsis ei hun, ond hefyd am y cysylltiadau rhwng y ddau gyflwr. Gall Covid-19 achosi sepsis, a dywed Ymddiriedolaeth Sepsis y DU:

COVID-19 is characterised in the seriously ill by an immune overreaction to the infection causing organ damage, exactly the same mechanism as in sepsis from other causes.

Mae gwaith ymchwil hefyd wedi cadarnhau bod tebygrwydd amlwg rhwng ôl-effeithiau sepsis ac ôl-effeithiau COVID-19, neu 'COVID hir'. Felly gallai unrhyw gymorth sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer COVID hir fod yn berthnasol i oroeswyr sepsis hefyd.

Beth yw sepsis?

Mae sepsis yn gyflwr sy'n peryglu bywyd ac sy'n codi pan fydd y system imiwnedd yn gorymateb i haint neu anaf ac yn ymosod ar organau a meinweoedd y corff ei hun. Mae'n argyfwng meddygol a all arwain at fethiant organau lluosog a marwolaeth os na chaiff ei drin ar frys. Ac eto, gyda diagnosis cynnar, mae'n hawdd ei drin yn aml.

Mae pump o bobl yn marw oherwydd sepsis bob awr yn y DU, ac mae'n lladd mwy na chanser y fron, canser y coluddyn a chanser y prostad gyda'i gilydd.

Yn y DU bob blwyddyn mae o leiaf 245,000 o achosion o sepsis, ac mae o leiaf 48,000 o bobl yn marw. Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn ofni bod y ffigurau hyn yn uwch yn ystod y pandemig.

Beth yw'r symptomau a'r ôl-effeithiau?

I ddechrau, gall sepsis edrych fel ffliw, gastroenteritis neu haint ar y frest. Nid oes un arwydd, ac mae'r symptomau'n wahanol mewn oedolion o’u cymharu â phlant.

Beth yw'r symptomau?

Symptomau mewn plant

Efallai bod gan eich plentyn sepsis os yw:

  • Yn anadlu’n gyflym iawn
  • Yn cael ffit neu gonfylsiwn
  • Ei groen â golwg frith, glasaidd neu welw
  • Ei groen â brech nad yw’n pylu wrth ei gwasgu
  • Yn gysglyd neu’n anodd ei ddeffro
  • Yn teimlo’n anarferol o oer

Symptomau mewn oedolion

Efallai bod gan oedolyn sepsis os yw’n dangos unrhyw un o’r arwyddion hyn:

  • Siarad yn aneglur neu wedi drysu
  • Crynu’n eithafol neu boen yn y cyhyrau
  • Heb basio dŵr (mewn diwrnod)
  • Allan o wynt yn ddifrifol
  • Teimlo fel eich bod yn mynd i farw
  • Croen yn frith neu’n welw

 

Ffynhonnell: UK Sepsis Trust

Mae’r fideo byr hwn gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU sef 'Get Sepsis Savvy' yn darparu rhagor o wybodaeth.

Mae 40 y cant o holl oroeswyr sepsis yn dioddef ôl-effeithiau parhaol sy'n newid eu bywydau. Mae rhai pobl yn addasu i fywyd ar ôl torri rhannau o’r corff i ffwrdd, ac mae llawer yn profi amrywiaeth o anawsterau corfforol, anawsterau seicolegol ac anawsterau emosiynol yn y tymor hwy (hyd at 18 mis yn aml) - gelwir hyn yn Syndrom Ôl Sepsis.

Angen gwella ymwybyddiaeth yn y gymuned

Mae oddeutu 80 y cant o achosion o sepsis yn y DU yn digwydd mewn ymateb i heintiau a gafwyd yn y gymuned.

Bu galwadau dro ar ôl tro am ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar sepsis, i wella adnabyddiaeth ohono yn y gymuned ac i gynyddu atgyfeiriadau yn gyflym. Amlygodd Terence Canning o Ymddiriedolaeth Sepsis y DU bod angen arfogi'r cyhoedd â gwybodaeth am arwyddion sepsis, i'w galluogi i ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddant yn dod at weithwyr iechyd proffesiynol. Nododd hefyd y gall staff gofal iechyd, fel staff derbynfeydd meddygon teulu, chwarae rhan hanfodol o ran prysuro pethau’n gyflym ar gyfer cleifion os ydynt yn gwybod beth yw’r arwyddion o sepsis:

Lack of sepsis awareness in the communities often means sick individuals are slow to access health care which causes delays in diagnosis and treatment which can be fatal or result in life changing outcomes. […]

The biggest thing around sepsis is time. Because people don't have the information to act quickly enough, they have bad outcomes.

Tynnodd RCN Cymru ac Ymddiriedolaeth Sepsis y DU sylw at lwyddiant yr  ymgyrch 'Act FAST' ar gyfer strôc. Nododd Ymddiriedolaeth Sepsis y DU fod sepsis, fel strôc, yn salwch ble mae amser yn hanfodol, gan fod y risg o farwolaeth yn cynyddu 8 y cant am bob awr nad yw claf â sepsis yn cael ei drin a gwrthfiotigau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi mynegi amheuaeth o'r blaen ynghylch effeithiolrwydd tebygol ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus. Mewn tystiolaeth lafar a gyflwynwyd i'r ymchwiliad a gafodd ei atal, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fwy cadarnhaol am y mater, fodd bynnag, a dywedodd ei fod yn awyddus i weithio gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU i edrych yn fanwl ar y posibilrwydd o gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth.

Ymwybyddiaeth broffesiynol

Cytunwyd yn gyffredinol, er bod cynnydd wedi'i wneud mewn lleoliadau acíwt, mae angen rhagor o waith a hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth broffesiynol o sepsis mewn lleoliadau eraill, yn enwedig ym maes gofal sylfaenol ac yn y gymuned.

Clywodd y Pwyllgor blaenorol hefyd fod yn rhaid i rôl y meddyg teulu gynnwys bwrw 'rhwydi diogelwch' fel petai. Er enghraifft, os oes gan glaf haint, ei fod yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r claf ar symptomau i edrych amdanynt, a beth ddylai’r claf ei wneud os bydd yn dirywio.

Yn ôl Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, mae methiant triniaethau ar gyfer heintiau’r llwybr wrinol (UTIs) yn y lleoliad gofal sylfaenol yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at y cynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty oherwydd sepsis.

Cefnogaeth i oroeswyr sepsis

Mae'n amlwg bod diffyg cefnogaeth ar gael i'r rhai sy'n goroesi sepsis, ac mae llawer o bobl nad ydynt yn barod am yr anawsterau sy'n eu hwynebu yn ystod eu hadferiad.

Amcangyfrifir bod 40 y cant o bobl sy’n goroesi sepsis yn gorfod mynd i’r ysbyty eto o fewn 90 diwrnod ar ôl cael eu rhyddhau o ganlyniad i gyflyrau y gellir eu trin mewn lleoliad cleifion allanol.

Ar hyn o bryd, yr unig gefnogaeth benodol sydd ar gael ar ôl sepsis yw’r gefnogaeth a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. Mae'r elusen yn cynnal grwpiau cymorth ac yn darparu gwybodaeth a chyngor am adferiad, ond nid oes ganddi adnoddau i gefnogi adsefydlu.

Roedd Dr Paul Morgan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn feirniadol iawn o hyn, ac mae’n nodi:

Primary and community care services are ill-equipped to provide - and often largely ignorant of - the needs of sepsis survivors. The only secondary care services are those provided to amputees. This is a wholly-inadequate service provision.

There is evidence that sepsis can result in elevated levels of blood markers of inflammation for up to 1 year afterwards, no doubt contributing to the high incidence of readmissions and the increased mortality rate seen in sepsis survivors.

Mae rhanddeiliaid fel Ymddiriedolaeth Sepsis y DU eisiau gweld gwybodaeth yn cael ei darparu i gleifion sepsis wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty i'w paratoi ar gyfer yr hyn a allai fod o'u blaenau a'u cyfeirio at gefnogaeth, yn ogystal â rhagor o ddarpariaeth gwasanaethau cymorth penodol i helpu goroeswyr wrth iddynt wella.

Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gadarnhaol ynglŷn â gwella cefnogaeth ar ôl sepsis yn sesiwn y sefydliad mewn Pwyllgor, gan ddweud bod cyfle go iawn i waith gwych ddigwydd yng Nghymru i ddatblygu sut allai gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn fod i oroeswyr sepsis. Pan ofynnwyd iddi am amserlenni, dywedodd Dr Tracey Cooper, y Prif Weithredwr, ei bod yn awyddus i gael hyn ar waith o fewn 12 mis.

Gan bod y pandemig wedi taro yn fuan wedi hynny, yn ddealladwy, roedd sylw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedyn yn canolbwyntio ar fater arall. Fodd bynnag, nid yw'r angen i godi ymwybyddiaeth a darparu gwell cefnogaeth i oroeswyr sepsis wedi diflannu. Rydym hefyd yn wynebu'r ffaith bod angen cefnogi'r rhai ag ôl-effeithiau COVID ac sy'n dioddef o COVID hir.

O ystyried y proffiliau symptomau cyfochrog rhwng Syndrom Ôl-Sepsis a COVID hir, tybed a allai'r pandemig ddarparu cyfle i wella’r gefnogaeth adsefydlu i oroeswyr sepsis?

Yn sgîl datblygiad angenrheidiol o ran gwasanaethau cymorth ar gyfer COVID hir, mae'n siŵr y bydd Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn galw am sicrhau bod cefnogaeth o'r fath ar gael i oroeswyr y ddau gyflwr difrifol hyn.

Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru