Menyw yn derbyn frechlyn

Menyw yn derbyn frechlyn

Pwy sy'n cael eu gadael ar ôl wrth i raglen frechu’r coronafeirws gael ei chyflwyno?

Cyhoeddwyd 24/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae data newydd yn atgyfnerthu’r pryderon a fynegwyd gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus ynghylch y ffaith bod nifer y bobl sy’n cael brechlyn y coronafeirws yn is ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn ardaloedd difreintiedig.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ail adroddiad ar anghydraddoldebau o ran nifer y bobl sy’n cael brechlyn. Mae’r adroddiad yn darparu dadansoddiad o frechiadau yn ôl grŵp blaenoriaeth, oedran, rhyw, ethnigrwydd ac amddifadedd.

Mae ein herthygl ar ddata brechu yn amlinellu pwy sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechlyn ledled Cymru yn ôl grŵp blaenoriaeth, ac yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Pwy sy'n parhau i fod mewn perygl?

Cododd is-grŵp ethnigrwydd y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) bryderon ym mis Rhagfyr 2020 ynghylch y risg sylweddol y bydd cyfran y bobl sy’n cael brechlyn y coronafeirws yn is ymhlith rhai grwpiau ethnig, yn seiliedig ar y lefelau cyfatebol a welwyd mewn rhaglenni brechu blaenorol.

Mynegwyd safbwyntiau tebyg gan Gronfa'r Brenin, a rybuddiodd am y risg y byddai’r rhaglen frechu yn ymwreiddio’r anghydraddoldebau sydd wedi cael eu hamlygu gan y pandemig, a hynny mewn modd mor greulon.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar ei strategaeth frechu, sy'n nodi: “Estynnwyd allan at ystod eang o gymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw i geisio sicrhau…nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, a Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ddatganiad yn annog pawb i gael y brechlyn. Nododd y datganiad fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grwpiau hil a ffydd, ac yn ystyried defnyddio mosgiau ac addoldai eraill ar gyfer y rhaglen frechu.

Fodd bynnag, mae'r data'n dangos bod nifer y bobl sy’n cael y brechlyn mewn rhai grwpiau yn is na'r cyfartaledd, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sylweddol sy’n bodoli o ran y niferoedd sy’n cael y brechlyn COVID-19 yng Nghymru.

Y testun pryder mwyaf yw’r ffaith mai'r grwpiau sydd â’r niferoedd lleiaf o bobl sy’n cael y brechlyn yw’r grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf o farwolaeth yn sgil COVID-19.

Pobl mewn rhai grwpiau ethnig

Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi mai’r anghydraddoldeb mwyaf yw’r ffaith bod 75.3 y cant o’r rheiny sydd rhwng 65 a 69 oed ymhlith y boblogaeth Ddu, Asiaidd, Cymysg a grwpiau ethnig eraill, gyda'i gilydd, wedi cael y brechlyn, o'i gymharu ag 88.6 y cant o’r rheiny rhwng 65 a 69 oed yn y grŵp ethnig Gwyn.

Canran y bobl sydd wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn ar gyfer COVID-19 yn ôl oedran a grŵp ethnig

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r graff uchod yn dangos mai’r grŵp ethnig Du sydd â'r ganran isaf o bobl sydd wedi cael y brechiad, o gymharu â'r grwpiau ethnig eraill yr adroddwyd amdanynt, a hynny ym mhob grŵp oedran (ac eithrio'r rhai nad yw eu grŵp ethnig yn hysbys).

Yn yr haf, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol adroddiad a oedd yn nodi mai dynion o gefndir ethnig Du oedd â'r gyfradd marwolaethau uchaf yn sgil COVID-19. Roedd yr adroddiad yn dangos bod gan ddynion o gefndir ethnig Du Affricanaidd gyfradd marwolaethau a oedd 2.7 gwaith yn uwch na chyfradd marwolaethau dynion o gefndir ethnig Gwyn.

Cyfraddau marwolaeth yn sgil COVID-19 ymhlith pobl rhwng 9 a 110 oed yng Nghymru a Lloegr, yn ôl grŵp ethnig

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r graff uchod yn dangos mai dynion o gefndir ethnig Du Affricanaidd, Bangladeshaidd a Du Caribïaidd oedd â'r cyfraddau marwolaeth uchaf, a bod y cyfraddau hyn tipyn yn uwch na'r cyfraddau ar gyfer yr holl grwpiau ethnig eraill.

Pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig

Mae'r graff isod yn dangos canran y rhai sydd wedi cael y brechlyn yn ôl grŵp oedran ac yn ôl ardal o amddifadedd, yn unol â’r hyn sy’n cael ei fesur gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD). Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn fesur cyffredinol o amddifadedd sy'n seiliedig ar nifer o ffactorau, fel incwm, cyflogaeth, iechyd ac addysg.

Canran y bobl sydd wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn ar gyfer COVID-19 yn ôl oedran ac yn ôl chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ym mhob grŵp oedran sydd i’w weld, mae gwahaniaeth amlwg rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig o ran nifer y bobl sydd wedi cael y brechlyn. O ran y rhai sydd wedi cael y brechlyn, mae’r gwahaniaeth mwyaf i’w weld yn nifer y bobl sy'n 80 oed neu’n hŷn, sef 4.8 pwynt canran.

Mae'r graff isod yn dangos bod y gyfradd marwolaethau yn sgil COVID-19 yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith yn uwch na’r gyfradd marwolaethau yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Cyfraddau marwolaeth wedi’u safoni yn ôl oedran mewn perthynas â phob marwolaeth sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Noder: Mae'r graff yn dangos y marwolaethau a ddigwyddodd rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Gorffennaf 2020, ac a gafodd eu cofrestru erbyn 15 Awst 2020.

Beth y mae hyn yn ei olygu?

Mae Cymru yn dechrau llacio’r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd at ddibenion rheoli'r feirws. Mae'r gwaith modelu a ddefnyddir i ddarogan effaith y cam o lacio’r cyfyngiadau, a thrwy hynny gynyddu gallu pobl i gymysgu, yn awgrymu bod trydedd don o'r pandemig yn debygol ym mwyafrif y senarios.

Mae ton arall o’r feirws yn debygol yn sgil y ffaith nad yw nifer o bobl eto wedi’u diogelu rhag COVID-19. Mae hyn naill ai oherwydd nad ydynt wedi cael brechiad neu oherwydd na fydd eu brechlyn yn atal pob haint neu salwch (er bod y brechlynnau yn hynod effeithiol, nid ydynt yn amddiffyn unigolion rhag y clefyd yn llwyr).

Mae hyn yn golygu y bydd y cymunedau hynny lle mae nifer y bobl sy'n cael y brechlyn yn is yn wynebu perygl arbennig yn sgil cynnydd yn lledaeniad y feirws.

Pam mae rhai pobl yn amharod i gael eu brechu?

Canfu arolwg a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddiweddar mai oedolion Du neu Ddu Prydeinig oedd â'r lefel uchaf o betruster o gymharu â grwpiau ethnig eraill. Nododd 44 y cant o oedolion Du neu Ddu Prydeinig eu bod yn teimlo petruster o gymharu ag 8 y cant o oedolion Gwyn.

Petruster a adroddwyd ynghylch brechlynnau, yn ôl grŵp ethnig

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth, roedd y rhesymau a roddwyd dros beidio â dymuno cael y brechlyn yn cynnwys:

  • peidio ag ymddiried yn y brechlynnau oherwydd cyflymder y broses o’u datblygu, a’u sgil-effeithiau anhysbys;
  • clywed hanesion ynghylch ymatebion andwyol y mae pobl wedi’u cael i'r brechlynnau;
  • teimlo nad oes angen brechlyn arnynt; a
  • bod yn amheus ynghylch y broses frechu.

Mae rhesymau tebyg yn cael eu nodi yng nghanlyniadau arolygon a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r graff isod yn dangos y pum rheswm mwyaf cyffredin dros beidio â dymuno cael brechlyn.

Rhesymau dros beidio â chael brechlyn ar gyfer COVID-19 os bydd/pan fydd brechlyn yn cael ei gynnig

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Dywedodd 43 y cant o’r ymatebwyr a oedd yn annhebygol, neu’n weddol annhebygol, o gael brechlyn pe bai brechlyn yn cael ei gynnig iddynt, eu bod yn pryderu ynghylch yr effeithiau hirdymor ar eu hiechyd. Dyma'r rheswm mwyaf cyffredin sydd wedi cael ei fynegi ers canol mis Chwefror 2021.

Mae ymchwil gan is-grŵp ethnigrwydd SAGE yn awgrymu bod rhesymau penodol dros betruster ynghylch y brechlyn ymhlith rhai grwpiau ethnig, gan gynnwys:

  • hyder isel ynghylch y brechlyn;
  • y canfyddiad o risg;
  • diffyg ymddiriedaeth mewn awdurdodau cyhoeddus;
  • rhwystrau o ran cyfleustra a mynediad;
  • cyd-destun cymdeithasol-ddemograffig a diffyg cefnogaeth;
  • prinder brechlynnau yn cael eu cynnig, neu ddiffyg cyfathrebu gan ddarparwyr dibynadwy ac arweinwyr cymunedol.

Beth ellir ei wneud i oresgyn petruster ynghylch y brechlyn?

Mae rhai o’r atebion sydd wedi cael eu cynnig gan is-grŵp ethnigrwydd SAGE fel modd o oresgyn y rhwystrau hyn yn cynnwys:

  • gwella ymddiriedaeth drwy feddygon teulu a chanolfannau iechyd, a hynny drwy hyrwyddo a chynnig brechlynnau, a chynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd o bob grŵp ethnig sy’n cael y brechlyn;
  • ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys gweithio gydag arweinwyr cymunedol, darparu fideos addysgol mewn gwahanol ieithoedd, a darparu gwybodaeth glir am unrhyw sgîl-effeithiau;
  • mynd i'r afael â materion mynediad a chyfleustra ar lefel leol, er enghraifft drwy ddarparu brechiadau mewn gweithleoedd, canolfannau cymunedol a lleoliadau crefyddol, darparu cymorth ar gyfer y broses o wneud apwyntiad (gan gynnwys trafnidiaeth), a darparu nodiadau atgoffa ar gyfer apwyntiadau;
  • cyfathrebu sydd wedi'i deilwra'n ddiwylliannol ac sy’n cael ei rannu gan ffynonellau dibynadwy, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer staff gofal iechyd i hwyluso sgyrsiau am gredoau ynghylch brechlynnau, a hyfforddiant i arweinwyr ffydd ynghylch ymchwil i frechlynnau.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth ecwiti brechu sy'n nodi y bydd Pwyllgor Brechu Teg newydd yn “sicrhau bod y rhaglen frechu yn cynnwys pawb”. Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar bedwar maes:

  1. Nodi camau gweithredu: bydd grwpiau poblogaeth sydd â chyfraddau isel o bobl sy’n cael y brechlyn yn cael eu nodi, a bydd timau lleol yn cael eu hannog i ddatblygu dealltwriaeth o gymunedau lleol.
  2. Dilyn trywydd a arweinir gan y gymuned: bydd y pryderon a’r rhwystrau penodol sydd ynghlwm wrth frechu yn cael eu nodi, a gall timau lleol ddarparu gwybodaeth ynghylch ble y dylid targedu ymyriadau effeithiol.
  3. Negeseuon wedi'u teilwra: llunio negeseuon ar y cyd, mewn ffordd a arweinir gan y gymuned, er mwyn mynd i’r afael â’r ofnau a’r pryderon sydd gan bobl. Dylai’r negeseuon gael eu rhannu gan fodelau rôl yn y gymuned sy'n adlewyrchu amrywiaeth.
  4. Cyfrif am amrywiaeth: ystyried yr holl broses frechu er mwyn sicrhau y gellir gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer anghenion unigolion.

Y testun pryder mwyaf o hyd yw’r ffaith mai'r grwpiau sydd â’r niferoedd lleiaf o bobl sy’n cael y brechlyn yw’r grwpiau sydd â’r risg fwyaf o farwolaeth yn sgil COVID-19. Bydd y bobl hyn yn wynebu lefel uwch o risg os oes trydedd don o'r feirws. Mae hyn yn her sylweddol o ran rheoli effaith y feirws ar rai o'r bobl sy’n fwyaf agored i niwed yng Nghymru.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru