Pwy sy'n berchen ar wely'r môr, a pham mae'n bwysig

Cyhoeddwyd 22/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Ystâd y Goron yn gasgliad o asedau morol a thir a daliadau sy'n perthyn i'r frenhines sy'n teyrnasu. Yr asedau morol, a'r rôl gynyddol bwysig y maent yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yw ffocws yr erthygl hon.

Mae Ystâd y Goron yn cynnwys gwely'r môr allan i 12 môr-filltir, tua 65% o flaendraeth a gwely afonydd Cymru, a nifer o borthladdoedd a marinas. Fodd bynnag, nid eiddo preifat y frenhines ydyw. Ni all y frenhines ei werthu, ac nid yw refeniw ohono'n perthyn i'r sofran.

Defnyddir y term "Ystâd y Goron" hefyd ar y corff sy'n gweinyddu'r ystâd, a sefydlwyd gan Ddeddf Ystad y Goron 1961 ac a gaiff ei arwain gan fwrdd - Comisiynwyr Ystâd y Goron. Mae'n annibynnol ar y llywodraeth a'r frenhines gyda swyddogaeth gyhoeddus i:

  • fuddsoddi mewn asedau eiddo penodol sy'n perthyn i'r Frenhines a’u rheoli; a
  • rhoi ei warged refeniw bob blwyddyn i gronfa gyfunol y DU.

Pam mae hyn yn bwysig o ran uchelgeisiau hinsawdd

Mae Ystâd y Goron yn gweithredu fel porthor ar gyfer unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd am ddefnyddio neu ddatblygu gwely'r môr.

Yr ystâd sy’n gyfrifol am awdurdodi gweithgareddau mor amrywiol â phibellau olew a nwy, echdynnu agregau morol, ffermio pysgod, a cheblau telathrebu a phŵer. Hefyd:

... Mae [gan Ystâd y Goron] hawliau i’r adnoddau ar y silff gyfandirol, megis adnoddau naturiol ac ynni ar y môr, ond yn eithrio tanwyddau ffosil.

Y tu hwnt i'r terfyn o 12 môr-filltir, mae gwely'r môr yn ddi-berchennog. Fodd bynnag, mae gan wahanol gyrff y llywodraeth hawliau dros adnoddau o fewn y parth economaidd neilltuedig (12-200 môr-filltir, a elwir hefyd yn 'alltraeth'). Mae'r cyfrifoldeb am olew a nwy ar y môr yng Nghymru yn cael ei gadw i Lywodraeth y DU, ond Ystâd y Goron sy'n gyfrifol am wynt a thonnau ar y môr.

O ganlyniad mae'n chwarae rhan sylfaenol yn natblygiad cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol, y mae’n ei ddisgrifio fel ei "gweithgareddau mwyaf sylweddol" yng Nghymru.

Prydlesu gwely'r môr ar gyfer cynhyrchu ynni

Mae Ystad y Goron yn dyfarnu'r hawliau i ddefnyddio gwely'r môr trwy broses brydlesu. Mae'r prydlesi presennol yng Nghymru yn cynnwys:

  • Wave Hub Ltd sy’n prydlesu ardal 90km2 - Parth Arddangos Sir Benfro (PDZ) - sydd â'r potensial i gynnal tair aráe ynni tonnau gyda’r capasiti i gynhyrchu hyd at 30MW yr un, a phrosiect arddangos gwynt arnofiol cyn-fasnachol o 90MW.
  • Menter Môn, sy’n fenter gymdeithasol yn Ynys Môn, ac sy’n datblygu prosiect ffrwd llanw Morlais. Mae'n prydlesu ardal 35km2 o wely'r môr, gyda'r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.
  • Gwynt y Môr, sy’n fferm wynt 576MW ar y môr (sefydlog ar y gwaelod) sydd wedi'i lleoli 14km o arfordir gogledd Cymru, ac yn cwmpasu tua 79km². Gall gynhyrchu digon o ynni glân i bweru 400,000 o aelwydydd, sy'n cyfateb i dorri 1.7 miliwn tunnell y flwyddyn o allyriadau CO₂. Mae Ystad y Goron wedi dyfarnu estyniad yn ddiweddar i'r safle presennol, sef Awel y Môr erbyn hyn.

Mae rhan o wely môr Cymru wedi'i chynnwys yng Nghylch 4 presennol Prydlesu Gwynt ar y Môr - cylch prydlesu mawr cyntaf y DU mewn degawd, sy’n cynnig y cyfle am broseictau gwynt 8GW newydd ar y môr.

Mae chwe phrosiect arfaethedig, sy'n cael eu hasesu ar hyn o bryd am eu heffeithiau posibl ar yr amgylchedd – gofyniad cyfreithiol a elwir yn 'Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd ar lefel cynllun (HRA)'. Disgwylir i'r broses ddod i ben yn ystod Gwanwyn 2022, pan fydd cynigwyr llwyddiannus yn ymrwymo i 'Gytundeb Prydlesu' h.y. cael hawliau gwely'r môr.

Mae tri o'r prosiectau arfaethedig wedi'u lleoli yn ‘ardal Gogledd Cymru a Môr Iwerddon', ac adroddwyd mai dyma a wnaeth ddenu’r cynigion mwyaf brwd. Mae un o'r prosiectau wedi'i leoli oddi ar arfordir gogledd Cymru, i'r gogledd-ddwyrain o Ynys Môn. Y cynigydd llwyddiannus oedd consortiwm o EnBW a BP, ac mae gan y prosiect gapasiti posibl o 1,500MW, a fyddai'n darparu digon o bwer i ddiwallu anghenion trydan oddeutu 1.4 miliwn o gartrefi.

map yn dangos portffolio morol cyfredol Ystâd y Goron

Dyfodol gwynt arnofiol

Mae Ystâd y Goron wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer prydlesu gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, gydag uchelgais i ddatgloi hyd at 4GW o gapasiti ynni glân, a darparu pŵer glân ar gyfer bron i bedair miliwn o gartrefi.

Mae gwynt arnofiol ar y môr yn cyfuno technoleg y llwyfannau a ddefnyddir yn y diwydiant olew a nwy, a thyrbinau gwynt. Mae hyn yn golygu y gall tyrbinau gwynt symud i ddyfroedd dyfnach lle mae cyflymder y gwynt yn uwch a chael llai o effaith weledol.

Mae prosiectau llai, cynfasnachol yn cael cefnogaeth i ddatblygu technolegau newydd ar gyfer ystod o amodau a lleoliadau gwely'r môr. Fel rhan o hyn, mae hawliau i wely'r môr hefyd wedi'u dyfarnu ar gyfer prosiect arddangos gwynt arnofiol, cyntaf Cymru, sef Erebus. Wedi'i leoli tua 45 km o arfordir Sir Benfro, ei nod yw darparu digon o ynni ar gyfer 90,000 o gartrefi (96MW).

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal gwerthusiad o allu cyfredol porthladdoedd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy ar y môr sy’n arnofio, ac mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP) wedi dweud ei bod yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i greu canolfan ragoriaeth arnawf ar y môr yn y Môr Celtaidd.

Faint yw gwerth Cymru i Ystâd y Goron?

Mae prisiad portffolio morol Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol o £49.2 miliwn yn 2020 i £549.1 miliwn yn 2021. Mae'r cynnydd hwn yn deillio o Gylch 4 Prydlesu Gwynt ar y Môr.

Mae cyfanswm portffolio asedau Cymru ar hyn o bryd yn werth £603 miliwn.

Ystâd y Goron yn yr Alban, lle mae asedau a refeniw wedi'u datganoli

Sefydlwyd Ystad y Goron yr Alban yn 2017 fel corfforaeth gyhoeddus i oruchwylio'r gwaith o reoli asedau Ystâd y Goron yr Alban. Mae Llywodraeth yr Alban yn datgan bod gan Marine Scotland rôl allweddol o ran diwygio Ystâd y Goron yn yr Alban, ac arwain ei chynllun rheoli strategol.

Y llynedd, cafodd refeniw o £12 miliwn ei ddychwelyd gan ystad y Goron yn yr Alban i Lywodraeth yr Alban ar gyfer gwariant cyhoeddus, a chronnodd gronfa o £38.6 miliwn ar gyfer buddsoddi yn yr economi las.

Yn Cymru Sero Net, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod incwm o brydlesu gwely'r môr yn nyfroedd yr Alban, yn cael ei ddychwelyd i Weinidogion yr Alban, a “Bydd Ystad y Goron yn elwa'n ariannol ar y ffaith bod Cymru'n cynnal gweithrediadau ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr. Dylai fod cydraddoldeb â'r Alban”. Mae'n datgan “Dylai Cymru gael budd o brosiectau ynni ar y tir ac yn nyfroedd Cymru."

Ddydd Llun 21 Mehefin 2021, cyflwynodd Liz Saville Roberts AS Fil Aelodau Preifat - Bil Ystad y Goron (Datganoli i Gymru) - i Senedd y DU, a fyddai'n datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson AS yn credu y byddai datganoli Ystâd y Goron i Gymru yn cymhlethu'r prosesau presennol. Fodd bynnag, mae Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru yn meddwl ei fod yn bendant yn syniad y dylem ei gymryd o ddifrif.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru