Perthynas rhwng y DU a'r UE yn y Dyfodol: beth yw'r diweddaraf ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 06/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Ym mis Mehefin, ysgrifennwyd am yr heriau a'r cyfleoedd yn sgil Brexit i'r sector addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru. Roedd yn rhan o ymchwiliad parhaus y Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn clywed tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn yr hydref.

Yma, rydym yn rhoi diweddariad ar yr erthygl flaenorol fel rhan o gyfres ehangach ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. I gael trosolwg cyffredinol o'r cynigion, darllenwch yr erthygl blog yma.

Diwedd ar ryddid i symud

Ar hyn o bryd, er, ar y cyfan, fod yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol nad ydynt yn dod o'r UE sy'n dod i astudio a gweithio yn y DU gael fisa a gafwyd o dan y rheolau mewnfudo ar sail pwyntiau, gall myfyrwyr a staff yr UE astudio yn y DU o dan y rheolau rhyddid i symud presennol [PDF: 1,377 KB]. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallant, yn y rhan fwyaf o achosion, astudio neu weithio yma fel pe baent yn fyfyriwr neu'n weithiwr o'r DU.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn ei Phapur Gwyn:

‘free movement of people will end as the UK leaves the EU’.

Os nad oes rhyddid i symud, beth arall sydd ar gyfer staff a myfyrwyr?

Mae'n ymddangos nad bwriad y cynnig ar gyfer Cynllun Symudedd Ieuenctid yn y Papur Gwyn yw gweithredu fel system ar gyfer mewnfudo myfyrwyr yn gyffredinol.

Mae'r Papur Gwyn yn defnyddio'r term ‘Fframwaith ar gyfer Symudedd’ lle mae'n amlinellu cynlluniau ar gyfer symud ‘dros dro’ i fyfyrwyr, gweithwyr a thwristiaeth sy'n ‘ymweld’.

Drwy gydol yr adran hon o'r Papur Gwyn, nid oes datganiad pendant ynghylch myfyrwyr yn gallu cwblhau rhaglenni astudio llawn o dan y Fframwaith ar gyfer Symudedd – mae'n nodi yn hytrach y dylai myfyrwyr barhau i gael y cyfle i gael budd o brifysgolion blaenllaw ei gilydd.

Wrth gyfeirio at symudiad gwyddonwyr ac ymchwilwyr mae'n sôn unwaith eto am ‘symud dros dro’. Y tu hwnt i'r Fframwaith ar gyfer Symudedd, mae'r Papur Gwyn yn dawel ar y cyfan am ddyfodol system mewnfudo'r DU ac felly yn dawel i raddau helaeth ar ddyfodol mewnfudo myfyrwyr a staff yr UE. Mae'r papur yn nodi y bydd rhagor o fanylion am system fewnfudo'r DU yn cael eu nodi maes o law ac y disgwylir i Fil Mewnfudo gael ei gyflwyno i'r Senedd.

Fodd bynnag, nodir yn glir yn y papur y bydd system mewnfudo'r DU yn y dyfodol yn parchu amcan y Llywodraeth i reoli a lleihau mewnfudo net.

Ynghyd â chynlluniau'r DU i ddinasyddion yr UE i wneud ceisiadau am statws cyn setlo ac ar ôl setlo, mae'n debygol y bydd unrhyw drefniant mewnfudo staff a myfyrwyr yr UE yn y dyfodol yn cael ei reoli'n fwy.

Sut beth fydd y Cynllun Symudedd Ieuenctid?

Mae'r Papur Gwyn, serch hynny, yn rhoi synnwyr o'r syniadau y tu ôl i'r Cynllun Symudedd Ieuenctid arfaethedig.

Mae'n dweud y gallai'r cynllun gael ei fodelu ar gynlluniau symudedd ieuenctid eraill y DU â phartneriaid eraill o amgylch y byd, fel Awstralia a Chanada.

Yma, mae'n debygol o gyfeirio at yr hyn a elwir yn Haen 5 (Cynllun Symudedd Ieuenctid) lle mae Awstralia a Chanada yn cymryd rhan. System sy'n seiliedig ar bwyntiau yw'r cynllun, sydd ond ar agor i wledydd sy'n cymryd rhan, ac mae terfyn ar y cyfanswm o leoedd a ganiateir (sef 34,000 ar gyfer Awstralia a 6,000 ar gyfer Canada yn 2018).

Rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o lefel benodol o gyllid, fod rhwng 18 a 31 oed ac, yn arwyddocaol, gallant ond aros yn y DU am 2 flynedd. Byddai symudiad o dan y cynllun hwn yn atal person ifanc rhag dilyn gradd israddedig 3 blynedd llawn. Ar lefel ôl-radd, efallai na fyddant yn gallu astudio cyrsiau technegol penodol heb gymeradwyaeth y Swyddfa Dramor.

Mae'r Cynllun Symudedd Ieuenctid hwn yn fwy rhagnodol ac o natur wahanol i'r rheolau rhyddid i symud presennol.

Cydweithredu: mwy na dim ond rhaglenni

Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys cynigion am nifer o gytundebau cydweithredol. Mae'r ddau sy'n berthnasol i addysg uwch ac addysg bellach yn gytundebau ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd, ac addysg a diwylliant.

Beth mae'r DU wedi'i gynnig?

Mae'r DU yn cynnig perthynas ddyfnach mewn rhai agweddau o gydweithredu yr UE:

‘through new cooperative accords that provide for a more strategic approach than simply agreeing the UK’s participation in [EU programmes]’

Mae'r Papur Gwyn yn nodi y byddai angen strwythurau llywodraethu ar gytundebau o'r fath, yn ogystal â chyfraniadau ariannol priodol gan y DU er mwyn caniatáu i'r ddwy wlad siapio'r gweithgareddau dan sylw.

Felly, mae'r Papur Gwyn yn cynnig dull nid yn unig i gymryd rhan, ond hefyd i barhau â gweithgareddau dylanwadu y DU yn ymwneud â gwyddoniaeth, arloesedd ac addysg.

Mae'r cytundeb arfaethedig ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yn eang iawn gan gwmpasu cymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon Europe ond hefyd agweddau meddalach sydd wedi'u nodi yn flaenoriaethau gan brifysgol a cholegau Cymru, fel rhwydweithiau ymchwil a chyfryngau ar gyfer deialog.

Yn yr un modd, mae'r adran cytundeb diwylliant ac addysg yn mynd i'r afael â gofynion sector allweddol gyda'r potensial i barhau i gymryd rhan yn y cynllun Erasmus+ newydd fel y mae prifysgolion o Gymru wedi bod yn galw amdano, Prifysgolion Cymru [PDF: 132KB) a ColegauCymru [PDF: 72KB].

A beth yw barn yr UE ar hyn i gyd?

Mae Cyngor yr UE wedi cyhoeddi canllawiau trafod [PDF: 217KB], tra bod Senedd Ewrop wedi rhyddhau datrysiad ar berthynas yr UE a'r DU yn y dyfodol [PDF: 292KB].

Ymddengys nad oes unrhyw beth yn y canllawiau trafodaeth neu ddatrysiad seneddol a fyddai'n diystyru mabwysiadu'r cynigion unigol hyn, mewn egwyddor.

Wedi dweud hynny, oherwydd natur y trafodaethau, a barn yr UE ar natur annatod y pedwar rhyddid (symud nwyddau, gwasanaethau, cyfalaf a phobl), mae'n bwysig ystyried y cynigion hyn fel rhannau o un cyfan, a bydd y penderfyniad i'w derbyn neu beidio yn dibynnu ar gynnydd a chytundeb mewn meysydd eraill yn ogystal â'u rhinweddau annibynnol eu hunain.

O ran y ddarpariaeth ar gyfer symud pobl, mae Cyngor yr UE yn nodi y dylai unrhyw gytundeb fod yn uchelgeisiol ac yn seiliedig ar ddwyochredd nad yw'n gwahaniaethu ymysg aelod-wladwriaethau. Y tu hwnt i hyn, nid yw'n galw am ryddid i symud parhaus ar gyfer myfyrwyr na staff. Ar yr un pryd, mae Senedd Ewrop yn ei ddatrysiad yn ategu gwerth cydweithredu diwylliannol ac addysgol, gan gynnwys dysgu a symudedd ieuenctid ac y byddai'n croesawu cydweithredu ym maes ymchwil ac arloesedd.

Fodd bynnag, mae'r datrysiad yn mynd yn ei flaen i nodi y byddai'r DU yn cymryd rhan yn rhaglenni'r UE fel trydedd wlad. Byddai hyn yn golygu na fydd gan y DU rôl gwneud penderfyniadau yn y rhaglenni hyn.

Yn arwyddocaol, mae Senedd Ewrop hefyd wedi nodi na ddylai cyfranogiad y DU yn y dyfodol olygu y bydd y DU yn cael mwy o arian yn ôl nag y mae'n talu i mewn i raglen. Gyda Phrifysgol Caerdydd [PDF: 170KB] yn honni bod y DU yn fuddiolwr net o gyllid ymchwil Ewropeaidd, gallai fod goblygiadau ariannu o hyd i brifysgolion Cymru y byddai angen iddynt ymateb iddynt.

Casgliad

Mae cynigion Chequers yn cynnwys dau fater o ddiddordeb arwyddocaol ac uniongyrchol i addysg bellach ac addysg uwch, y fframwaith symudedd a'r cytundebau cydweithredol. Fodd bynnag, mae'n dawel o ran y cwestiwn arwyddocaol ynghylch y system mewnfudo yn y dyfodol sydd, oherwydd y bwriad i reoli mewnfudo net, yn ymddangos yn annhebygol o fynd i'r afael â phryderon prifysgolion na galwadau Llywodraeth Cymru am ddim cyfyngiadau mewnfudo ychwanegol i fyfyrwyr.

Er bod yr UE yn croesawu cydweithrediad parhaus gyda'r DU ar wyddoniaeth, arloesedd ac addysg, mae'n ymddangos mai sefyllfa bresennol yr UE yw peidio â chynnig unrhyw bosibilrwydd i barhau i wneud penderfyniadau yn y DU yn rhaglenni'r UE. Os na fyddai'r sefyllfa hon yn newid, gallai bennu terfyn ar lefel dylanwad y DU o fewn unrhyw gytundeb cydweithredol sydd â'r rhaglenni hyn.


Erthygl gan Phil Boshier , Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru