Pierhead in Cardiff Bay

Pierhead in Cardiff Bay

Pa mor effeithiol yw pwyllgorau'r Senedd?

Cyhoeddwyd 18/11/2021   |   Amser darllen munudau

Pwyllgorau yw’r hyn a elwir weithiau yn 'gegin' senedd, lle mae llawer o waith yn cael ei wneud, yn aml heb ei weld. Ond sut ydyn ni'n gwybod a yw ein pwyllgorau’n gweithio yn y ffordd orau? Sut allwn ni fesur eu heffeithiolrwydd pan fydd natur a chyd-destun eu gwaith mor gymhleth?

Y llynedd comisiynwyd yr Athro Diana Stirbu o Brifysgol Fetropolitan Llundain drwy Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd i edrych ar bŵer, dylanwad ac effaith pwyllgorau'r Senedd. Y nod oedd datblygu ffordd i werthuso effeithiolrwydd pwyllgorau yn y Chweched Senedd.

Cyhoeddir adroddiad terfynol yr Athro Stirbu heddiw, ac mae’r adroddiad hwn wedi’i gymeradwyo gan Fforwm Cadeiryddion y Senedd.

Beth mae pwyllgorau yn ei wneud ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd nid oes gan bwyllgorau’r Senedd ffordd y cytunwyd arni i fesur eu heffeithiolrwydd. Darganfu ymchwil yr Athro Stirbu arferion da ar hyn o bryd, fel monitro’r dull y caiff argymhellion pwyllgorau eu rhoi ar waith, a chynnal gwaith craffu dilynol.

Ond mae'r arferion da hyn yn aml yn digwydd yn anghyson ac ar wahân. Daeth y gwaith ymchwil i'r casgliad y dylai gwerthuso fod yn rhan annatod o ddull gweithredu strategol pwyllgorau, er mwyn sicrhau cydlyniad rhwng eu hamcanion, yr effaith / canlyniadau hirdymor a ddymunir, ac i ganfod yr hyn y maent yn ei wneud mewn gwirionedd. Mae hyn yn cynnwys gosod nodau, cynllunio gwaith yn y dyfodol, monitro, olrhain cynnydd, ac asesu beth yw gwaddol eu gwaith.

Er mwyn edrych yn fanwl ar sut y gellid cyflawni hyn, yn ystod y gwaith ymchwil edrychwyd ar:

  • yr amodau ar gyfer gweithgarwch pwyllgorau effeithiol, a’r
  • amodau ar gyfer gwerthuso effeithiol a hunan-ystyriaeth.

Sut gwnaed yr ymchwil?

Adolygodd yr Athro Stirbu y dystiolaeth gyfredol a'r llenyddiaeth sydd ar gael ar effeithiolrwydd pwyllgorau seneddol. Yna gwnaed gwaith ymchwil maes, a oedd yn cynnwys cyfweliadau â gwleidyddion a swyddogion, trafodaethau grŵp, a gweithdai cydweithredol. Siaradodd yr Athro Stirbu hefyd â rhanddeiliaid allanol a rhyngwladol.

Beth felly yw pwyllgorau effeithiol?

Canfu'r Athro Stirbu bod dealltwriaeth gyffredin o beth yw pwyllgorau effeithiol. Maen nhw:

  • ag Aelodau sy’n ymgysylltu â’u gwaith yn llawn ac maent â diddordeb ynddo.
  • cefnogir yr Aelodau gan wasanaethau cymorth rhagorol, mae ganddynt fynediad at gyngor ac arbenigedd allanol, ac maent yn gweithredu o fewn strwythurau ble mae nodau corfforaethol yn cyd-fynd â busnes pwyllgorau.
  • yn gallu cynllunio a rheoli eu gwaith yn strategol, gyda nodau a phwrpas clir. Maent yn canolbwyntio ar ganlyniadau, nid gweithgareddau ac mae ganddynt syniad clir a rennir o beth yw llwyddiant a sut y gellir dangos tystiolaeth ohono.
  • mae pwyllgorau effeithiol yn meithrin dulliau gweithredu partneriaeth ac ar y cyd, yn seilio eu gwaith ar dystiolaeth, yn hyrwyddo dysgu gwersi, yn cymryd rhan mewn gwerthuso, hunan-ystyriaeth a gwella parhaus.
  • mae pwyllgorau effeithiol yn gweithio’n dryloyw ac yn cyfleu eu gwaith yn effeithiol i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. Mae eu hadroddiadau yn hawdd eu defnyddio, ac yn adrodd straeon llawn cymhelliant am eu gwaith a'i effaith. Mae ganddynt berthnasoedd da gydag amrywiaeth eang ac amrywiol o randdeiliaid, sy'n eu helpu i wneud yn siŵr eu bod yn berthnasol; ac
  • mae pwyllgorau effeithiol yn uchelgeisiol ac yn greadigol wrth estyn allan at gynulleidfaoedd newydd, wrth gynllunio gweithgareddau sy'n addas at y diben ac yn sicrhau'r effaith fwyaf, ac yn cynnig profiad byw perthnasol.

Sut y gellir gwerthuso a hunan-ystyried yn effeithiol?

Daeth y gwaith ymchwil o hyd i ffyrdd i bwyllgorau wella eu gwaith a mesur eu heffeithiolrwydd.

Mae'r rhain yn cynnwys: casglu data yn well, mynd i'r afael â rhwystrau strwythurol a diwylliannol i ymgysylltiad Aelodau wrth werthuso a hunan-ystyried, ymgysylltiad mwy ystyrlon ag ymatebion y Llywodraeth (y tu hwnt i’w derbyn yn unig), mewnbwn allanol i werthuso, ac adborth rheolaidd ar waith pwyllgorau.

Cael rhagor o dystiolaeth gan amrywiaeth ehangach o bobl

Roedd ymgysylltu â'r cyhoedd ac amrywiaeth y dystiolaeth yn themâu trawsbynciol yn y gwaith ymchwil. Datgelodd y gwelir bod effaith pwyllgorau yn dibynnu, i raddau, ar ba mor dda y maent yn cyfathrebu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Ond canfu hefyd fod y rhain yn swyddogaethau annibynnol pwysig eu hunain.

Datgelodd arfer da a gwersi a ddysgwyd o brofiadau blaenorol. Roedd hyn yn cynnwys ymdrech wirioneddol i sicrhau bod Aelodau a swyddogion yn ymgysylltu’n ystyrlon, a dulliau amrywiol o ymgysylltu a ddefnyddir gan bwyllgorau. Canfu hefyd ragor o gyfleoedd i bwyllgorau ddefnyddio ymgysylltiad digidol i gasglu amrywiaeth ehangach o dystiolaeth.

Mae'r rhwystrau y mae pwyllgorau yn eu hwynebu wrth gasglu amrywiaeth eang o dystiolaeth yn cynnwys dehongliadau gwahanol o ystyr 'ymgysylltu', a diffyg data ar gyfer monitro am amrywiaeth eu tystiolaeth. Cyfeiriwyd hefyd at gyfryngau Cymraeg 'gwan' a all fod yn her i ymgysylltu â'r cyhoedd ac i gyfleu gwaith pwyllgorau.

Beth ellir ei wneud yn wahanol yn y Chweched Senedd?

Mae'r adroddiad yn argymell y dylid gwerthuso pwyllgorau ar dair lefel, sef:

  • yn ôl pwyllgorau unigol;
  • ar lefel gorfforaethol y Senedd, i sicrhau persbectif ehangach; ac
  • yn allanol, i sicrhau persbectif hydredol, annibynnol.

Mae'r Athro Stirbu yn awgrymu fframwaith i helpu pwyllgorau i sicrhau bod cydlyniad rhwng eu nodau strategol, eu gweithgareddau a gynllunir, a'r broses sydd ar waith i adolygu eu heffaith a'u dylanwad yn rheolaidd.

Cyflwynir hwn fel model ‘theori newid’, sy’n ddisgrifiad o ran pam y bydd ffordd benodol o weithio yn effeithiol, gan ddangos sut mae newid yn digwydd yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn yr hirdymor i gyflawni'r effaith a fwriadwyd.

Mae'n awgrymu y dylai fframwaith mesur ddechrau drwy edrych ar ba effaith a chanlyniadau hirdymor y mae pwyllgorau eisiau eu cyflawni. Yna dylai nodi sut y bydd y pwyllgor yn gwybod a yw wedi cyflawni ei uchelgeisiau, ar gyfer datblygu cyfres o fesurau a ffyrdd o ddangos llwyddiant (neu gynnydd) o ganlyniad iddynt.

Beth am seneddau eraill?

Edrychodd Pwyllgor Cyswllt Tŷ'r Cyffredin y DU yn fanwl ar effeithiolrwydd pwyllgorau dethol yn ei Adroddiad 2019. Roedd yr argymhellion yn yr Adroddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys: cynllunio strategol, atebolrwydd, tystiolaeth, ymgysylltu, ymchwil, cyfathrebu, cydbwysedd rhwng y rhywiau ac adnoddau.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cymeradwywyd adroddiad yr Athro Stirbu gan Fforwm y Cadeiryddion (sy'n bwyllgor anffurfiol sy'n cynnwys holl gadeiryddion pwyllgorau'r Senedd). Caiff yr argymhellion eu gweithredu ledled y Senedd.

Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau, oherwydd y mis hwn dechreuwyd monitro amrywiaeth tystiolaeth pwyllgorau, a strategaeth cyfnewid gwybodaeth newydd y Senedd.

Gallwch ddarllen adroddiad ymchwil llawn yr Athro Stirbu a’i hargymhellion yn ei hadroddiad, 'Pwer, Dylanwad ac Effaith Pwyllgorau’r Senedd: Datblygu fframwaith ar gyfer mesur pa mor effeithiol yw’r pwyllgorau'.

Mae gan bwyllgorau’r Senedd rôl bwysig wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a chraffu ar ddeddfau drafft. Dengys y gwaith ymchwil hwn bod cyfleoedd i wella’r modd maen nhw'n gweithio, er budd pobl Cymru.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru