Methu symud ymlaen â’r trafodaethau ynghylch treth tir gwag

Cyhoeddwyd 05/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/10/2021   |   Amser darllen munudau

Ymddengys nad yw Cymru yn ddim agosach at gyflwyno treth tir gwag.

Ni all Llywodraeth Cymru gyflwyno’r dreth nes bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i ddatganoli’r pwerau angenrheidiol.

Ond, yn ôl Llywodraeth Cymru, ni yw ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cymhwysedd ar gyfer treth tir gwag wedi symud ymlaen dim.

Mae’n honni bod Llywodraeth y DU wedi newid y rheolau droeon o ran y wybodaeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei darparu er mwyn datganoli’r pwerau trethu perthnasol.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud sylw cyhoeddus ar y mater hyd yma.

Sut y daethom i’r fan hon?

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Llywodraeth Cymru i greu trethi datganoledig newydd.  Yn 2017 cynigiodd Llywodraeth Cymru bedwar syniad posibl ar gyfer trethi:

  • treth ar blastig untro
  • ardoll i ariannu gofal cymdeithasol
  • treth ar dwristiaeth
  • treth ar dir gwag

Yn 2018, dewisodd Llywodraeth Cymru dreth tir gwag i “brofi’r pwerau” a nodwyd yn Neddf Cymru 2014 (gweler isod). Nod y dreth yw cymell datblygiadau tai newydd a chynyddu datblygiadau masnachol ar dir gwag.

Sut mae'r broses yn gweithio?

Cyhoeddwyd Papur Gorchymyn gyda Deddf 2014: Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol. Mae’r papur yn cynnwys y meini prawf i’w defnyddio wrth asesu unrhyw drethi newydd posibl. Mae’r rhain yn cynnwys i ba raddau y gallai'r dreth newydd:

  • effeithio ar bolisi ariannol neu facro-economaidd y DU;
  • cynyddu risgiau o ran osgoi talu trethi neu greu beichiau ychwanegol o ran cydymffurfio i fusnesau a/neu unigolion;
  • cyd-fynd â chyfrifoldebau datganoledig.

Mae’r papur hefyd yn cynnwys y manylion y mae angen i Lywodraeth Cymru eu darparu wrth gynnig treth newydd i’w datganoli. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y sylfaen drethu
  • y refeniw a'r effaith economaidd a ragwelir;
  • yr effaith a ragwelir ar refeniw'r DU neu o ran rhyngweithio â’r trethi ar godir drwy’r DU gyfan;
  • yr effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion;
  • asesiad yn seiliedig ar yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Hawliau Dynol 1998, Ddeddf Cydraddoldeb 2010; a
  • chynlluniau casglu a chydymffurfio.

Os bydd Llywodraeth y DU yn cytuno bod y dreth arfaethedig newydd yn bodloni’r meini prawf, bydd angen i ddau Dŷ’r Senedd a Senedd Cymru gymeradwyo Gorchymyn y Cyfrin Gyngor cyn y gellid datganoli’r pwerau trethu i Gymru.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud?

Ym mis Medi 2020, cyflwynodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, gais ffurfiol i Lywodraeth y DU ddatganoli cymhwysedd trethu ychwanegol ar gyfer treth tir gwag ym mis Mawrth 2020.

Dywedodd y Gweinidog fod y cais yn dilyn “dwy flynedd o waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Drysorlys Ei Mawrhydi wybodaeth ddigonol i asesu cynigion Llywodraeth Cymru”.

Fodd bynnag, roedd y Gweinidog yn feirniadol o’r broses:

Mae’r profiad o symud drwy’r broses wedi bod yn hirfaith ac yn heriol, gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi yn gofyn yn barhaus am fanylion ynglŷn â gweithrediad penodol y dreth arfaethedig – mater i Gymru – yn hytrach na gwybodaeth ynglŷn â datganoli cymhwysedd ar gyfer deddfwriaeth mewn maes trethu newydd.

Teimlai’r Gweinidog fod y broses yn anaddas, gan ddweud “y gall Trysorlys Ei Mawrhydi symud y pyst o ran pa wybodaeth sydd ei hangen ar unrhyw adeg”.

Roedd yn amau a fyddai pwerau trethu newydd yn cael eu datganoli i Gymru. Dywedodd y Gweinidog:

O ystyried yr heriau yr ydym wedi’u hwynebu wrth hebrwng y maes penodol a chul iawn hwn o gymhwysedd deddfwriaethol drwy’r system, mae’n anodd rhag-weld sefyllfa lle gallai Llywodraeth Cymru lwyddo i ddadlau’r achos dros gymhwysedd trethu pellach, os bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn parhau.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb yn ffurfiol i’r materion hyn hyd yma.

A oes ateb?

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried yn flaenorol a oes achos dros gael asesiad gan drydydd parti o’r wybodaeth y mae’n ei darparu i ategu cynnig i ddatgnoli pwerau deddfu. Byddai hynny’n rhoi goruchwyliaeth annibynnol o’r broses.

Nid yw’n glir a yw Llywodraeth Cymru wedi gallu symud ymlaen â’r cynnig hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain dadl ar ddatganoli pwerau trethu newydd ddydd Mawrth 5 Hydref. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru