Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb olaf ar gyfer 2021-22 ond beth sydd yn y gyllideb honno?

Cyhoeddwyd 14/03/2022   |   Amser darllen munudau

Ar 15 Chwefror 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hail Gyllideb Atodol ar gyfer 2021-22. Ymhlith y dyraniadau allweddol mae cyllid ar gyfer yr ymateb i COVID-19 a’r argyfwng costau byw.

Pam cyhoeddi Cyllideb Atodol?

Cyllidebau Atodol yw’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer newidiadau i’w chyllideb bob blwyddyn. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘rheoleiddio’r’ newidiadau. Yn gyffredinol, bydd yna ddwy Gyllideb Atodol bob blwyddyn.

Mae'r Gyllideb Atodol hon yn nodi'r newidiadau i'r gyllideb ers y Gyllideb Atodol Gyntaf 2021-22, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021. Bydd llawer o’r rhain eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan adrannau Llywodraeth Cymru £2.1bn ychwanegol (neu 10.2%) at ddibenion meysydd gwariant dewisol

Mae’r ffeithlun isod yn dangos y newidiadau yn y dyraniadau i adrannau Llywodraeth Cymru yn y Gyllideb Atodol hon. Gwneir cymariaethau â'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2021-22.

Mae'r ffeithlun yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn dyrannu £2.1bn (neu 10.2%) ychwanegol i adrannau am y rhan o'r gyllideb y mae'n dewis sut i'w gwario, sy’n cael ei alw’n Derfyn Gwariant Adrannol (neu ‘DEL’). Mae’r cyllid ychwanegol hwn ar gael yn bennaf o ganlyniad i benderfyniadau gwariant ar gyfer Lloegr gan Lywodraeth y DU ar faterion datganoledig (a elwir yn gyllid canlyniadol) a throsglwyddiadau o adrannau Llywodraeth y DU. At hynny, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio rhywfaint o’i chyllid heb ei ddyrannu.

Mae'r cynnydd mwyaf mewn termau absoliwt ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (£793m). Mae’r cynnydd mwyaf o ran canran ar gyfer Addysg a’r Gymraeg (14.7%), gyda’r cynnydd ar gyfer Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn yn agos (14.1%). Gyda'i gilydd, mae'r cynnydd ar gyfer y tair Adran hyn yn cyfrif am dros 80% o gyfanswm y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd.

Y prif ffigurau o’r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2021-22, yn dangos newidiadau ers y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2021-22 (£m)

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £20,129 miliwn (i fyny £1,766 miliwn neu 9.6 y cant). DEL Cyfalaf: £2,939 miliwn (i fyny £361 miliwn neu 14.0 y cant). Cyfanswm DEL: £23,068 miliwn (i fyny £2,127 miliwn neu 10.2 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,150 miliwn (i fyny £283 miliwn neu 15.2 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £25,217 miliwn (i fyny £2,410 miliwn neu 10.6 y cant). Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf yn ôl adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10,537 miliwn (i fyny £793 miliwn, neu 8.1 y cant).

DEL yw'r rhan ddewisol o'r gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn dewis sut i'w wario.

AME yw'r rhan o'r gyllideb nad yw'n ddewisol. Mae'n cynnwys rhaglenni sy'n fawr, yn gyfnewidiol neu'n cael eu harwain yn ôl galw, er enghraifft pensiynau.

Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf yn ôl adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10,537 miliwn (i fyny £793 miliwn, neu 8.1 y cant). Cyllid a Llywodraeth Leol: £5,394 miliwn (i fyny £666 miliwn neu 14.1 y cant). Addysg a'r Gymraeg: £2,796 miliwn (i fyny £358 miliwn neu 14.7 y cant). Newid Hinsawdd: £2,770 miliwn (i fyny £137 miliwn neu 5.2 y cant). Economi: £707 miliwn (i fyny £111 miliwn neu 18.6 y cant). Materion Gwledig £367 miliwn (i fyny £11 miliwn neu 3%).  Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: £352 miliwn (i fyny £30 miliwn, neu 9.3 y cant). Cyfiawnder Cymdeithasol: £146 miliwn (i fyny £22 miliwn, neu 17.5 y cant).

*Heb gynnwys tua £722 miliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

**Yn cynnwys dyraniad o £458 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu.

Mae £1.4bn ychwanegol wedi’i ddyrannu ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.4bn ychwanegol er mwyn ymateb i effaith barhaus COVID-19 “a pharhau i gefnogi economi Cymru a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau i ddelio â heriau eang y pandemig” . Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n nodi nad yw dyraniadau COVID-19 yn rhai cylchol, sy’n golygu eu bod wedi’u darparu yn 2021-22 ar sail unwaith yn unig.

Mae'r cyllid ychwanegol hwn at ddibenion COVID-19 yn atodol i’r £705.6m a ddyrannwyd yn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2021-22 (gallwch ddarllen mwy am hynny yn ein erthygl o fis Gorffennaf). Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod “wedi dyrannu mwy na £8.4bn ers dechrau'r pandemig i liniaru ei effaith”.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei dyraniadau COVID-19 yn y Gyllideb Atodol hon o dan bedair thema eang: Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Cefnogi'r Economi, Trafnidiaeth a'r Trydydd Sector a Chymunedau. Mae tua 80% o gyfanswm y dyraniadau COVID-19 at ddibenion Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus (£1.1bn).

Dyraniadau COVID-19 yn yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2021-22 (£m)

Dadansoddiad o £1398 miliwn o gyllid COVID-19. Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus £1,131 miliwn, cefnogi'r economi £177 miliwn, trafnidiaeth a'r trydydd sector a chymunedau £15 miliwn. Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn fanwl: Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol £692 miliwn, llywodraeth leol £205 miliwn, addysg £99 miliwn, cymorth cartref £83 miliwn, plant a theuluoedd £51 miliwn. Cefnogi’r economi yn fanwl: Cymorth brys i fusnesau £125 miliwn, cronfa adfer diwylliannol £15 miliwn, arloesi busnes £14 miliwn, adferiad y diwydiant bwyd a diod £12 miliwn, eraill £12 miliwn.

Nodiadau:

Mae dogfennaeth Llywodraeth Cymru ynghylch y Gyllideb yn nodi, o ran ei gyllid COVID-19 ar gyfer Addysg o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, y dyrennir £33m ar gyfer “adferiad dysgwyr mewn ysgolion gan gynnwys y Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau”. Mae’n ymddangos nad yw hyn wedi'i gynnwys yn y £1.4bn a ddyrannwyd ar gyfer COVID-19 yn Nhabl 6.1 ond yn hytrach gyda'r dyraniadau eraill a nodir yng Nghyllideb Atodol 2021-22. Mae ein dadansoddiad yn adlewyrchu'r dosbarthiad hwnnw.

Mae'r dyraniad ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys £1.1m ar gyfer “gwaith paratoi ymchwiliad COVID-19”, nad yw wedi'i ddangos yn y ffeithlun uchod.

Ymhlith y dyraniadau mae’r canlynol:

  • £551m ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, sef £411m ar gyfer costau parhaus delio â’r pandemig hyd at fis Ebrill 2022 a £140m ar gyfer adferiad a mynd i’r afael ag amseroedd aros. a chynyddu capasiti.
  • £140.7m at ddibenion adferiad gofal cymdeithasol, gan gynnwys £50m tuag at orwariant a ragwelir gan awdurdodau lleol a phwysau’r gaeaf, £42.7m i helpu i fynd i’r afael â phwysau gofal cymdeithasol, £40m i sefydlu Cronfa Adfer Gofal Cymdeithasol ac £8m ar gyfer gweithgareddau penodol at ddibenion adferiad gofal cymdeithasol.
  • £204.8m ar gyfer llywodraeth leol gyda £135.5m ohono wedi ei ddyrannu i'r Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol hyd at 31 Mawrth 2022. At hynny, mae’n cynnwys £50.0 ychwanegol ar gyfer gwelliant i’r setliad llywodraeth leol, er mwyn cefnogi awdurdodau lleol sydd â phwysau sy’n gysylltiedig â phandemig.
  • £125m at ddibenion cymorth brys i fusnesau. Mae hyn yn cynnwys grantiau o hyd at £6,000 sy’n gysylltiedig ag ardrethi Annomestig, cronfa ddewisol ar gyfer grantiau rhwng £500 a £2,000 i gefnogi masnachwyr unigol, gweithwyr llawrydd a busnesau nad ydynt yn talu ardrethi a dyfarnu grantiau o hyd at £25,000. drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer busnes lletygarwch a hamdden “yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol – a'u cadwyni cyflenwi”.

Mae’r Gyllideb Atodol hon yn cynnwys £74.7m ar gyfer Cymorth Aelwydydd a Chymorth Tanwydd Gaeaf (y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried fel cyllid COVID-19). Mae'r rhan fwyaf o’r £61.1m o dan sylw at ddibenion Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. O dan y Cynllun hwn, mae aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad untro o £200. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi‘r cynnydd – sef cynnydd ar swm gwreiddiol o £100 – ar 1 Chwefror 2022.

Yn ogystal â’r cyllid COVID-19, mae Llywodraeth Cymru’n dyrannu ar gyfer rhai o'i blaenoriaethau eraill. O'r £728.7m at ddibenion cyllidebau adrannol, mae £177.0m wedi'i ddyrannu i helpu pobl gydag argyfwng costau byw.

Ar 14 Chwefror 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi pecyn o “fesurau estynedig” i helpu pobl â’r argyfwng costau byw, gan ddyrannu £330m wedi’i wasgaru ar draws blynyddoedd ariannol 2021-22 a 2022-23.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys taliad o £150 i aelwydydd sy’n byw mewn eiddo yn y band treth gyngor A-D, yn ogystal â’r aelwydydd hynny sy’n derbyn Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ni waeth beth yw band yr eiddo. Mae'r taliadau – y mae £152m wedi’i amlinellu ar eu cyfer yn y Gyllideb Atodol hon – yn cael ei gwneud gan awdurdodau lleol “cyn gynted â phosibl”.

Mae £25m ychwanegol ar gyfer cronfa ddewisol i awdurdodau lleol “ddefnyddio’u gwybodaeth leol i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd”.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer yr argyfwng costau byw yn ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf

Yn ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 – a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2022 – mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £162.4m at ddibenion y mesurau eraill a nodir yn y pecyn cymorth costau byw. Mae'n dweud bod hyn yn cael ei ddarparu:

… ar sail gyfyngedig o flwyddyn gyda'r nod o helpu aelwydydd incwm isel i ymdopi â'r pwysau uniongyrchol ar gostau byw y gaeaf hwn ac i leihau effaith y toriad i Gredyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith a chost gynyddol ynni.

Mae’n cynnwys cyllid i ymestyn y Cynllun Cefnogi Tanwydd Gaeaf i fod ar waith am flwyddyn arall (£90m) a'r Gronfa Cymorth Dewisol i redeg tan 31 Mawrth 2023 (£15m), yn ogystal ag ystod o fesurau eraill.

Beth nesaf?

Bydd Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22 yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mawrth 2022, gyda dadl ar wahân i ddilyn ar y diwygiad i’r setliad llywodraeth leol. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Joanne McCarthy, Owen Holzinger a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru