Llun Tanddwr o Sêl Lwyd ym Môr y Gogledd

 Llun Tanddwr o Sêl Lwyd ym Môr y Gogledd

Llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 01/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn canlyniad y refferendwm ar yr UE, roedd pryder eang ar draws sector yr amgylchedd ynghylch bylchau mewn llywodraethu amgylcheddol yn deillio o ymadawiad y DU â'r UE.

Mae grwpiau amgylcheddol ledled y DU yn parhau i alw am weithredu i fynd i'r afael â'r 'bwlch llywodraethu' hwn, gan eu bod yn ofni y gallai hyn arwain at ddifrod amgylcheddol, heb fawr o fesurau ar gael i lywodraethau a chyrff cyhoeddus wneud iawn.

Heathland with gorse on the coast of Wales

Mae system yr UE o lywodraethu amgylcheddol y mae’r DU wedi ymadael â hi yn cynnwys monitro ac adrodd ar weithredu cyfraith amgylcheddol, ffordd o gymryd cwynion gan ddinasyddion, a chymryd camau gorfodi pan gaiff cyfraith yr UE ei thorri.

Er bod llywodraethau’r DU wedi cymryd rhai camau i adfer cyfundrefnau llywodraethu amgylcheddol domestig, gan gynnwys mesurau interim, nid oes systemau cynhwysfawr ar waith ar ôl Brexit ar hyn o bryd.

Mae’r ffaith nad oes cyfundrefn llywodraethu amgylcheddol newydd yng Nghymru wedi ysgogi rhanddeiliaid i awgrymu bod gan Gymru bellach y strwythurau llywodraethu amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.

Fe wnaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd ddadlau fod hwn yn fater allweddol i'r Chweched Senedd. Fodd bynnag, nid yw Rhaglen Lywodraethu (2021 i 2026) Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynlluniau ar gyfer sefydlu system llywodraethu amgylcheddol newydd.

Mae'r briff hwn yn rhoi cefndir system llywodraethu amgylcheddol yr UE, y sefyllfa bresennol ledled y DU, a'r cynigion ar gyfer Cymru at y dyfodol.


Erthygl gan Katy Orford a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru