Llywodraeth Cymru Cyllideb Atodol 2015-16

Cyhoeddwyd 25/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mehefin 2015 Erthygl gan Martin Jennings and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC) y Gyllideb Atodol 2015-16 gyntaf ar 23 Mehefin, 2015. Yn cydfynd â’r gyllideb roedd nodyn esboniadol a thablau a oedd yn dangos dyraniadau adrannol. Mae’r gyllideb atodol hon yn diwygio Cyllideb Derfynol 2015-16, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2014. Mae hithau’n gynnar yn y flwyddyn ariannol, mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf yn y flwyddyn yn dangos ychydig o newidiadau’n unig. Mae’r gyllideb Atodol hon yn cadarnhau’r dyraniadau refeniw a ganlyn, a ariennir o gronfeydd wrth gefn: Mae’r Gyllideb Atodol hon yn cynnwys ychwanegiadau net i’r llinell sylfaen, o ganlyniad i Gyllidebau a Datganiadau Hydref Llywodraeth y DU o £167.4 miliwn o arian refeniw, a £9.7 miliwn o arian cyfalaf, y mae £2.3 miliwn ohono yn gyllid trafodion ariannol ad-daladwy. Ar 4 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU doriadau o ran gwariant adrannol yn ystod y flwyddyn. Mae’r toriadau yn golygu gostyngiad o £50 miliwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2015-16, sef £43 miliwn o arian refeniw a £7 miliwn o arian cyfalaf. Mae posibilrwydd y gwelir rhagor o newidiadau pan gyhoeddir Cyllideb nesaf y DU ar 8 Gorffennaf. Nid yw’r newidiadau hyn wedi cael eu cynnwys yn y Gyllideb Atodol hon. Mae datganoli ardrethi busnes yn llwyr wedi achosi newid technegol yn nogfennaeth y gyllideb, sy’n golygu symud cyllid o £956 miliwn o wariant refeniw adrannol llywodraeth leol i Wariant a Reolir yn Flynyddol. 2015-16 supplementary budget (welsh)-01 View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg