Hysbysiadau hwylus newydd ar gyfansoddiad Cymru

Cyhoeddwyd 09/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r Hysbysiadau Hwylus hyn yn ymdrin â’r Cyfansoddiad ac yn rhoi trosolwg o'r trefniadau cyfansoddiadol yng Nghymru.

Maent yn cynnwys:

  • rhestr gynhwysfawr o’r termau allweddol a ddefnyddir yng nghyd-destun Senedd Cymru;
  • cefndir cyfansoddiad y DU;
  • hanes datganoli yng Nghymru;
  • canllawiau ar y broses ddeddfu yn y Senedd;
  • trosolwg o’r broses o graffu ar is-ddeddfwriaeth yn y Senedd;
  • trosolwg o’r broses o gydsynio i Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig;
  • golwg ar ddyletswyddau a phwerau Llywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, y Llywydd, Comisiwn y Senedd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Erthygl gan Gruffydd Owen, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru