Gyda dim arholiadau eto yr haf hwn, beth mae canlyniadau 2021 yn ei ddweud wrthym?

Cyhoeddwyd 09/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2021   |   Amser darllen munudau

Dychwelodd plant a phobl ifanc i ysgolion a cholegau ledled Cymru yr wythnos hon, felly mae'n amser da i bwyso a mesur canlyniadau Lefel A/AS, TGAU a chymwysterau galwedigaethol yr haf hwn.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, ni chafwyd dim arholiadau. Er na ellir cymharu canlyniadau â blynyddoedd blaenorol mewn gwirionedd, mae’r graddau yn uwch, ac yn sylweddol uwch nag yr oeddent cyn y pandemig. Mae'n ymddangos bod bylchau cyrhaeddiad wedi ehangu, sy’n cefnogi’r pryderon bod yr effaith ar ddisgyblion sydd eisoes o dan anfantais yn anghymesur yn sgîl aflonyddwch y coronafeirws ar addysg.

Sut y dyfarnwyd cymwysterau yn 2021?

Goblygiadau’r tarfu parhaus ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf oedd nad oedd y trefniadau amgen digynsail ar gyfer dyfarnu cymwysterau yn 2020 yn ddigwyddiad unwaith ac am byth.

Gyda llawer o 'swigod' dosbarth neu swigod grwpiau blwyddyn yn gorfod aros gartref am gyfnodau yn ystod yr hydref, penderfynodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, ym mis Tachwedd 2020 na fyddai dim arholiadau eto yn yr haf 2021.

Yn dilyn cau ysgolion yn gyffredinol i bob disgybl ond plant a oedd yn agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol yn ystod y gaeaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai canolfannau (ysgolion a cholegau) yn pennu graddau disgyblion. Rhoddodd y Gweinidog ar y pryd gyfarwyddiadau i’r rheolydd, sef Cymwysterau Cymru, i weithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys y corff dyfarnu, sef Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), i weithredu Model Gradd a Bennir gan Ganolfan (CDG).

Roedd hyn yn debyg i, er nad yr un peth â'r System Graddau Asesu Canolfannau (CAG) a ddefnyddiwyd yn 2020. Y llynedd, roedd dyfarniadau canolfannau'n canolbwyntio ar botensial disgyblion, h.y. yr hyn y byddent wedi'i gyflawni pe baent wedi sefyll yr arholiadau. Eleni mae canolfannau wedi defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau heblaw arholiadau, ffug arholiadau a gwaith dosbarth, i farnu “cyrhaeddiad dangosedig” disgybl a dyfarnu gradd briodol iddynt.

Sut mae canlyniadau 2021 yn ‘cymharu’ â blynyddoedd blaenorol?

Nododd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, “gyflawniad rhyfeddol” Pobl ifanc 16 mlwydd oed a 18 mlwydd oed, gan dynnu sylw at eu “gwytnwch” a’u “penderfyniad aruthrol”. Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, y gall pobl ifanc “fod yn hyderus” bod eu cymwysterau “â’r un gwerth” â’r rhai a ddyfernir mewn unrhyw flwyddyn arall.

Fel yr oeddent yn 2020, mae graddau eleni yn gyffredinol uwch na chyn y pandemig. Oherwydd y gwahaniaethau amlwg (h.y. dim arholiadau), fodd bynnag, ni ddylid eu cymharu fel tebyg i’w tebyg. Rydym yn cyfeirio at ganlyniadau 2019 yn yr erthygl hon i ddangos pa mor wahanol yw'r canlyniadau. Yn yr un modd, ni ddylid ychwaith drin canlyniadau 2020 a 2021 fel rhywbeth tebyg oherwydd y gwahanol ddulliau gweithredu a fu.

Fel y gwelir yn y ffeithluniau a ganlyn, cynyddodd cyfran yr ymgeiswyr y dyfarnwyd y graddau uchaf iddynt o ran graddau Safon Uwch, lefelau UG a TGAU rhwng 2020 a 2021, ac yn enwedig o’u cymharu â chanlyniadau cyn y pandemig yn 2019.

Safon Uwch (canran yr ymgeiswyr a enillodd raddau)

Graff yn dangos sut mae cyfran yr ymgeiswyr sy’n ennill y graddau uchaf yn eu harholiadau Safon Uwch wedi cynyddu dros y ddwy flynedd diwethaf.  2019 (cyn y pandemig - arholiadau): A* 9%, A 18%, B-E 71%. 2020 (pandemic – CAG): A* 16%, A 26%, B-E 58%. 2021 (pandemic – CDG): A* 21%, A 27%, B-E 51%.

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru (Awst 2021)

Uwch Gyfrannol (canran yr ymgeiswyr a enillodd raddau)

Graff yn dangos sut mae cyfran yr ymgeiswyr sy’n ennill y graddau uchaf yn eu harholiadau Uwch Gyfrannol wedi cynyddu dros y ddwy flynedd diwethaf.  2019 (cyn y pandemig - arholiadau): A 20%, B-E 70%. 2020 (pandemig – CAG): A 30%, B-E 69%. 2021 (pandemig – CDG): A 37%, B-E 60%.

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru (Awst 2021)

TGAU (canran yr ymgeiswyr a enillodd raddau)

Graff yn dangos sut mae cyfran yr ymgeiswyr sy’n ennill y graddau uchaf yn eu harholiadau TGAU wedi cynyddu dros y ddwy flynedd diwethaf. 2019 (cyn y pandemig - arholiadau): A*-A 18%, B-C 44%, D-G 34%. 2020 (pandemig – CAG): A*-A 26%, B-C 48%, D-G 26%. 2021 (pandemig – CDG): A*-A 29%, B-C 45%, D-G 25%.

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru (Awst 2021)

Mae’r graddau a gyflawnwyd yn y Dystysgrif Her Sgiliau (ar y lefel Uwch a’r lefel Genedlaethol / Sylfaen) yn gymharol debyg rhwng 2020 a 2021, ond maent wedi codi yn ystod y pandemig er 2019.

Mae amgylchiadau eithriadol 2020 a 2021 yn cyflwyno cymhlethdod ychwanegol o ran cymharu perfformiad addysgol dros amser. Mae newidiadau i fesurau perfformiad eisoes yn ei gwneud hi'n anodd olrhain llwyddiant agenda gwella ysgolion Llywodraeth Cymru.

Beth sydd wedi digwydd o ran bylchau cyrhaeddiad?

Ni allwn gymharu canlyniadau 2021 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol oherwydd y gwahaniaethau mawr yn y modd y dyfarnwyd cymwysterau. Gallwn edrych, fodd bynnag, ar sut mae'r gwahaniaethau rhwng rhai grwpiau o ddisgyblion, a elwir yn “fylchau cyrhaeddiad”, y mae Llywodraeth Cymru am geisio ymdrin â hwy yn cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mae merched yn parhau i wneud yn well na bechgyn o ran y TGAU - cynyddodd y bwlch o ran graddau A*-A i 10.7 pwynt canran o 9.5 yn 2020 a 7.4 yn 2019. Unwaith eto, enillodd merched fwy o raddau A*-C, ond mae’r bwlch wedi parhau i gulhau.

Mae'r bwlch rhwng cyfran y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) sy'n cyflawni'r graddau TGAU uchaf a disgyblion eraill wedi tyfu ers y llynedd, ar ôl ehangu eisoes rhwng 2019 a 2020. Mae'r gyfran sy'n cyflawni A*-C fwy neu lai yr un fath ag yn 2019 cyn y pandemig. (Sylwch y bu newid ym maint y garfan gan fod niferoedd y plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi codi yn ystod y cyfnod hwn, o oddeutu 18 y cant i 23 y cant.)

TGAU - Y bwlch cyrhaeddiad o ran FSM (y gwahaniaeth o ran pwyntiau canran yn y graddau a enillwyd: Dysgwyr nad ydynt yn eFSM minws dysgwyr eFSM)

Graff yn dangos sut mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr eFSM a dysgwyr nad ydynt yn eFSM wedi cynyddu o ran y nifer a enillodd y graddau uchaf yn eu harholiadau TGAU yn  ystod y pandemig. Mae’r bwlch ar gyfer graddau A*, A*-A ac A*-B wedi cynyddu 6, 7 a 5 pwynt canran, yn y drefn honno, rhwng 2019 a 2021. Yn achos graddau A*-C, cynyddodd y bwlch yn 2021 wedi iddo gau ychydig rhwng 2019 a 2020.

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru (Atodiad 1) (Awst 2021)

Mae'r bwlch cyrhaeddiad hefyd wedi ehangu rhwng disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a'u cyfoedion o ran cyflawni'r graddau uchaf, yn ystod y pandemig. Caeodd y bwlch rhyw ychydig yn achos graddau A*-C .

TGAU - Y bwlch cyrhaeddiad o ran AAA (y gwahaniaeth o ran pwyntiau canran yn y graddau a enillwyd: Dysgwyr nad oes ganddynt AAA minws dysgwyr ag AAA)

Graff yn dangos sut mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr AAA o ran y nifer a enillodd y graddau uchaf yn eu harholiadau TGAU yn  ystod y pandemig. Mae’r bwlch ar gyfer graddau A*, A*-A ac A*-B wedi cynyddu 7, 8 a 7 pwynt canran, yn y drefn honno. Yn achos graddau A*- C, mae’r bwlch un pwynt canran yn llai.

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru (Atodiad 1) (Awst 2021)

Fel mae Cymwysterau Cymru yn ein hatgoffa, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol, ac mae angen ystyried y canlyniadau yng nghyd-destun y pandemig yn hytrach nag fel rhan o dueddiadau hirdymor. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, fodd bynnag, bod y pandemig wedi effeithio rhagor yn addysgol ar ddysgwyr sydd eisoes o dan anfantais na'u cyfoedion. Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd yn gynharach eleni fod digon o dystiolaeth bod ‘gwahaniaethau trawiadol rhwng teuluoedd o ran eu gallu i gefnogi pobl ifanc yn eu dysgu: yr adnoddau sydd ganddyn nhw, y brwdfrydedd, yr ymgysylltu, a’r ymrwymiad’.

Beth yw'r cynllun ar gyfer 2022 a thu hwnt?

A chymryd nad oes rhagor o aflonyddu sylweddol disgwylir y caiff arholiadau eu cynnal yn 2022, gyda rhai newidiadau i ystyried yr aflonyddwch hyd yma. Mae CBAC i roi manylion yn fuan am yr addasiadau i lefelau A / UG a TGAU yn fuan. Ond pa ffactorau eraill y bydd yn rhaid eu hystyried, a beth allai ddigwydd i lefelau graddau yn yr hirdymor?

Mae deddfwriaeth yn mynnu bod yn rhaid i Gymwysterau Cymru weithredu i geisio cyflawni dau brif nod:

  • sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
  • hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Mae cydbwyso'r ddau nod hyn wedi bod yn anoddach nag erioed mae’n debyg yn ystod y pandemig. Roedd yn rhaid i Gymwysterau Cymru sicrhau nad oedd y pandemig yn effeithio'n annheg ar garfannau 2020 a 2021, a’u bod yn cael cyfle i gyflawni'r graddau y byddent fel arall yn eu cael o dan amodau arholiad; ond heb danseilio hyder yng ngwerth y cymwysterau a ddyfarnwyd, yn enwedig unrhyw ganfyddiad bod y graddau wedi’u dosbarthu heb drylwyredd dyladwy.

Gellir dadlau bod llunwyr polisïau wedi pwyso tuag at y nod cyntaf, sef tegwch i garfannau cyfredol yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae'n debyg y bydd angen rhyw elfen o adlinio i warchod uniondeb hirdymor y system gymwysterau ac i adfer cyfoesedd y graddau. Yr her fydd sicrhau nad yw hyn yn rhoi carfannau blaenorol o dan anfantais drwy chwyddo graddau'n barhaol, yn effeithio'n annheg ar y carfannau nesaf drwy ddychwelyd yn sylweddol at lefel y graddau cyn y pandemig, nac yn peryglu hyder y cyhoedd yng ngwerth cymwysterau.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru