Gwella coetiroedd Cymru: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad

Cyhoeddwyd 27/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad – Heb gyrraedd gwreiddyn y mater - uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd mewn digwyddiad i randdeiliaid yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Mae'r ddelwedd hon yn dangos golygfa o gefn gwlad; tynnwyd y llun mewn coetir. Mae'r Pwyllgor yn rhagweld y bydd yr adroddiad yn sail i’r adolygiad o Strategaeth Coetiroedd i Gymru, y mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cytuno i’w gynnal yn gynnar yn 2018.

Casglodd y Pwyllgor doreth o dystiolaeth y pum mis a barodd yr ymchwiliad, gan glywed gan amrywiaeth o randdeiliaid o faes coedwigaeth fasnachol, yr amgylchedd, y gymuned, byd hamdden, a’r byd academaidd, yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ac Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd hyn yn cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig, sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol, a gweithdy i randdeiliaid.

Hefyd, aeth Aelodau'r Pwyllgor i ymweld â choetiroedd a busnesau coetir yng Nghasnewydd, Dinas Powys, Crymlyn, Merthyr Tudful, Y Bontnewydd ar Wy, Pwllheli a Maesteg. Yma, cawsant gyfle i ddysgu rhagor am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu perchnogion a rheolwyr coetiroedd am goedwigaeth fasnachol, cadwraeth, a mynediad cymunedol a gweithgareddau hamdden.

Mae chwe rhan i’r adroddiad.

Mae rhan 1 yn tynnu sylw at y ffaith mai ychydig iawn o goetiroedd a grëwyd yng Nghymru yn ystod blynyddoedd diwethaf; ar gyfartaledd, plannwyd dim ond 10% o’r targed a bennwyd yn y Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru (2010). Daeth y Pwyllgor i’r casgliad mai rhesymau rheoleiddiol, biwrocrataidd, ariannol a diwylliannol oedd yn gyfrifol am hyn.

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth lafar, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cydnabod bod angen newid sylfaenol i gyrraedd y targed. Mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i gysoni’r prosesau rheoleiddio a chyllido’n well, ac i roi mwy o gymorth i ymgeiswyr. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod hefyd wedi ymrwymo i dynnu sylw’r gymuned ffermio at fanteision coetiroedd.

Mae rhannau 2 i 5 yn dilyn y pedair thema a geir yn y Strategaeth Coetiroedd i Gymru, sef: ymateb i’r newid yn yr hinsawdd; coetiroedd i bobl; sector coedwigaeth gystadleuol ac integredig; ac ansawdd yr amgylchedd.

  • Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod ein gallu yng Nghymru i liniaru allyriadau carbon wedi’i gyfyngu oherwydd nad yw coetiroedd yn cael eu plannu, ac nad yw’r gwaith o addasu i’r perygl llifogydd cynyddol wedi cael sylw digonol;
  • Gwelwyd cynnydd da o ran y modd y mae grwpiau cymunedol yn defnyddio coetiroedd ar gyfer gweithgareddau hamdden, ond roedd y duedd i’r gorchudd canopi ddirywio mewn ardaloedd trefol yn destun pryder;
  • Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod problem arbennig yn codi o’r ffaith nad oes coed conwydd yn cael eu plannu gan y bydd hynny’n dechrau cyfyngu’n ddifrifol ar hyfywedd y sector coedwigaeth fasnachol yn y dyfodol agos;
  • Credir bod y prinder arian ar gyfer rheoli coetiroedd brodorol yn effeithio ar y gwaith o adfer planhigfeydd ar goetiroedd hynafol, ac ar ansawdd amgylcheddol coetiroedd yn fwy cyffredinol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor ei bod yn awyddus i Gymru gynhyrchu rhagor o bren ac i hwnnw gael ei ddefnyddio mwy yn y diwydiant adeiladu. Mae hi hefyd wedi ymrwymo i ystyried y posibilrwydd o ailgyflwyno Cynllun Rheoli Coetiroedd Glastir, a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar blannu coed mewn trefi.

Mae rhan 6 yn archwilio sut y gellid gwella’r strategaeth Coetiroedd i Gymru yn y dyfodol, a hynny’n benodol drwy sicrhau ei bod yn gydnaws â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn olaf, mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth Brexit i:

  • Ddatblygu cyfleoedd ariannu arloesol fel Taliadau am Wasanaethau Ecosystemau; ac
  • Gwella’r modd y caiff dulliau o ddefnyddio tir gwledig, gan gynnwys coedwigaeth ac amaethyddiaeth, eu hintegreiddio mewn polisi ehangach ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy.

Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb yn llawn i argymhellion y Pwyllgor yn yr hydref.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Helen Davies gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau.


Erthygl gan Helen Davies, Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Delwedd gan Wikimedia gan Hall Carina. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gwella coetiroedd Cymru: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad (PDF, 176KB)