Gradd ar Wahân? Trafod adroddiad y Pwyllgor PPIA ar effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach

Cyhoeddwyd 19/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Gradd ar Wahân, adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Rhagfyr 2018, yn trafod effaith bosibl Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

Bydd dadl yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mawrth 2019.

Mae'r erthygl hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am rai materion allweddol a godwyd yn yr adroddiad. Mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ar fore 19 Mawrth 2019.

Beth wnaeth yr adroddiad ei argymell?

Mae'r adroddiad yn gwneud 12 argymhelliad ar draws yr wyth mater allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2018.

Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Llywodraeth Cymru yn mynnu, drwy Fil Mewnfudo'r DU nad oedd wedi'i gyflwyno ar y pryd, y pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru osod rheolau mewnfudo gwahanol yn benodol ar gyfer myfyrwyr a staff sy'n dod i weithio ac astudio yng Nghymru (nid yw hyn yr un peth â gofyn am gymhwysedd dros fewnfudo);
  • Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach i weithredu a phrofi trefniadau ariannu a fyddai'n gwarantu dim amhariad ariannol i fyfyrwyr ERASMUS+, yn enwedig y rheini sy'n dibynnu ar y lleoliadau ar gyfer eu graddau mewn ieithoedd modern;
  • Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio ar y cyd â'r sector addysg bellach i ddatblygu a chyhoeddi cynllun ar y cyd, a ariennir gan gais am gyllid o Gronfa Bontio'r UE sy'n nodi gofynion sgiliau newidiol y sectorau sydd fwyaf tebygol o wynebu amhariad sy'n gysylltiedig â Brexit, ac ymateb i hynny.

Ceir yr holl argymhellion yma [PDF: 720KB], ac ymateb Llywodraeth Cymru yma [PDF: 203KB].

Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg [PDF: 158KB] i ofyn am eglurhad o rai rhannau o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, ac wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg [PDF: 158KB] yn gofyn am ragor o wybodaeth. Mae llythyr y Gweinidog yn cynnwys rhagor o wybodaeth yma.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y meysydd allweddol

Mae gweddill yr erthygl hon yn trafod tri maes allweddol o'r adroddiad:

  • Mewnfudo myfyrwyr a staff;
  • Rhaglenni arwyddocaol yr UE (ERASMUS+ a Horizon)
  • Ateb gofynion sgiliau'r diwydiant ar ôl Brexit

Staff a myfyrwyr, a diddymu symudiad rhydd

Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn yn ymgynghori ar system fewnfudo y DU yn y dyfodol, a chyflwyno'r Bil Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â'r UE).

Byddai'r Bil yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu cyfraith symudiad rhydd yn y DU ar ddiwrnod a nodir gan reoliadau.

Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i symudiad rhydd ddod i ben ar unwaith ar ôl Brexit.

Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu symudiad rhydd ar unwaith o ganlyniad i gytundeb (oherwydd y cyfnod pontio) nac o ganlyniad i senario dim cytundeb (lle byddai “cyfnod interim” o symudiad rhydd).

Bydd diddymu symudiad rhydd yn golygu y byddai angen i staff a myfyrwyr yr UE sy'n dod i'r DU gael caniatâd penodol i astudio neu weithio yn y DU. Mae'r Papur Gwyn yn esbonio'r canlynol:

Everyone will be required to obtain a permission if they want to come to the UK and to work or study here

Y system fewnfudo newydd seiliedig ar sgiliau o 1 Ionawr 2021

Nid yw'r Bil ei hun yn nodi'r system fewnfudo seiliedig ar sgiliau ar ôl y cyfnod pontio – caiff ei nodi yn y Rheolau Mewnfudo sy'n gymwys ar hyn o bryd i'r rhan fwyaf o fudwyr nad ydynt o'r UE.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu i'r system newydd hon ddod i rym o 1 Ionawr 2021.

Mae'r Rheolau Mewnfudo yn cynnwys y System Seiliedig ar Bwyntiau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ymestyn i'r holl fudwyr bron. Byddai hyn yn golygu y byddai angen i fyfyrwyr yr UE, yn y pen draw, gael fisa myfyriwr Haen 4 er mwyn astudio yn y DU, a byddai angen i staff gael fisa Haen 2 yn ôl pob tebyg.

Ar hyn o bryd, mae gan fisâu Haen 4 ofynion clir y mae'n rhaid i ymgeiswyr eu bodloni, gan gynnwys cael cynnig gan brifysgol, cael digon o arian cynhaliaeth ac maent yn cynnwys cyfyngiadau ar hawliau gweithio.

Os na fydd cytundeb, byddai angen i fyfyrwyr (a staff) sy'n cyrraedd ar ôl y cyfnod interim dros dro, cyn i symudiad rhydd gael ei ddiddymu, wneud cais am Ganiatâd i Aros Dros Dro Ewropeaidd os ydynt am aros yn y DU am fwy na thri mis.

Yn 2017/18, cofrestrodd 6,640 o fyfyrwyr yr UE gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru (tua 5 y cant o gyfanswm y cofrestriadau gyda darparwyr yng Nghymru). Mae'r graffig isod yn dangos sut y maent wedi'u gwasgaru ar draws prifysgolion Cymru.

Ffynhonnell: HESA 2017/18

Mae adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, sydd wedi llywio Papur Gwyn Llywodraeth y DU ynghylch mewnfudo, yn argymell £30,000 fel trothwy isafswm cyflog ar gyfer ymgeiswyr fisa Haen 2.

Mae'r graffig isod yn dangos sut y byddai trothwy o'r fath yn rhyngweithio â chyflogau academyddion dan gontract a gyflogwyd gan brifysgolion Cymru yn ystod 2017/18.

Ffynhonnell: HESA (wedi'u talgrynnu)

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd yn ystyried Papur Gwyn Llywodraeth y DU. Mae ei hateb ychwanegol yn ei gwneud yn gliriach mai polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â cheisio rheolau mewnfudo gwahanol oni bai fod Llywodraeth y DU yn “bwrw ymlaen â pholisi sy’n niweidiol i'n buddiannau yn ein barn ni, [yna] byddem yn croesawu dull gweithredu sy’n wahanol mewn ardaloedd penodol”.

ERASMUS+ a Horizon Ewrop

Mae’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol yn tynnu sylw at barodrwydd i alluogi’r DU i gymryd rhan yn rhaglenni’r UE ynghylch gwyddoniaeth ac arloesedd, ieuenctid, diwylliant ac addysg, gan olygu y gallai prifysgolion gymryd rhan yn ERASMUS+ a Horizon Ewrop o hyd ar ôl Brexit yn amodol ar gyfraniad ariannol teg a phriodol. Byddai cydweithrediad o’r fath yn unol â chynigion Llywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn ynghylch y Berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y Dyfodol.

Fodd bynnag, gall uchelgeisiau i barhau i fod yn gysylltiedig â Horizon Ewrop ac ERASMUS+ ddod yn ansicr os na fydd cytundeb.

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o hysbysiad dim cytundeb Llywodraeth y DU ynghylch ERASMUS+ yn datgan mai dim ond i'r ceisiadau ERASMUS+ y gwneir penderfyniad llwyddiannus yn eu cylch cyn 29 Mawrth 2019 y mae ei gwarant gyllid yn gymwys os na fydd cytundeb.

Ar yr un pryd, mae Comisiwn yr UE wedi cynnig mesurau arfaethedig a fyddai'n caniatáu i bawb a ddechreuodd ei symudiad cyn 30 Mawrth 2019 ei gwblhau heb ymyrraeth am hyd at 12 mis pe na bai cytundeb.

Os na fydd cytundeb, ni fyddai prifysgolion bellach yn cael mynediad at gyllid ymchwil Horizon 2020, gyda Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau'r UE y gwneir ceisiadau cystadleuol amdanynt cyn i ni adael yr UE, gan gynnwys prosiectau Horizon 2020.

Yn 2016/17 (y ffigurau cyfunol diweddaraf sydd ar gael) [PDF: 405KB], roedd cyllid yr UE yn cyfrif am bron un rhan o bump (18 y cant) o holl incwm ymchwil a chontractau prifysgolion Cymru.

Nid yw Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i'r adroddiad, wedi nodi'n glir a yw wedi gwneud trefniadau, neu a yw'n fodlon bod sefydliadau wedi'u gwneud, i wneud iawn am ddiffygion tymor byr, neu liniaru diffygion o'r fath, o ran gwarant ERASMUS+ Llywodraeth y DU os na fydd cytundeb Brexit.

Ateb gofynion sgiliau ar ôl Brexit

Canfu adroddiad y Pwyllgor hefyd fod colegau addysg bellach, er nad oedd ganddynt yr un nifer o fyfyrwyr a staff rhyngwladol â darparwyr addysg uwch, yn arbennig o sensitif i gryfder a chyfansoddiad eu heconomïau lleol a rhanbarthol.

Mae’n bosibl bod Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a Chynllun Caniatâd i Aros Dros Dro yr UE Llywodraeth y DU wedi lleihau’r tebygolrwydd o newidiadau sydyn i’r boblogaeth, ond dylid nodi canran y gweithwyr o’r UE yng Nghymru sydd â lefelau sgiliau isel ac isel i ganolig, sef 63 y cant o'i chymharu ag 48 y cant ar gyfer gweithwyr o’r DU.

Gyda pholisi sgiliau Llywodraeth Cymru yn ceisio canolbwyntio ar ariannu cymwysterau lefel uchel ar gyfer gyrfaoedd o ansawdd uchel, gallai angen i ymateb i gynnydd yn y galw am sgiliau ar lefelau is effeithio ar y nodau hyn.

Yn ei hymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod swyddogion yn llunio cynigion ar gyfer prosiectau sgiliau a ariennir gan gronfa bontio'r UE ac y bydd y system sgiliau yn y dyfodol yng Nghymru yn cael ei harwain gan y galw.

Casgliad

Y tu allan i'r ansicrwydd gwleidyddol ynghylch y broses o ran Brexit, mae darlun wedi dod i'r amlwg o effaith bosibl y cytundeb Brexit arfaethedig rhwng y DU a’r UE ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach.

Bydd Brexit cytunedig (os derbynnir y cytundeb arfaethedig gan Senedd y DU) a Brexit dim cytundeb, dan y cynlluniau presennol, yn arwain at newidiadau sylweddol i sut y mae staff a myfyrwyr yr UE yn dod i Gymru, ac astudio yno, fel rhan o system fewnfudo fwy cyfyngol yn y dyfodol. Ar gyfer meysydd addysg uwch ac addysg bellach allweddol eraill, mae'r ansicrwydd gwleidyddol ynglŷn â phroses Brexit yn peri cryn ansicrwydd i brifysgolion a cholegau.


Erthygl gan Phil Boshier, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Llun: Llys mewnol Archiginnasio di Bologna - un o adeiladau pwysicaf Bologna a oedd gynt yn un o brif adeiladau Prifysgol y ddinas. Mae Proses Bologna yn gyfres o gyfarfodydd a chytundebau gweinidogol rhwng 48 o wladwriaethau Ewropeaidd gyda’r nod o sicrhau cyffelybrwydd o ran safonau ac ansawdd cymwysterau addysg uwch. Mae’r gwledydd hyn yn rhoi diwygiadau ar waith ar sail gwerthoedd allweddol cyffredin – fel rhyddid mynegiant, annibyniaeth i sefydliadau, undebau myfyrwyr annibynnol, rhyddid academaidd, a rhyddid i symud ar gyfer myfyrwyr a staff. Mae wedi’i henwi ar ôl Prifysgol Bologna, lle llofnodwyd datganiad Bologna ym 1999.