Fy Nghymrodoriaeth Academaidd gyda Senedd Ymchwil gan Dr David Dallimore, Prifysgol Bangor

Cyhoeddwyd 30/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2020   |   Amser darllen munudau

Roedd gwneud cais am Gymrodoriaeth Academaidd gydag Ymchwil y Senedd yn beth amlwg iawn i’w wneud i mi.

Fel ymchwilydd ym maes polisi cymdeithasol, mae gwaith ymchwil sy’n creu newid ystyrlon yn sbardun i mi. Mae angen cymryd unrhyw gyfle i gryfhau cysylltiadau rhwng meysydd ymchwil, polisi ac ymarfer, yn enwedig y cyfle i annerch y bobl hynny sy’n penderfynu, yn datblygu ac yn craffu ar bolisi cyhoeddus yn uniongyrchol.

A minnau â gradd PhD mewn Polisi Cymdeithasol rydw i wedi dal nifer o swyddi ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil, sy’n amrywio o wirfoddoli i ddialysis yr arennau, ond mae fy mhrif ddiddordeb erioed mewn addysg a gofal plentyndod cynnar. Dyma faes y gellir ei alw’n ‘faes sy’n dod i’r amlwg fwyfwy’ am ei fod yn destun diddordeb cynyddol lluniwyr polisi ac ymchwilwyr dros y 30 mlynedd diwethaf.

Er bod hyn yn gadarnhaol ar y cyfan, fel yn achos llawer o feysydd polisi newydd, mae maes addysg a gofal plentyndod cynnar wedi datblygu’n aml mewn modd tameidiog ac anghydlynol. Am nifer o flynyddoedd rwyf wedi bod yn astudio effaith hyn, a’r dystiolaeth ryngwladol gynyddol sy’n dangos y gall dull integredig o ymdrin â meysydd polisi ‘addysg gynnar’ a ‘gofal plant’ ar wahân fod â buddion sylweddol i blant, i deuluoedd ac i gymdeithas.

Cyn gwneud cais am y Gymrodoriaeth Academaidd roeddwn yn ddigon ffodus i gael Grant Cyflymiad Effaith Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar i ddatblygu gwaith yn y maes hwn a, chyda phartner o’r trydydd sector, trefnais symposiwm polisi Cymru ar Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yn 2018. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr o bob rhan o’r maes edrych yn fanwl ar dystiolaeth ymchwil a chymryd rhan mewn trafodaeth onest. Erbyn diwedd y Symposiwm cytunwyd ar nifer o safbwyntiau eang y teimlwyd y dylent lunio dull integredig o ymdrin â pholisi Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru.

Gyda thystiolaeth gwaith ymchwil a mandad gan randdeiliaid, gallwch weld sut roedd y cyfle a ddarparwyd yn sgîl Cymrodoriaeth Academaidd i lywio gwybodaeth Aelodau’r Cynulliad yn uniongyrchol yn gyfle a oedd yn rhy dda i’w golli. Yn ffodus, nodwyd Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar fel maes blaenoriaeth yn yr alwad am geisiadau, a bu fy nghais yn llwyddiannus.

Ar ôl cwblhau’r trafodaethau rhwng fy sefydliad a Senedd Ymchwil ynghylch cyllid, dechreuodd cyfnod y Gymrodoriaeth gyda seminar gynefino ym mis Chwefror 2019. Roedd y sesiwn yn cynnwys diwrnod yng Nghaerdydd gyda’r Cymrodyr newydd eraill, Cymrawd blaenorol ac aelodau o dîm Ymchwil y Senedd. Roedd yn ddiwrnod defnyddiol iawn lle eglurwyd strwythur Ymchwil y Senedd a darparwyd gwybodaeth fanwl am sut mae’r adran y n cefnogi Aelodau a Phwyllgorau unigol.

Roedd hyn yn bwysig iawn i mi gan fod fy nghynlluniau o ran y Gymrodoriaeth wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Daeth y diwrnod i ben gyda chyfarfod â Siân Thomas, sy’n arwain y gwaith o gefnogi’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac a oedd i ddod yn berson cyswllt ac yn fentor i mi yng ngwasanaeth Ymchwil y Senedd. Roedd Siân yn wych oherwydd roedd ganddi rywfaint o wybodaeth dda eisoes am Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar ac roedd yn llwyr gefnogi fy nghynnig i lunio cyfres o adroddiadau ar Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

Ar ôl cytuno ar y cwmpas eang cefais ohebiaeth a chyfarfodydd pellach gyda Siân ac aelodau eraill o’r tîm ymchwil lle lluniwyd cynllun manwl ar gyfer cyfres o dri phapur ymchwil dros gyfnod o chwe mis. Cefais fy nghyflwyno hefyd i Glerc y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a bum yn trafod sut y gallai’r papurau gael eu hamseru i gyd-fynd â gwaith y Pwyllgor er mwyn sicrhau y caent yr effaith fwyaf.

Cyhoeddwyd fy mhapur ymchwil cyntaf (‘Plentyndod Cynnar a Gofal yng Nghymru: cyflwyniad’ (PDF, 1134KB)) ym mis Mai 2019. Darparodd Ymchwil y Senedd dempled ar gyfer y papur a rhywfaint o gyngor defnyddiol iawn ar deilwra’r deunydd o ran naws ac arddull i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad sydd â phortffolios eang ac amser cyfyngedig i ddarllen a phrosesu gwybodaeth.

Mae’n debyg mai dethol cysyniadau cymhleth a chanfyddiadau ymchwil heb gefnu ar drylwyredd academaidd oedd her fwyaf y Gymrodoriaeth, ond roedd tîm Ymchwil y Senedd yn ddefnyddiol iawn o ran golygu a phrawfddarllen gwaith. Cynllun arbennig o ddefnyddiol gan Siân oedd gofyn i gydweithiwr heb unrhyw arbenigedd yn y maes dan sylw ddarllen adroddiad drafft a darparu sylwadau lleyg.

Cyhoeddwyd fy ail bapur ymchwil ((‘Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar: Pwysigrwydd Ansawdd’(PDF, 875KB)) ym mis Gorffennaf, a’r trydydd papur, sef (‘Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar: Datblygu Polisi’ (PDF, 1500KB)) tua diwedd mis Medi 2019. Amserwyd y papur olaf hwn i ragflaenu sesiwn o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, lle cefais wahoddiad gan y Cadeirydd i gyflwyno trosolwg o fy ngwaith ymchwil, i ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor a rhoi fy marn ar feysydd polisi Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar Llywodraeth Cymru a allai fod angen craffu arnynt.

I ymchwilydd polisi cymdeithasol, nid oes cyfle mor gyffrous yn bodoli â chael cyflwyno fy ngwaith ymchwil yn uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, i drafod canlyniadau gweithredoedd polisi penodol, a gobeithio, dylanwadu o ran cyfeiriad polisi yn y dyfodol. Mae’n creu ‘effaith’ yng ngwir ystyr y gair. Roedd y gallu i gyrraedd cynulleidfa gyhoeddus ehangach drwy gyhoeddiadau adran Ymchwil y Senedd hefyd o fudd sylweddol.

Ers cwblhau fy Nghymrodoriaeth gyda’r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newid mawr o ran cyfeiriad polisi, a thuag at ddull gweithredu integredig o ran Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar, a gofynnodd y Cadeirydd i mi barhau i ddarparu cefnogaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth iddo barhau i graffu ar y maes hwn.


Erthygl gan Dr David Dallimore, Prifysgol Bangor