Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'

Cyhoeddwyd 23/10/2020   |   Amser darllen munudau

Gosododd Llywodraeth Cymru y fersiwn ddrafft o’i Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) cyntaf gerbron y Senedd ar 21 Medi 2020.

Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn strategaeth ofodol genedlaethol 20 mlynedd. Mae'n nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac fe’i gelwir yn 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'.

Mae’r briff ymchwil (PDF 4053 KB) hwn yn crynhoi:

  • y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a'r dogfennau cysylltiedig, a osodwyd gerbron y Senedd;
  • sut mae'r cynigion hyn yn wahanol i'r rhai a gynhwyswyd yn fersiwn flaenorol y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, yr ymgynghorwyd arno yn 2019; a
  • gwaith craffu pwyllgorau’r Senedd ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2019

Rydym hefyd wedi cyhoeddi blog sy’n ateb cwestiynau cyffredin am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Gan ddechrau o 21 Medi, mae gan y Senedd 60 diwrnod i ystyried y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ac argymell unrhyw newidiadau i Lywodraeth Cymru.

Arweiniodd Llywodraeth Cymru ddadl yn y Senedd ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar 29 Medi.

Bu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd yn holi Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, ar 15 Hydref.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn bwriadu cynnal sesiwn casglu tystiolaeth gyda rhanddeiliaid ar 5 Tachwedd.

Dilynir hyn gan ddadl arall yn y Senedd ar 25 Tachwedd. Fe’i cychwynnir gan y Pwyllgor y tro hwn, pan fydd Aelodau'r Senedd yn cael cyfle i drafod canfyddiadau'r Pwyllgor.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol ym mis Chwefror 2021.

 


Erthygl gan Francesca Howorth ac Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru