Etholiad 2021: faint o bobl bleidleisiodd?

Cyhoeddwyd 12/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyma'r erthygl olaf yn ein cyfres etholiadol ynghylch y nifer a bleidleisiodd, yn dilyn yr erthyglau ynghylch y canlyniadau ac amrywiaeth y Chweched Senedd.

Mae dros 2.3 miliwn o bobl wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru ac o'r rhain, pleidleisiodd dros 1.1 miliwn yn etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Yn seiliedig ar bleidleisiau dilys, y ganran a bleidleisiodd oedd 46.6 y cant. Nid yw 'pleidleisiau dilys' yn cynnwys papurau pleidleisio wedi'u difetha neu eu gwrthod.

Nid yw'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd erioed wedi cyrraedd mwy na hanner yr etholwyr. Er mai etholiadau 2021 oedd â'r nifer uchaf o bleidleiswyr ers sefydlu'r Senedd, mae’r ffigur yn dal i fod yn llai na 50 y cant. Mae'r graff isod yn dangos canrannau'r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau blaenorol y Senedd.

Sut mae hyn yn cymharu ag etholiadau eraill?

Mae nifer y pleidleiswyr yn etholiadau llywodraeth leol Cymru hefyd wedi bod yn weddol debyg i etholiadau'r Senedd. Mae pobl yng Nghymru yn gyson yn pleidleisio mewn niferoedd sylweddol uwch yn etholiadau cyffredinol y DU nag yn etholiadau'r Senedd a’r rhai ar gyfer llywodraeth leol.

Nifer y pleidleiswyr yn ôl seddi

Ar lefel etholaeth, yng Ngogledd Caerdydd y gwelwyd y ganran fwyaf yn pleidleisio, sef 58.1 y cant, ac ym Merthyr Tudful a Rhymni y gwelwyd y ganran leiaf, sef 34.8 y cant. Mewn 14 o'r 40 etholaeth, mae dros 50% o'r etholwyr wedi bwrw pleidleisiau dilys.

Mewn deg etholaeth cafwyd gostyngiad yn nifer y pleidleiswyr ers etholiad 2016, a'r gostyngiad mwyaf oedd -3.7 pwynt canran ym Merthyr Tudful a Rhymni. Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y pleidleiswyr yn Nwyfor Meirionnydd, sef 5.6 pwynt canran yn uwch nag yn 2016.

Ar lefel ranbarthol, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y gwelwyd y ganran fwyaf yn pleidleisio, sef 52.8 y cant, ac yn Nwyrain De Cymru y gwelwyd y ganran leiaf, sef 41.7 y cant.

Dim ond yn un o'r pum rhanbarth y cafwyd gostyngiad yn nifer y pleidleiswyr ers etholiad 2016. Roedd y gostyngiad hwn yn Nwyrain De Cymru, sef -0.2 pwynt canran yn is na 2016. Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y pleidleiswyr yng Ngogledd Cymru, sef 2.9 pwynt canran yn uwch na phum mlynedd yn ôl.

Sut caiff nifer y pleidleiswyr ei gyfrifo?

Mae sawl ffordd o gyfrifo'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau:

  • nifer y pleidleisiau dilys yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau dilys a fwriwyd;
  • nifer y pleidleisiau dilys ac annilys yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn ogystal â nifer y pleidleisiau a wrthodwyd yn y cyfrif; a
  • cyfanswm a aeth ati i bleidleisio yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn ogystal â nifer y pleidleisiau a wrthodwyd yn y cyfrif a’r rhai a wrthodwyd yn y broses ddilysu pleidleisiau post.

Mae'r erthygl hon yn seiliedig ar bleidleisiau dilys a fwriwyd. Pan fo ar gael, mae nifer y pleidleisiau a fwriwyd wedi'i chymryd o wybodaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol drwy Swyddogion Canlyniadau, a'i dilysu gan ddefnyddio data gan y BBC. Gall y pwynt canran fod yn wahanol mewn rhai ardaloedd i’r hyn a adroddwyd gan y BBC oherwydd gwahaniaethau wrth dalgrynnu. Mae canlyniadau etholiadau hanesyddol eraill yn seiliedig ar wybodaeth o'r Comisiwn Etholiadol a Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin.


Erthygl gan Lucy Morgan, Gareth Thomas, Owain Davies a Joe Wilkes Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru