Erthygl 16 o Brotocol Gogledd Iwerddon: Hysbysiad Hwylus

Cyhoeddwyd 30/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Protocol Gogledd Iwerddon (“y Protocol”) yn rhan o’r Cytundeb Ymadael, sy'n gosod telerau ymadawiad y DU â'r UE. Sefydlodd drefniadau newydd ar gyfer tir y DU-UE sy’n ffinio rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi galw ar yr UE i aildrafod y Protocol oherwydd ei fod yn arwain at nifer o broblemau. Mae'n rhestru rhai ohonynt fel amhariad ar gadwyni cyflenwi, costau uwch, a llai o ddewis i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Arglwydd David Frost wedi rhybuddio dro ar ôl tro y gallai'r DU ddefnyddio Erthygl 16 os na wneir newidiadau i'r Protocol. Mae Erthygl 16 yn caniatáu cymryd mesurau diogelu os yw'r Protocol yn arwain at rai anawsterau, neu at ddargyfeiriadau masnach. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai hyn yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth yn hytrach na’n well, ac y dylid ei osgoi.

Mae’r Hysbysiadau Hwylus hyn yn

  • egluro prif bwyntiau Erthygl 16, gan gynnwys sut gall y mesurau gael ei weithredu;
  • rhoi trosolwg newidiadau posibl i’r Protocol;
  • esbonio’r gweithdrefn datrys anghydfodau y Cytundeb Ymadael.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru