Ei gael yn iawn: Darparu cyfiawnder yng Nghymru

Cyhoeddwyd 31/01/2020   |   Amser darllen munudau

“Rydym wedi dod i’r casgliad unfrydol nad yw’r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru. Mae angen i’r system gyfiawnder, a’r drefn ddatganoli bresennol, gael eu diwygio’n sylweddol” yn ôl y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Roedd adroddiad y Comisiwn ar y system gyfiawnder yng Nghymru a’r newidiadau y dylid eu gwneud iddi, a gyhoeddwyd ar 24 Hydref 2019, yn dod i’r casgliad “Rydym wedi llunio cyfres unfrydol o gasgliadau ac argymhellion a fydd, o’u gweithredu, yn sicrhau cyfiawnder yng Nghymru i bobl Cymru”, yn hytrach na’i gadw’n fater i Senedd y DU fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Pam y sefydlwyd y Comisiwn?

Crëwyd y Comisiwn i ymdrin â “busnes heb ei orffen sy’n deillio o Gomisiwn Silk”. Sefydlodd Llywodraeth y DU Gomisiwn Silk ym mis Hydref 2011, i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru. Gwnaeth nifer o argymhellion ynghylch cyfiawnder a phlismona yn ei Adroddiad Rhan 2 ar bwerau deddfwriaethol i gryfhau Cymru.

Argymhellodd Comisiwn Silk ddatganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid i’r Cynulliad erbyn 2017. Roedd hefyd yn argymell cwblhau a gweithredu adolygiad o ddatganoli deddfwriaethol agweddau eraill ar y system gyfiawnder erbyn 2025. Fodd bynnag, ni chafodd yr argymhellion ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder eu hymgorffori yn Neddf Cymru 2017, a oedd yn datganoli rhagor o bwerau i Gymru.

Ar 18 Medi 2017 cyhoeddodd Carwyn Jones AC, y cyn-Brif Weinidog ei fod am sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, i adolygu’r system gyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Cyhoeddwyd datganiad yn ddiweddarach yn amlinellu aelodaeth y Comisiwn ynghyd â’r cylch gorchwyl, sef:

Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda’r nod o:

  • hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu’r broses adsefydlu;
  • sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy’n codi yng Nghymru;
  • hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.

Dechreuodd y Comisiwn ei waith ym mis Rhagfyr 2017 a chyhoeddwyd cais am dystiolaeth y mis Chwefror canlynol.

Clawr adroddiad y Comisiwn ar Gyfianwder yng Nghymru gan gynnwys logo a’r teitl ‘Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru’

Beth wnaeth y Comisiwn ei argymell?

Gwnaeth y Comisiwn 78 o argymhellion yn ei adroddiad. Mae’r argymhellion cyffredinol yn cynnwys:

  • dylid datganoli cyfiawnder i’r Cynulliad yn ddeddfwriaethol gan gynnwys datganoli polisi cyfiawnder ieuenctid, plismona a lleihau troseddau;
  • i gyd-fynd â datganoli deddfwriaethol, dylid datganoli swyddogaethau sy’n ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru yn weithredol i Lywodraethu Cymru.
  • dylai datganoli cyfiawnder hefyd gynnwys trosglwyddo adnoddau ariannol yn llwyr;
  • dylid nodi’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru yn ffurfiol fel cyfraith Cymru, ar wahân i gyfraith Lloegr; a
  • dylai’r Cynulliad ymgymryd â rôl fwy rhagweithiol wrth graffu ar weithrediad y system gyfiawnder.

Byddwn yn ymdrin â rhai o’r argymhellion hyn yn fanylach mewn erthyglau eraill a gyhoeddir yn yr wythnosau nesaf.

Sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r adroddiad?

Gwnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford AC ddatganiad ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Tachwedd. Fe’i disgrifiodd fel “adroddiad pwysig” a dywedodd ei fod yn haeddu “ystyriaeth o ddifrif a gofalus” gan holl Aelodau’r Cynulliad”.

Dywedodd Chris Philip AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yn ystod Dadl yn San Steffan ar yr adroddiad, nad oes gan Lywodraeth y DU ddim bwriad i lunio ymateb llawn a ffurfiol oherwydd comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru, nid ganddi hi.

Dywedodd nad yw Llywodraeth y DU yn cytuno â chasgliad y Comisiwn y dylid datganoli cyfiawnder yn llwyr, ac y dylid creu awdurdodaeth Gymreig. Wrth wneud hynny, nododd eu rhesymau dros ddod i’r casgliad hwn, gan gynnwys na ellid cyfiawnhau’r gost. Fodd bynnag, dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod polisïau cyfiawnder yn gydnaws â’i gilydd, ac i ystyried anghenion gwahanol Cymru.

Beth sy’n digwydd yn y Cynulliad?

Ddydd Mercher 29 Ionawr cytunodd y Cynulliad i newid enw ei Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Cytunodd hefyd i ychwanegu cyfiawnder at gylch gwaith y Pwyllgor. Mae hyn yn dilyn argymhelliad y Comisiwn y dylai’r Cynulliad fod yn fwy rhagweithiol wrth graffu ar sut mae’r system gyfiawnder yn gweithredu, a monitro ac adolygu cynnydd o ran diwygio cyfiawnder.

Caiff dadl ei chynnal gan Aelodau’r Cynulliad ar adroddiad y Comisiwn ddydd Mawrth, 4 Chwefror.


Erthygl gan Manon George, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru