Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Diwygio'r system anghenion addysgol arbennig
Cyhoeddwyd 02/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
01 Mehefin 2016
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ôl y diffiniad yn y ddeddfwriaeth bresennol, mae gan blant a phobl ifanc AAA os ydynt yn cael llawer mwy o drafferth dysgu na'r rhan fwyaf o ddisgyblion yr un oedran â hwy, neu os oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag manteisio ar yr addysg sydd ar gael yn gyffredinol. Er mwyn ystyried anawsterau dysgu yn anghenion addysgol arbennig, mae'n rhaid bod angen ymyriadau arnynt sy'n ychwanegol i'r ffyrdd gwahanol o ddysgu a gynigir fel arfer gan athrawon. Yn 2014/15, nodwyd bod gan 23 y cant o ddisgyblion (105,000) mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru AAA yn swyddogol.
Beth oedd cynigion Llywodraeth flaenorol Cymru?
Yn 2015, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft. Roedd tri amcan i'r Bil drafft:
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r system anghenion addysgol arbennig bresennol yn addas i'r diben. Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, gynlluniau i gyflwyno diwygiadau hirddisgwyliedig drwy ddeddfwriaeth, ond pa newidiadau a fyddai'n cael eu cyflwyno o dan Ddeddf newydd?
Mae'r angen i ddiwygio'r ffordd y mae'r sector addysg a'r sector iechyd yn darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) wedi bod ar yr agenda am gryn amser ers datganoli. Mae pob plaid yn cytuno bod angen newid, ac mae rhanddeiliaid yn disgwyl newid i'r drefn hefyd. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi mai Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd un o'r meysydd cyntaf y gofynnir i'r Pumed Cynulliad ddeddfu arno. Beth yw anghenion addysgol arbennig?
Yn ôl y diffiniad yn y ddeddfwriaeth bresennol, mae gan blant a phobl ifanc AAA os ydynt yn cael llawer mwy o drafferth dysgu na'r rhan fwyaf o ddisgyblion yr un oedran â hwy, neu os oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag manteisio ar yr addysg sydd ar gael yn gyffredinol. Er mwyn ystyried anawsterau dysgu yn anghenion addysgol arbennig, mae'n rhaid bod angen ymyriadau arnynt sy'n ychwanegol i'r ffyrdd gwahanol o ddysgu a gynigir fel arfer gan athrawon. Yn 2014/15, nodwyd bod gan 23 y cant o ddisgyblion (105,000) mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru AAA yn swyddogol.
Beth oedd cynigion Llywodraeth flaenorol Cymru?
Yn 2015, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft. Roedd tri amcan i'r Bil drafft:
- un fframwaith deddfwriaethol gydag un diffiniad, sef 'anghenion dysgu ychwanegol' (ADY), ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anawsterau dysgu;
- proses integredig gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio; a
- system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ymdrin â phryderon ac apeliadau.
- darpariaeth annigonol o ran cydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gyda'r Pwyllgor yn credu bod angen rhoi dyletswyddau cadarnach ar gyrff iechyd;
- galw am i'r Cynlluniau Datblygu Unigol cyffredinol gadw manteision y dull tair haen presennol sy'n darparu cymorth dwysach i ddysgwyr sydd ag anghenion mwy cymhleth a difrifol, ac i'w gwneud yn gliriach pwy fyddai'n gyfrifol am y cynlluniau;
- yr angen i Dribiwnlys Addysg Cymru gael pwerau cryfach wrth ystyried apeliadau gan deuluoedd yn erbyn awdurdodau lleol a byrddau iechyd; ac
- y diffyg manylion ynghylch y ddarpariaeth ar ddechrau a diwedd yr ystod oedran 0-25 oed, h.y. pa drefniadau fydd ar waith ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg ôl-16?
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Y Pwyllgor i graffu ar y Bil ADY drafft cyn y broses ddeddfu, (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Canlyniad gwaith craffu cyn deddfu Pwyllgor y Cynulliad ar y Bil ADY drafft, (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Ystadegau AAA: Nifer y disgyblion, gwariant sydd wedi’i gyllidebu, a chyflawniad academaidd, (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, (2015)
- Llywodraeth Cymru, Y diweddaraf am yr Ymgynghoriad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft (2016)
- Llywodraeth Cymru, y Bil drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (2015)
- Llywodraeth Cymru, Cynigion deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol – Papur gwyn (2014)