Diwygio’r Senedd – y stori hyd yma

Cyhoeddwyd 24/08/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/10/2023   |   Amser darllen munudau

Gallai deddfwriaeth a gyflwynir yr hydref hwn  arwain at y diwygiadau mwyaf arwyddocaol i’r Senedd ers ei sefydlu yn 1999. Cyn i’r newidiadau posibl hyn fynd rhagddynt, mae'r erthygl hon yn bwrw golwg yn ôl ar hanes diwygio'r Senedd hyd yn hyn.

Cefndir

Mae’r gwaith o ddiwygio’r Senedd wedi bod yn mynd rhagddo am nifer o flynyddoedd. Yn 2017 gwnaeth y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad (“Panel Arbenigol”) argymhellion ynghylch maint y Senedd a sut y dylid ethol aelodau. Trafodwyd ei argymhellion yn ddiweddarach gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, a gyflwynodd adroddiad ym mis Medi 2020.

Cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ei sefydlu yn 2021 i ystyried y casgliadau y daethpwyd iddynt gan CSER, ac i wneud argymhellion ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio’r Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Mai 2022.

Mae’r Briff Ymchwil hwn yn cynnwys crynodeb mwy cynhwysfawr o’r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Panel Arbenigol, CSER a’r Pwyllgor Diben Arbennig.

Diwygio’r Senedd: Beth sydd eisoes wedi digwydd?

Y Panel Arbenigol

Cafodd y Senedd bwerau newydd i ddeddfu ar ei faint a’i drefniadau etholiadol o dan Ddeddf Cymru 2017. Cyn cael y pwerau hyn, sefydlwyd y Panel Arbenigol ym mis Chwefror 2017 i wneud argymhellion ynghylch beth ddylai maint y Senedd fod a faint o Aelodau y dylid eu hethol.

Argymhellodd y Panel Arbenigol y dylid cynyddu nifer yr Aelodau i 80 o leiaf ac y dylid eu hethol drwy Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy pe bai ei argymhellion ynghylch annog amrywiaeth yn cael eu gweithredu.

Math o 'gynrychiolaeth gyfrannol' yw’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy lle mae dosbarthiad seddau yn cyd-fynd yn agos â chyfran yr holl bleidleisiau a gaiff eu bwrw dros bob plaid.

Yn dilyn adroddiad y Panel Arbenigol, daeth Comisiwn y Senedd i’r casgliad ym mis Mehefin 2019, er ei fod yn hyderus bod ‘yr achos o blaid cynyddu’r nifer o Aelodau wedi ei ddadlau’n llwyddiannus’, nad oedd consensws gwleidyddol eto ar y system etholiadol.

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Cytunodd y Senedd i wneud rhagor o waith trawsbleidiol i drafod argymhellion y Panel Arbenigol. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd wedi hynny a chyflwynwyd adroddiad ym mis Medi 2020.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno deddfwriaeth ar ddechrau’r Chweched Senedd i gynyddu maint y Senedd i fod rhwng 80 a 90 Aelod, o’r etholiad yn 2026 ymlaen. Hefyd, argymhellodd y dylid cyflwyno deddfwriaeth ar ddechrau’r Chweched Senedd i ddarparu bod Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol drwy’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, o’r etholiad yn 2026 ymlaen.

Nid oedd y Pwyllgor yn hollol drawsbleidiol gan na chyflwynodd y Blaid Geidwadol Aelod. Roedd pandemig Covid-19 a’r ffaith bod Aelod o’r Senedd wedi gadael y Pwyllgor ym mis Mehefin 2020 hefyd wedi cael effaith ar elfennau o'i waith. O ganlyniad i hynny, mae adroddiad y Pwyllgor yn cydnabod nad oedd mewn sefyllfa i drafod materion penodol yn fanwl, megis trefniadau adolygu ffiniau ar gyfer etholiadau’r Senedd. Mae hefyd yn cydnabod nad oedd y Pwyllgor wedi gallu dod i gasgliadau pendant ar ddyluniad manwl system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau’r Senedd na’r defnydd o gwotâu amrywiaeth.

Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd

Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 gyda’r nod o adeiladu ar waith y Panel Arbenigol a CSER, a gwneud argymhellion ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio’r Senedd.

Fe wnaeth y Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad terfynol ym mis Mai 2022.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai maint y Senedd gynyddu i 96 Aelod, ac y dylai gael ei hethol drwy system etholiadol gyfrannol rhestr gaeedig. At hynny, argymhellodd, ar gyfer etholiad Senedd 2026, y dylid defnyddio 16 o etholaethau aml-aelod, wedi’u creu drwy ddwyn 32 o etholaethau newydd Senedd y DU at ei gilydd. Yn y tymor hwy, argymhellodd y dylid cynnal adolygiad ffiniau cyn etholiad 2031. Roedd cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll etholiad i’r Senedd hefyd wedi’u cynnwys yn argymhellion y Pwyllgor.

Fe wnaeth y Senedd drafod adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mehefin 2022. Pleidleisiodd yr aelodau i gymeradwyo'r cynnig ar argymhellion yr adroddiad.

Darllenwch ein erthygl a geirfa i gael rhagor o fanylion am argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cafodd dau Fil i ddiwygio’r Senedd eu cynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2023. Fe gafodd trydydd Bil ar ddiwygio etholiadol mwy cyffredinol ei gynnwys hefyd.

Cafodd y cyntaf o'r Biliau hyn, sef Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei gyflwyno ar 18 Medi 2023. Mae’r Bil hwn yn cynnwys mesurau i roi argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar waith, gan gynnwys y canlynol:

  • Cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod;
  • cyflwyno'r system etholiadol gyfrannol rhestr gaeedig; a
  • rhoi newidiadau ar waith mewn ffiniau ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, gyda darpariaethau newydd i alluogi adolygiadau mwy hirdymor o ffiniau.

Byddai’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ac Aelodau o’r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru.

Gallwch ddarllen rhagor am y Bil yn ein herthygl ymchwil.

Byddai’r ail Fil yn cyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr i'w hethol i'r Senedd. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod Bil ar wahân yn cael ei ddefnyddio “i sicrhau y gall y prif Fil fod yno a'i weithredu yn llwyddiannus ar gyfer etholiad 2026”. Mae’r Prif weinidog wedi datgan ei hyder ynghylch y “cwmpas cyfreithiol yma yng Nghymru i ddeddfu yn y maes hwn”, ond cydnabu ei fod “yn faes lle gallai safbwyntiau eraill fod yn bosibl”.

Bydd y Senedd yn cynnal gwaith craffu ar y naill Fil a’r llall – yn ogystal â’r Bil diwygio etholiadol mwy cyffredinol – wrth iddynt gael eu cyflwyno drwy gydol hydref 2023, a dechrau’r flwyddyn nesaf.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut mae’r Senedd yn craffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar wefan y Pwyllgor Biliau Diwygio. Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil, a derbynnir ymatebion i’r ymgynghoriad tan 3 Tachwedd 2023.


Erthygl gan Gruffydd Owen, diweddarwyd gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru