Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia

Cyhoeddwyd 15/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2020   |   Amser darllen munudau

Dydd Iau, 17 Mai, yw Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia. Bwriad y diwrnod yw ceisio dod â materion sy’n effeithio ar bobl LGBT ar draws y byd i sylw’r rheiny sy’n gyfrifol am greu polisïau, y cyfryngau, awdurdodau lleol a’r cyhoedd.

Felly, beth yw’r sefyllfa sy’n wynebu pobl LGBT sy’n byw yng Nghymru?

Troseddau Casineb

Yn ôl arolwg YouGov o 1,200 o bobl LGBT yng Nghymru, ar gyfer Stonewall Cymru:

  • Mae nifer y bobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol yng Nghymru sydd wedi profi troseddau casineb wedi cynyddu 82% mewn pum mlynedd, o 11% yn 2013 i 20% yn 2017;
  • Mae bron i un ym mhob pedwar o bobl LGBT (23%) wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb yn y 12 mis diwethaf, a hynny oherwydd eu tueddfryd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd;
  • Yn y 12 mis diwethaf, mae hanner pobl trawsryweddol (52%) wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu hunaniaeth rhywedd;
  • Mae un ym mhob deg (11%) o bobl LGBT wedi profi camdriniaeth neu ymddygiad homoffobig, deuffobig neu drawsffobig arlein sydd wedi’i gyfeirio atyn nhw’n benodol yn y mis diwethaf, mae hyn yn cynyddu i un ym mhob pedwar (24%) o bobl trawsryweddol; a
  • Mi wnaeth pedwar ym mhob pump o bobl LGBT (82%) a brofodd drosedd neu ddigwyddiad casineb benderfynu peidio â rhoi gwybod i’r heddlu.
  • Mae ystadegau swyddogol ar gyfer nifer y troseddau casineb sydd wedi eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn 2016-17, yn dangos:

Gwahaniaethu

Yn ôl yr arolwg Stonewall, roedd un ym mhob pump o bobl LGBT (19%) wnaeth ymweld â chaffi, ty bwyta, tafarn neu glwb nos yn y 12 mis diwethaf wedi profi gwahaniaethu ar sail tueddfryd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd, gan gynyddu i 32% ar gyfer pobl trawsryweddol. Roedd mwy na thraean o bobl LGBT (36%) yn dweud eu bod yn osgoi rhai tafarndai a thai bwyta penodol oherwydd pryderon ynglyn â gwahaniaethu. Roedd mwy na hanner (55%) o bobl trawsryweddol yn osgoi rhai mannau penodol.

Roedd un ym mhob deg (10%) o bobl LGBT oedd yn chwilio am dy neu fflat i’w brynu neu rhentu yn y flwyddyn ddiwethaf yn teimlo eu bod wedi dioddef gwahaniaethu. Roedd un ym mhob wyth o bobl LGBT (14%) wnaeth ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn y flwyddyn ddiwethaf wedi profi gwahaniaethu, tra bod bron i dri ym mhob deg (28%) wnaeth ymweld â man addoli neu wasanaeth crefyddol yn y 12 mis diwethaf wedi profi gwahaniaethu.

Mynd i’r afael â throseddau casineb

Yn Mai 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu, gyda’r bwriad o atal troseddau casineb, cefnogi dioddefwyr troseddau casineb a gwella’r ymateb rhwng asiantaethau i droseddau casineb. Mae’r fframwaith yn cael ei chefnogi gan gynllun cyflawni sy’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol, ynghyd ag adroddiad cynnydd blynyddol. Mae’r cynllun cyflawni a’r adroddiad cynnydd diweddaraf ar gael ar gyfer 2016-17.

Cofnodi troseddau casineb

Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymorth i Ddioddefwyr i weithredu fel Canolfan Genedlaethol Swyddogol ar gyfer Adrodd Troseddau Casineb yng Nghymru, gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer o droseddau a digwyddiadau casineb sy’n cael eu cofnodi ac i gynnig cymorth i ddioddefwyr troseddau o’r fath, mae’r adroddiad LGBT in Wales: Hate Crime and Discrimination gan Stonewall Cymru yn awgrymu bod angen gwneud mwy.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu a darparu fframwaith genedlaethol newydd ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb a chefnogi dioddefwyr, gan weithio gydag asiantaethau sydd wedi eu datganoli, a’r rheiny sydd heb eu datganoli, er mwyn cynyddu cyfraddau cofnodi troseddau, gwella’r ymateb i droseddau a chefnogi dioddefwyr.

Mae Stonewall yn awgrymu y dylai’r heddlu:

  • Wella hyfforddiant ar gyfer swyddogion yr heddlu a gweithwyr rheng flaen i adnabod a chofnodi troseddau casineb homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, gwella cefnogaeth i ddioddefwyr a sicrhau bod y rheiny sy’n euog o droseddau o’r fath yn cael eu cosbi;
  • Weithio’n agos gyda phobl LGBT, a dadansoddi tueddiadau mewn troseddau casineb yn eu hardal, gan gynnwys ar draws y gwahanol nodweddion gwarchodedig, er mwyn canolbwyntio ar y bobl LGBT mwyaf bregus; a
  • Gynyddu hyder mewn cofnodi troseddau casineb drwy ddatgan yn gyhoeddus eu hymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau casineb homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, gan wneud cofnodi troseddau yn haws, cydweithio gyda grwpiau LGBT lleol a chanolfannau cofnodi sy’n cael eu rhedeg gan grwpiau annibynnol.

Bydd Arweinydd y Ty yn gwneud datganiad ynglyn â Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia ar ddydd Mawrth, 15 Mai.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru