Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014: cynnydd wedi arafu?

Cyhoeddwyd 07/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

7 Mawrth 2014   Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru "Mae gan wledydd sydd â mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau hefyd well twf economaidd. Mae cwmnïau sydd â mwy o fenywod yn arweinwyr yn perfformio'n well. Mae cytundebau heddwch sy'n cynnwys menywod yn fwy cadarn. Mae Seneddau sydd â mwy o fenywod yn deddfu mwy ar faterion cymdeithasol allweddol megis iechyd, addysg, gwrthwynebu gwahaniaethu a chynnal plant. Mae'r dystiolaeth yn glir: mae cydraddoldeb i fenywod yn golygu cynnydd i bawb.” Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon  Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014 yw 'Ysbrydoli Newid', a'r bwriad yw dathlu llwyddiannau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd menywod, gan dynnu sylw'r byd at feysydd sydd angen gweithredu pellach. Gydag adroddiadau diweddar yn tynnu sylw at y diffyg gwelliant o ran cynrychiolaeth menywod yng Nghymru, beth sy'n digwydd yng Nghymru i sicrhau cynnydd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau? Mae papur y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Pwy sy'n rhedeg Cymru? 2014, yn nodi:
  • yn 2003, roedd gan y Cynulliad Cenedlaethol gydbwysedd perffaith rhwng y rhywiau, am y tro cyntaf yn y byd, sef 50% o ddynion a 50% o fenywod. Bellach, mae wedi llithro i 58% o ddynion a 42% o fenywod; 
  • ddeng mlynedd yn ôl, roedd 56% o Gabinet Llywodraeth Cymru yn fenywod, erbyn hyn dim ond 27% sy'n fenywod;
  • ddeng mlynedd yn ôl, roedd 29% o Brif Weithredwyr Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn fenywod, erbyn heddiw dim ond 10% o Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau sydd â menyw wrth y llyw;
  • ddeng mlynedd yn ôl, roedd 14% o Arweinwyr Cynghorau yn fenywod, erbyn heddiw mae'r ffigur wedi gostwng i 9%.
 Mae Pwy sy'n Rhedeg Cymru? 2014 hefyd yn nodi:
  • dim ond 27% o gynghorwyr Cymru sy'n fenywod;
  • does dim un o'r wyth Comisiynydd Heddlu a Throseddu na dim un o Brif Gwnstabliaid Cymru yn fenyw;
  • canfu arolwg o'r 100 cwmni mwyaf sy'n gweithredu yng Nghymru mai dim ond 2%  oedd â menyw yn brif weithredwr (neu mewn swydd gyfatebol).
Fodd bynnag, mae nifer o ymgyrchoedd a phrosiectau ar waith ar hyn o bryd i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru:  Ym mis Ionawr 2014, lansiodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, y Cynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Nod y cynllun yw annog rhagor o fenywod i wneud cais am benodiadau cyhoeddus, a rolau eraill mewn bywyd cyhoeddus, drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer mentora, cysgodi pobl mewn rolau penodol, a chyfleoedd i hyfforddi. Y cynllun yw ail ran yr ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, yn dilyn y Porth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, sy'n rhoi gwybodaeth am sut i ymgeisio am swyddi cyhoeddus, y swyddi gwag diweddaraf a chyfleoedd hyfforddi.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i gynyddu nifer y menywod a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol mewn bywyd cyhoeddus, er mwyn cyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i:
  • Fynd hyd yn oed ymhellach i ddarparu cronfa fwy gynrychioliadol o'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru
  • Ceisio cyflwyno cwotâu, fel y rhai yn Norwy, ar gyfer penodiadau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod o leiaf 40% o benodiadau yn fenywod
Mae'r cynllun hwn hefyd yn ategu Amcan Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru i “wella gweithgarwch ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau eu bod yn cymryd mwy o ran mewn penodiadau cyhoeddus”. Mae'r Gweinidogion sy'n gyfrifol am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru wedi ysgrifennu at Gadeiryddion byrddau yn y sector cyhoeddus yn gofyn iddynt barhau i fod yn rhagweithiol o ran cynyddu nifer y menywod a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol mewn penodiadau cyhoeddus. Cyhoeddwyd crynodeb o'r canfyddiadau allweddol ac arferion da.  Ym mis Gorffennaf 2013, sefydlodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffiths AC, Grŵp Arbenigol ar Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol, gyda'r Athro Laura McAllister yn gadeirydd. Cafodd y grŵp y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, grwpiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i helpu gyda gwella amrywiaeth ymhlith y Cynghorwyr a fydd yn cael eu hethol yn etholiadau lleol 2017. Rhagwelir y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2014.  Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio ar brosiect sy'n edrych ar y diffyg cynrychiolaeth o ran menywod ar fyrddau cwmnïau. Mae'r prosiect hwn yn ehangu ar adroddiad blaenorol gan y Comisiwn a ganfu bod rhwystr o ran penodi menywod yn gyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau FTSE 350 am fod y prosesau dethol yn ffafrio ymgeiswyr sydd â nodweddion tebyg i aelodau presennol y byrddau, sy'n ddynion yn bennaf. Bydd y ffocws ar arferion recriwtio i fyrddau cwmnïau corfforaethol, gan gynnwys defnyddio 'head-hunters' i gynorthwyo cwmnïau FTSE 350 i benodi i'w byrddau, hysbysebu swyddi yn agored, a rôl Cadeiryddion o ran sicrhau arferion mwy cyfartal, tryloyw ac agored.  Mae rhagor o wybodaeth am fenywod mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn y blog hwn.