Diwrnod canlyniadau TGAU (23/08/2018)

Cyhoeddwyd 23/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos ddiwethaf, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys saith darparwr cymwysterau mwyaf y DU) yn cyhoeddi crynodebau o ganlyniadau cyfunol y disgyblion sydd wedi cofrestru â chyrff dyfarnu.

Dirywiad yn nifer y disgyblion sy'n cofrestru

Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ddata dros dro ar nifer y disgyblion sy'n cofrestru ar gyfer arholiadau eleni. Canfu'r data fod nifer y disgyblion sydd wedi cofrestru ar gyfer TGAU yn 2018 wedi gostwng 13 y cant ers 2017. Mae hefyd wedi cyhoeddi trosolwg o ganlyniadau heddiw.

Gallai’r gostyngiad hwn mewn cofrestriadau fod oherwydd newid polisi Llywodraeth Cymru ar fesurau perfformiad ysgolion (gweler erthygl blog gwadd Cymwysterau Cymru ar gyfres arholiadau haf 2018). Yn dilyn pryderon ynghylch tuedd gynyddol disgyblion blwyddyn 10 (neu iau) yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru adroddiad ar gofrestriadau cynnar a lluosog mewn TGAU yng Nghymru (Hydref 2017). Canfu'r adroddiad fod y mater yn gymhleth, ond efallai y bydd y pwysau ar ysgolion i gyflawni yn erbyn mesurau perfformiad ysgolion ac i gystadlu ag ysgolion eraill wedi annog cofrestriadau cynnar a lluosog. Roedd adroddiad Cymwysterau Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru newid y ffordd y caiff mesurau perfformiad ysgolion eu cyfrifo.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ar 16 Chwefror 2018 o haf 2019, dim ond canlyniadau dyfarnu cymhwyster cyflawn cyntaf (gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol) fydd yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad.

Newidiadau parhaus mewn TGAU

Wrth i'r newidiadau i TGAU yng Nghymru barhau, dyfernir ar gyfer pymtheg pwnc arall am y tro cyntaf eleni. Mae TGAU yn mynd drwy raglen ddiwygio yn Lloegr hefyd. Yn Lloegr, dechreuwyd cyflwyno graddfa raddio newydd o 9 i 1 yn hytrach na A* i G ar gyfer rhai pynciau y llynedd. Eleni, bydd y rhan fwyaf o'r pynciau a gymerir mewn niferoedd mawr gan ddysgwyr yn cael eu graddio 9-1. Nid yw'r rhain yn cyfateb yn uniongyrchol â llythrennau'r graddau blaenorol, felly ni fydd gradd 9 yn gallu cymharu'n uniongyrchol. Mae Ofqual wedi cyhoeddi ffeithlun sy'n dangos sut y bydd y rhifau a'r llythrennau'n cymharu.

Canlyniadau

O ystyried y newidiadau parhaus mewn cymwysterau yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â'r gwahaniaeth cynyddol rhwng polisi y ddwy wlad, mae'n anodd cymharu flwyddyn wrth flwyddyn, neu wlad wrth wlad a dylid ystyried unrhyw gymariaethau â gofal. Ni all y raddfa newydd ar gyfer graddau gael ei chymharu'n uniongyrchol â'r raddfa flaenorol, heblaw am wneud hynny ar sail A/7; C/4; a G/1. Felly, ni ellir ond gwneud cymariaethau ar draws y blynyddoedd - a hynny ar draws pynciau sydd wedi'u diwygio a phynciau sydd heb eu diwygio, ac ar draws awdurdodaethau - ar sail y graddau hyn.

O ystyried y newidiadau i'r system graddau yn Lloegr, gyda mwy o bynciau'n cael eu dyfarnu ar sail 9-1, ni wnaed unrhyw gymhariaeth â Lloegr.

Mae'r data yn y tabl isod yn deillio o wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau heddiw a data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ynghylch diwrnod canlyniadau TGAU 2017. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Mae angen i'r data gael eu gwirio cyn i'r data terfynol ar lefel Cymru, lefel awdurdod lleol a lefel yr ysgolion gael eu cyhoeddi. Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â 'chofrestriadau' ac nid 'ymgeiswyr'. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod lefel y perfformiad wedi cynyddu neu ostwng ar lefel TGAU neu o fewn y graddau. Ni all ddangos a oes mwy o fechgyn neu o ferched yn cael pump neu ragor o raddau TGAU rhwng A* ac C. Mae'r data yn ymwneud â chanlyniad y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb ni waeth beth yw eu hoedran.

Yn gryno:

  • Mae canran gyffredinol y dysgwyr sy'n cyflawni gradd A* yr un peth â'r llynedd gyda chynnydd o 0.1 pwynt canran ar gyfer bechgyn a gostyngiad o 0.2 pwynt canran ar gyfer merched;
  • Rhwng 2017 a 2018, bu cynnydd o 0.6 pwynt canran ar raddau A*-A ar gyfer bechgyn. Cyflawnodd dysgwyr benywaidd yr un peth â'r llynedd a bu cynnydd o 0.3 pwynt canran ar gyfer pob dysgwr;
  • Ar raddau A*-C, rhwng 2016 a 2017, bu gostyngiad o 2.0 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 1.1 pwynt canran ar gyfer merched ac 1.6 pwynt canran ar gyfer pob dysgwr;
  • Bu gostyngiad hefyd yn y cyfraddau cyrhaeddiad rhwng 2017 a 2018 ar raddau A*-G: 0.6 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 1.1 pwynt canran ar gyfer merched ac 1.6 pwynt canran ar gyfer pob dysgwr;
  • Mae merched yn parhau i berfformio'n well na bechgyn ar bob lefel.

Tabl 1: Canrannau cronnol y cofrestriadau a gafodd TGAU yn ôl gradd, 2018 (dros dro)

Bagloriaeth Cymru

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau Cyfnod Allweddol 4 (CA4) Bagloriaeth Cymru ddiwygiedig hon yn cael ei dyfarnu am yr ail dro. Mae Tystysgrif Her Sgiliau CA4 yn cyfateb o ran maint a galw i gymhwyster TGAU. Caiff ei graddio ar A* i C am gyflawniad ar Lefel 2 a Llwyddiant* a Llwyddiant ar Lefel 1. I lwyddo ym Magloriaeth Cymru, rhaid i ddisgyblion gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau a'r cymwysterau ategol (megis TGAU neu gymwysterau galwedigaethol cyfwerth). Tabl 2: Bagloriaeth Cymru CA4 Tabl 3: Canlyniadau Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru CA4 (canrannau cronnol)


Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru