Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 21/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Ionawr 2016 Erthygl gan  Graham Winter,  Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar is-ddeddfwriaeth ar 26 Ionawr 2016, sy’n gam arall tuag at sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn dechrau gwneud penderfyniadau ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru. Mae Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn gategori newydd o gais cynllunio a gyflwynir yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru, yn hytrach nag i awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried y ceisiadau hyn ac yn penderfynu yn eu cylch ar ran Gweinidogion Cymru. Bydd yn ofynnol i’r Arolygiaeth wneud y penderfyniad o fewn 36 wythnos yn y rhan fwyaf o achosion, ar ôl cyflwyno’r cais. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno cam ffurfiol newydd cyn gwneud cais, a ffioedd sydd i gael eu codi am bob cais a gyflwynir a ffioedd am ddarparu cyngor cyn gwneud cais. Mae’r categori Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol newydd yn cael ei gyflwyno o ganlyniad i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a dywed y Llywodraeth y bydd y gyfundrefn newydd ar waith ym mis Mawrth 2016. Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ym mis Mai 2015 ar y mathau o ddatblygiadau ar y tir, uwchlaw trothwyon penodol, sydd i’w cynnwys fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Y datblygiadau hyn fydd:
  • Gorsafoedd cynhyrchu ynni;
  • Cyfleusterau storio nwy tanddaearol;
  • Cyfleusterau ar gyfer nwy hylifedig naturiol;
  • Cyfleusterau Derbyn Nwy
  • Meysydd awyr;
  • Rheilffyrdd
  • Cyfnewidfeydd rheilffyrdd nwyddau;
  • Argaeau a chronfeydd dŵr;
  • Trosglwyddo adnoddau dŵr;
  • Gweithfeydd trin dŵr gwastraff;
  • Cyfleusterau gwastraff peryglus.
Gellir dynodi Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol hefyd drwy’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, sef cynllun datblygu newydd ar gyfer Cymru a gaiff ei lunio gan Lywodraeth Cymru. Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ynni rhwng 25 a 50 Megawat, ond mae bellach wedi diwygio’r diffiniad hwn i gynnwys pob gorsaf cynhyrchu ynni rhwng 10 a 50 Megawat. Dywed Llywodraeth Cymru bod hyn mewn ymateb i sylwadau gan y diwydiant cynhyrchu ynni er mwyn mynd i’r afael â diffygion a nodwyd yn y gyfundrefn ganiatáu bresennol ar gyfer prosiectau ar bob lefel allbwn, ac i adlewyrchu maint cymharol y prosiectau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y caiff unrhyw orsaf gynhyrchu ynni ar y tir o rhwng 10 a 50 Megawat yng Nghymru yn y dyfodol eu hystyried yn awtomatig gan Weinidogion Cymru. Ar hyn o bryd, penderfynir ynghylch gorsafoedd cynhyrchu dros 50 Megawat gan Lywodraeth y DU, ond mae hyn yn debygol o newid yn fuan. Roedd blog blaenorol a gyhoeddwyd yn egluro’r darlun mwyfwy cymhleth sy’n dod i’r amlwg ynghylch pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ar orsafoedd cynhyrchu ynni yng Nghymru yn y dyfodol. Dengys y diagramau isod y trefniadau presennol, a’r trefniadau posibl yn y dyfodol, o ran caniatáu prosiectau ynni ar y tir yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn yr is-ddeddfwriaeth newydd ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, ynghyd â’r Bil Ynni a gaiff ei ystyried ar hyn o bryd gan Senedd y DU, a’r cynigion yn y Bil Cymru drafft a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015. Ffeithlun sy’n dangos y trefniadau presennol a’r trefniadau posibl yn y dyfodol o ran rhoi caniatâd ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir yng Nghymru Energy Planning Other-Welsh-01 View this post in English Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg