llun brechu

llun brechu

Data brechu COVID-19

Cyhoeddwyd 12/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2022   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn wedi’i diweddaru o’i strategaeth frechu COVID-19 ym mis Chwefror 2022. Mae’r dull gweithredu o ran y strategaeth wedi datblygu, yn sgil amrywiolyn newydd Omicron sy’n fwy trosglwyddadwy. Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r strategaeth yn pwysleisio bod brechu yn dal i fod yn rhan hollbwysig o ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig, ac y bydd yn rhan allweddol o’r ffordd y bydd Cymru’n ymdopi â’r feirws yn y tymor hir.

Faint o bobl sydd wedi cael dos o’r brechlyn?

Hyd at 29 Mehefin 2022, mae Cymru wedi rhoi 2,574,534 o ddosau cyntaf o frechlyn COVID-19, sef 81.2% o gyfanswm y boblogaeth, a 2,428,483 o ail ddosau, sef 76.6% o gyfanswm y boblogaeth. Mae 2,052,349 arall wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos o’r brechlyn, sef 64.8% o gyfanswm y boblogaeth.

Canran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf, ail ddos, a thrydydd dos o’r brechlyn

Map o'r DU yn dangos: Dos cyntaf Cymru, 81.2%. Ail ddos Cymru, 76.6%. Trydydd dos Cymru, 64.8%. Dos cyntaf Lloegr, 79.7%. Ail ddos Lloegr, 74.6%. Trydydd dos Lloegr, 58.7%. Dos cyntaf Yr Alban, 83%. Ail ddos Yr Alban, 77.6%. Trydydd dos Yr Alban, 65.3%. Dos cyntaf Gogledd Iwerddon, 75.3%. Ail ddos Gogledd Iwerddon, 71.2%. Trydydd dos Gogledd Iwerddon, 61.4%.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Sylwer: Mae poblogaeth pob un o wleydydd yn y DU yn seiliedig ar ddata diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’n bosibl y gwelwch chi ganrannau gwahanol o'r boblogaeth yn cael eu defnyddio o ran dosbarthu’r brechlynnau. Mae ambell ffynhonnell yn cymharu dosau o’r brechlyn â chyfanswm y boblogaeth, tra bod rhai eraill yn cymharu dosau â'r boblogaeth sy’n 5 oed a hŷn. Rydym yn cyflwyno'r naill a’r llall i ddangos y gwahaniaeth.

Mae'r map uchod yn dangos sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill y DU o ran canran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf, ail ddos, a thrydydd dos o’r brechlyn.

Mae’r graff isod yn dangos canran y boblogaeth dros 5 oed sydd wedi cael dos cyntaf, ail ddos, a thrydydd dos o’r brechlyn dros amser.

Canran y boblogaeth dros 5 oed sydd wedi cael dos cyntaf, ail ddos, a phigiad atgyfnerthu neu drydydd dos o’r brechlyn hyd at ddiwedd 29 Mehefin 2022

Ymhlith y boblogaeth 5 oed a hŷn, mae 86% wedi cael dos cyntaf, 81% wedi cael ail ddos, a 68% wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos ers mis Rhagfyr 2020.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn mynd rhagddi?

Y garreg filltir gyntaf

Carreg filltir gyntaf y strategaeth frechu oedd cynnig dos cyntaf o frechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror 2021. Ar 12 Chwefror, cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, fod y garreg filltir gyntaf wedi’i chyflawni.

Yr ail garreg filltir

Ail garreg filltir y strategaeth frechu oedd cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill 2021. Dywedodd Llywodraeth Cymru y cyflawnwyd yr ail garreg filltir ar 4 Ebrill.

Y drydedd garreg filltir

Trydedd garreg filltir y strategaeth frechu oedd ail gam y rhaglen frechu. Nod Llywodraeth Cymru yw cynnig dos cyntaf o frechlyn i'r rhai 18-49 oed erbyn diwedd Gorffennaf 2021 ac i 75 y cant ym mhob grŵp blaenoriaeth gael dos cyntaf.

Mae ein graff isod yn dangos y dadansoddiad yn ôl grŵp blaenoriaeth a bod y grŵp 18-29 oed bellach wedi cyrraedd 80.9%.

Caiff y cynnydd cyffredinol tuag at y tair carreg filltir ei ddangos yn ein siartiau isod o ran nifer y bobl sydd wedi manteisio ar y dos cyntaf, y cwrs brechu cyntaf a’r dos atgyfnerthu. Mae’r cwrs cyntaf yn golygu dau ddos ac eithrio pobl sy’n ddifrifol imiwnoataliedig, yr argymhellir iddynt gael tri dos.

Canran y bobl sydd wedi cael dos o’r brechlyn a grŵp blaenoriaeth

Defnyddiwch y saethau isod i weld data ar gyfer gwahanol ddosau. Mae’r niferoedd yn cynnwys brechlynnau a roddwyd ac a gofnodwyd hyd at ddiwedd 06 Gorffennaf 2022.

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

O 2 Chwefror 2022, mae pob grŵp oedran yn seiliedig ar oedran ar 31 Mawrth 2022

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yn mynd rhagddi fesul bwrdd iechyd?

Mae PHW yn cyhoeddi diweddariad wythnosol i ddangos cyfran y rheini ym mhob grŵp blaenoriaeth sydd wedi derbyn dos cyntaf, ail ddos a brechiad atgyfnerthu gan fwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol.

Mae'r tair graff isod yn ddangos cynnydd fesul bwrdd iechyd lleol yn ôl y tair carreg filltir. Maen nhw'n dangos y rheini sydd wedi cael brechlyn atgyfnerthu.

Canran y bobl sydd wedi cael brechlyn yn ôl grŵp blaenoriaeth ac ardal Bwrdd Iechyd Lleol preswyl.

Defnyddiwch y saethau isod i weld gwahanol grwpiau blaenoriaeth. Mae’r niferoedd yn cynnwys brechlynnau a roddwyd ac a gofnodwyd hyd at ddiwedd 06 Gorffennaf 2022.

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r map rhyngweithiol yn dangos canran yr oedolion 18 oed a hŷn sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn. Mae’r lliwiau goleuach yn dangos canran uwch sydd wedi’u brechu. Drwy hofran dros enw’r awdurdod lleol, gallwch weld, yn ôl ail ddos a dosau atgyfnerthu, faint o bobl 50+ oed, pobl 80+ oed, pobl mewn cartrefi gofal, a phobl rhwng 16 a 69 oed sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Canran yr oedolion 18 oed a hŷn sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn yn ôl awdurdod lleol.

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

*Preswylwyr cartrefi gofal i oedolyn hyn. **CEV = eithriaol o agored i niwed yn glinigol.

Mae’r niferoedd yn cynnwys brechlynnau a roddwyd ac a gofnodwyd hyd at ddiwedd 30 Ionawr 2022.

Beth nesaf?

Y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19

Mae'r data diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr wythnos yn diweddu 30 Mehefin. Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 wedi parhau i gynyddu ledled y DU a hynny – y ôl pob tebyg – wedi’i achosi gan gynnydd mewn heintiau sy'n gydnaws ag amrywiadau Omicron BA.4 a BA.5

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 149,700 o bobl wedi profi’n bositif am COVID-19, sef 4.93% o’r boblogaeth neu tua 1 ym mhob 20 o bobl. Mae hyn yn gynnydd o'r amcangyfrif o 1 ym mhob 75 ar gyfer yr wythnos yn diweddu 2 Mehefin. Mae hyn yn cymharu â thua 1 ym mhob 17 yn yr Alban, 1 ym mhob 19 yng Ngogledd Iwerddon, ac 1 ym mhob 25 yn Lloegr.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn awgrymu’r canlynol, ar draws y DU:

  • Mae cynnydd yng nghyfraddau achosion COVID-19 a derbyniadau i’r ysbyty ym mhob grŵp oedran, gyda’r cynnydd mwyaf mewn derbyniadau i’r ysbyty a derbyniadau i unedau gofal dwys ymhlith y rheini sy’n 75 oed a hŷn;
  • mae'n debygol y bydd achosion sylweddol o imiwnedd wan ymhlith pobl hŷn nad ydynt wedi manteisio ar y pigiad atgyfnerthu mewn pryd, felly mae'r codiadau hyn yn debygol o barhau dros yr wythnosau nesaf a thrwy gydol mis Gorffennaf;
  • mae brechu’n parhau i fod yr amddiffyniad gorau rhag afiechyd difrifol, ond gall hylendid dwylo a gorchuddion wyneb chwarae rhan wrth atal lledaeniad haint hefyd.

Ar 8 Gorffennaf, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi diweddariad ar sefyllfa COVID-19 yng Nghymru, gan nodi:

Rydym yng nghanol ton newydd o heintiau, a achosir gan yr is-deipiau BA.4 a BA.5 o’r amrywiolyn omicron. Mae’r rhain yn symud yn gyflym ac yn fathau heintus iawn o’r feirws, sy’n achosi ymchwydd mewn heintiau ledled y DU ac mewn llawer o wledydd eraill ar draws y byd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd mai’r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r amrywiolyn BA.5 o omicron. […]

Fel  y gwelsom mewn tonnau blaenorol, mae’r cynnydd mewn achosion yn y gymuned wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a’u trin ar gyfer COVID-19.  Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod mwy na 960 o gleifion sy’n gysylltiedig â COVID-19 bellach mewn ysbytai yng Nghymru a bu cynnydd hefyd yn nifer y bobl â COVID-19 sy’n cael eu trin mewn gofal critigol.

Mae nifer mawr o staff y GIG i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd oherwydd bod COVID-19 arnynt.

At hynny, nododd y Gweinidog fod profion llif unffordd am ddim i bobl sydd â symptomau coronafeirws yn parhau i fod ar gael tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Wrth ystyried y cefndir hwn, mae rhai ysbytai a meddygfeydd yn Lloegr, a nifer o ysbytai Cymru yn gofyn i bob ymwelydd wisgo gorchuddion wyneb. Yn ei diweddariad ar 8 Gorffennaf dywedodd y Gweinidog:

Nid ydym yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, ond byddwn yn annog pawb i wisgo un os ydynt yn ymweld â lleoliad gofal iechyd a byddwn hefyd yn gofyn i bobl ystyried gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do gorlawn, gan fod achosion o’r coronafeirws yn uchel iawn ar hyn o bryd.

Y sefyllfa fyd-eang

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi adrodd bod cynnydd byd-eang wedi bod yn nifer yr achosion wythnosol newydd am y bedwaredd wythnos yn olynol yn dilyn tuedd ar i lawr ers yr uchafbwynt diwethaf ym mis Mawrth 2022, a:

During the week of 27 June to 3 July 2022, over 4.6 million cases were reported, a figure similar to that of the previous week. The number of new weekly deaths declined by 12% as compared to the previous week, with over 8100 fatalities reported. As of 3 July 2022, over 546 million confirmed cases and over 6.3 million deaths have been reported globally.

Y diweddaraf ar y rhaglen frechu

Ar 19 Mai, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ei gyngor interim ar raglen atgyfnerthu brechiadau COVID-19 yr hydref. Barn bresennol y Cyd-bwyllgor yw y dylid cynnig un dos o frechlyn COVID-19 yn hydref 2022 i’r canlynol:

  • Pobl sy’n byw mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a’r staff sy’n gweithio yno;
  • gweithwyr rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol;
  • pawb dros 65 oed ac oedolion 16 i 64 oed mewn grŵp risg clinigol.

Ar 10 Mehefin roedd diweddariad gwanwyn y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar frechlyn COVID-19 yn datgan: “The committee will announce its final plans for the autumn programme, including further detail on the definitions of clinical risk groups, in due course”.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi derbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar 19 Mai ac ar 5 Gorffennaf cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar fin cael ei gyhoeddi ynghylch manylion dos atgyfnerthu'r hydref.

Effeithiolrwydd y brechlynnau

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod brechlynnau COVID-19 yn arfau hanfodol wrth ymateb i’r pandemig ac yn amddiffyn rhag afiechyd difrifol a marwolaeth.

Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd brechlyn yn parhau i ddatblygu a dod i'r amlwg, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn gweithio ar drosolwg o'r gwahanol astudiaethau arsylwi sy’n cael eu cynnal i asesu effeithiolrwydd y brechiad COVID-19. Er bod y gwaith yn dal i gael ei ddatblygu, mae'n cynnwys nodweddion allweddol o ran cynllun yr astudiaeth, maint y sampl, poblogaeth yr astudiaeth, y canlyniadau allweddol a fesurwyd a lleoliadau’r astudiaethau.

Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 y DU

Ar 28 Mehefin cyhoeddodd Llywodraeth y DU y cylch gorchwyl terfynol ar gyfer yr Ymchwiliad a fydd yn cynnwys y camau a gymerwyd yng Nghymru a’r rhyngberthynas rhwng penderfyniadau a wneir ledled y DU. Fel rhan o’r broses o archwilio ymateb y sector iechyd a gofal bydd yr Ymchwiliad hefyd yn ystyried datblygiad, darpariaeth ac effaith therapiwteg a brechlynnau.


Erthygl gan Paul Worthington, Joe Wilkes, Helen Jones, Božo Lugonja a Katie Devenish, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru