Dan bwysau: beth yw'r problemau sy'n wynebu lletygarwch, twristiaeth a manwerthu?

Cyhoeddwyd 04/11/2022   |   Amser darllen munudau

Fel y dywedodd Prif Weinidog newydd y DU, wrth siarad ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd, mae'r DU yn wynebu 'argyfwng economaidd dwys'. Mae prisiau'n codi ar y gyfradd uchaf ers 40 mlynedd. Caiff hyn ei yrru gan brisiau ynni a bwyd uwch o ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin, ynghyd â phwysau cynyddol ar brisiau gan fod busnesau'n codi mwy am eu nwyddau a'u gwasanaethau oherwydd y costau uwch sy'n eu hwynebu. Mae cyfraddau llog ar eu huchaf ers 2008. Mae cyfraddau morgeisi wedi cyrraedd eu lefelau uchaf mewn 14 mlynedd, ac mae ansolfedd cwmnïau ar ei uchaf ers 2009.

Mae rhai sectorau a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig, fel twristiaeth, lletygarwch a rhai busnesau manwerthu bellach yn cael eu heffeithio'n arbennig gan y gost gynyddol o wneud busnes, gan ei bod yn fwy annodd iddynt amsugno costau a dyled ychwanegol, ac maent yn dibynnu’n bennaf ar wariant nad yw'n hanfodol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ymysg y sectorau llety a gwasanaethau bwyd, a chyfanwerthu a manwerthu y cafwyd y nifer uchaf o ansolfedd.

Felly er bod busnesau yn y sectorau hyn yn wynebu costau ychwanegol a'r cyfyng-gyngor o faint i’w basio ymlaen i'r defnyddiwr ar ffurf codi prisiau, maent yn ymwybodol iawn bod incwm gwario eu cwsmeriaid wedi cael ei daro'n galed.

Mae chwyddiant cynyddol a gaiff ei yrru gan gynnydd mewn prisiau ynni domestig a chynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn cyfuno i wasgu incwm gwario mewn ffordd na welwyd ers blynyddoedd lawer. Mae llai o arian ym mhocedi pobl ar ôl iddyn nhw dalu eu biliau bob mis yn golygu bod angen gwneud dewisiadau anodd ac mae'n anochel y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr dorri eu gwariant ar bethau nad ydynt yn hanfodol fel gwyliau, nosweithiau allan a thripiau siopa.

Gadewch i ni ystyried rhai o'r materion sy'n wynebu'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn fanylach.

Twristiaeth – mae newidiadau deddfwriaethol yn peri cyfyng-gyngor

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fesurau deddfwriaethol newydd ym mis Mawrth 2022, yn effeithio ar ail gartrefi a thai gwyliau ar osod. O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd cynghorau lleol yn gallu codi uchafswm premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i 300 y cant (i fyny o’r terfyn o 100 y cant a osodwyd yn 2017). At hynny, mae rheoliadau newydd wedi’u rhoi yn eu lle i gynyddu nifer y diwrnodau y mae’n rhaid i lety hunanddarpar gael ei osod bob blwyddyn i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes (yn hytrach na thalu’r dreth gyngor}, gan godi o 70 diwrnod i 182 diwrnod.

Yn ôl gwaith ymchwil diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae'r awydd i osgoi'r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi yn achosi cyfyng-gyngor i rai gweithredwyr hunanddarpar sy'n ansicr a ddylen nhw aros ar agor yn ystod y gaeaf. Dywed yr adroddiad “Nid yw rhai yn gweld y gaeaf fel amser cost-effeithiol i agor, ond os nad ydynt yn ceisio, nid oes siawns realistig y byddant yn bodloni'r cwota 182 diwrnod."

Wrth ystyried y sector yn ei gyfanrwydd, canfu'r ymchwil fod 50 y cant o weithredwyr twristiaeth yn hyderus iawn neu'n weddol hyderus ynghylch rhedeg eu busnes yn broffidiol yr hydref hwn. Ond nid yw 30 y cant o weithredwyr twristiaeth yn hyderus iawn neu’n hyderus o gwbl am y rhagolygon ar gyfer yr hydref. [DS: cynhaliwyd yr ymchwil hwn ym mis Awst a mis Medi 2022, cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am y Cynllun Rhyddhad ar Fil Ynni i fusnesau.]

Ym mis Gorffennaf 2022, fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price gyhoeddiad ar y cyd y byddai newidiadau i reoliadau cynllunio yng Nghymru, a fydd yn cyflwyno dosbarthiadau newydd o ran defnydd (a ddaeth i rym ar 20 Hydref) er mwyn gwahaniaethu’n well rhwng prif gartrefi ac ail gartrefi llety gosod tymor byr. Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu cynllun trwyddedu statudol newydd ar gyfer pob llety i ymwelwyr, a chaniatáu mwy o bwerau i gynghorau dros gyfraddau treth trafodiadau tir a niferoedd o ail gartrefi.

Mater arall ar y gorwel i'r sector twristiaeth yw'r posibilrwydd o gyflwyno "ardoll twristiaeth dewisol i awdurdodau lleol", fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion, a fyddai yn ôl y ddogfen ymgynghori, yn cymryd rhai blynyddoedd i’w datblygu a gweithredu.

Mae'r sector wedi ymateb yn gryf i'r ardoll arfaethedig, gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru yn awgrymu y byddai'n gyfeiliornus a niweidiol. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 13 Rhagfyr.

Lletygarwch – mae swyddi gwag sylweddol yn parhau i atal twf

Ym mis Mawrth 2022, cafodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth ar y problemau sy'n wynebu'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Clywodd y Pwyllgor am rai o'r heriau sy'n wynebu'r sectorau, gan gynnwys effaith Brexit ar brinder sgiliau, y ffaith bod 78 y cant o'r sector lletygarwch wedi bod ar ffyrlo, gan effeithio ar adferiad, ac roedd gan lawer o fusnesau niferoedd enfawr o swyddi gwag o hyd.

Wrth sôn am y ffigurau cyflogaeth swyddogol diweddaraf a ryddhawyd ym mis Hydref 2022, dywedodd Prif Weithredwr UKHospitality, Kate Nicholls bod nifer sylweddol o swyddi gwag yn parhau, gan atal y gallu i lywio twf. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod gwaith i'w wneud o hyd a’u bod yn parhau i glywed gan fusnesau am sut mae heriau recriwtio’n arafu adferiad.

Fel rhan o’r ymateb i’r pandemig, gostyngodd Llywodraeth y DU gyfradd y TAW sy’n daladwy gan fusnesau lletygarwch a thwristiaeth o’r gyfradd safonol o 20 y cant i 5 y cant rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, ac i 12.5 y cant rhwng mis Hydref 2021 a diwedd mis Mawrth 2022.

Mae UKHospitality wedi parhau i alw am ail-gyflwyno cyfradd is o TAW a rhyddhad pellach mewn ardrethi busnes ar gyfer y sector.

Manwerthu - mae pwysau ariannol yn peri i ddefnyddwyr aros ac ystyried

Mae ffigyrau newydd a ryddhawyd gan y dadansoddwr manwerthu Springboard yn awgrymu bod adferiad y stryd fawr wedi'r pandemig yn arafu oherwydd chwyddiant cynyddol. Yn ôl Springboard, mae'r gyfradd barhaus o chwyddiant ynghyd â'r cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu ei bod yn anochel y bydd siopwyr, o fis Hydref ymlaen, yn arfer mwy fyth o ddisgresiwn ac yn ystyried mwy o ran eu hymddygiad prynu.

Ym mis Mehefin 2022 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru "weledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu", sy'n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru, y sector manwerthu ac undebau llafur yn cydweithio i ddatblygu "sector manwerthu llwyddiannus, arloesol, cynaliadwy a chadarn".

Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at y prif broblemau sy'n wynebu'r sector, sy'n cynnwys rôl newidiol canol trefi, effaith technolegau newydd, newidiadau o ran patrymau ac ymddygiadau defnyddwyr, a heriau o ran amodau cyflogaeth, recriwtio a chadw'r gweithlu.

Mae'r weledigaeth strategol hefyd yn nodi "pedair prif her strategol ein hoes" sy'n effeithio ar y sector manwerthu, ynghyd â gweddill yr economi:

  • adfer o effaith pandemig y coronafeirws;
  • mynd i'r afael â galw newid yn yr hinsawdd a'r newid i Sero Net;
  • ymateb i'r argyfwng costau byw;
  • a pharhau i addasu i'n dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl ym mis Mehefin dywedodd y Gweinidog y byddai cynllun gweithredu sy'n canolbwyntio ar gyflenwi yn dilyn "yn y misoedd nesaf".

Y camau nesaf

Disgwylir i'r Senedd drafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig "Codi'r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu” ar 9 Tachwedd. Gallwch wylio’r ddadl yma.


Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru