cy

cy

Cysylltiadau rhwng y DU a'r UE: cyfrifoldebau Gweinidogion newydd Cymru

Cyhoeddwyd 22/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/06/2021   |   Amser darllen munudau

Mae cysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn cael eu rheoli'n bennaf gan ddau gytuniad allweddol:

Mae'r Cytundeb Ymadael yn pennu'r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.

Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu eu perthynas newydd.

Mae'r ddau gytuniad yn cynnwys materion datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu gweithredu, megis pysgodfeydd, iechyd, yr economi a'r amgylchedd. Mae ein herthygl ddiweddar yn rhoi trosolwg o'r berthynas newydd a sut mae'n effeithio ar fywyd yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei Gabinet newydd ym mis Mai 2021. Mae gan bob un o Weinidogion newydd Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau i gyflawni trefniadau newydd y DU-UE, er bod hynny'n fwy felly i rai nag eraill.

Mae’r meysydd a gaiff eu cwmpasu gan y ddau gytuniad i’w cael ym mhob adran o Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’u rhwymedigaethau a'u goblygiadau.

Mae ein ffeithlun yn dangos pob Gweinidog a lle mae eu cyfrifoldebau'n cyffwrdd â phrif rannau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a/neu’r Cytundeb Ymadael.*

Cylch sy'n cynnwys tair haen yw'r ffeithlun. Mae'r haen ganolog yn dangos pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, mae'r haen ganol yn dangos eu cyfrifoldebau perthnasol o ran y DU-UE ac mae'r haen allanol yn dangos rhannau cyfatebol y cytuniadau. Cewch afael ar y manylion llawn ar y linc i’w lawrlwytho isod.

Lawrlwytho fel tabl

 

*Mae'r ddau gytuniad yn gymhleth iawn ac yn cynnwys elfennau trawsbynciol. Crëwyd y ffeithlun hwn gan Ymchwil y Senedd er mwyn dangos Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n bennaf cyfrifol am bob prif faes.

Er mai’r Prif Weinidog fydd yn arwain ar 'Gymru yn Ewrop', nid yw'n glir beth mae hyn yn ei gwmpasu. Yr hyn sy'n amlwg yw nad oes un Gweinidog unigol bellach yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â'r UE, fel yn y llywodraeth flaenorol.

Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gysylltiadau rhwng y DU a'r UE gael eu hymgorffori ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a bydd y Senedd yn craffu'n fanwl ar y dull newydd hwn.


Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru