Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru (1)

Cyhoeddwyd 21/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Hydref 2014 Erthygl gan Graham Winter a Nigel Barwise, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r blog hwn yn edrych ar yr ystadegau diweddaraf ar gyfer ynni adnewyddadwy a gyhoeddwyd gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ar gyfer y cyfnod rhwng 2003 a 2013.

Mae'r ystadegau yn amlinellu faint o drydan a gynhyrchwyd o ffynonellau adnewyddadwy yn ogystal â chyfanswm nifer y gosodiadau trydan adnewyddadwy, a'r ffactor llwyth (mesur o gyfran y trydan a gynhyrchwyd o'i gymharu â'r capasiti a osodwyd). Caiff y rhain eu dangos ar gyfer pedair gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr, er mwyn gallu cymharu'r cynnydd a wneir gan bob gwlad o ran cynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir.

Cynyddodd y trydan a gynhyrchwyd o ffynonellau adnewyddadwy 9% rhwng 2012 a 2013 yng Nghymru. Roedd y cynnydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn 16%, 30% a 41% yn y drefn honno.

Trydan a gynhyrchwyd o ffynonellau adnewyddadwy 2003-2013

Electricity from Renewables 2003-2013cy

Cynyddodd cyfanswm nifer y gosodiadau (gan eithrio solar) 16% yng Nghymru (o 504 i 586) rhwng 2012 a 2013. Ers 2003, mae cyfanswm nifer y gosodiadau (gan eithrio solar) wedi cynyddu tua 480% yng Nghymru, ond mae hyn yn is na'r cynnydd mewn rhannau eraill o'r DU; yr Alban (940%), Lloegr (600%) a Gogledd Iwerddon (500%).

Cynyddodd nifer y gosodiadau solar yng Nghymru bron 5,000 (18%) rhwng 2012 a 2013. Maent yn cyfrif am 98% o'r gosodiadau yng Nghymru, ond dim ond 4% o'r ynni a gynhyrchir. Mae hyn yn adlewyrchu natur y gosodiadau solar sydd, yn aml, yn rhai domestig sydd ond yn cynhyrchu ychydig o ynni.

Mae cyfran y trydan a gynhyrchir gan bob ffynhonnell o ynni adnewyddadwy ym mhob gwlad yn dangos rhai gwahaniaethau mawr. Mae'r gyfran uchel o ynni a gynhyrchir gan y gwynt yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac o ffynonellau dŵr yn yr Alban, yn adlewyrchu gallu naturiol mawr y gwledydd hyn o ran gwyntoedd cyflym a ffynonellau sy'n addas ar gyfer ynni dŵr. Daw'r gyfran fawr o drydan a gynhyrchir o dan y categori "bio-ynni arall" yn Lloegr yn bennaf o ddau ranbarth, ac mae'n cynnwys gorsaf bŵer Drax, sef gorsaf bŵer lo sydd wedi'i thrawsnewid yn rhannol i losgi biomas.

Trydan Adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn ôl ffynhonnell yn 2013

 Pie Charts cy

Gwynt oedd y ffynhonnell fwyaf o drydan adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn y pedair gwlad yn 2013. Yng Nghymru, mae'r trydan a gynhyrchir gan wynt yn cyfrif am tua 64% o'r holl drydan adnewyddadwy a gynhyrchir. Y cyfrannwr mwyaf nesaf yw 'bio-ynni arall' (tua 14%). Gwynt welodd y cynnydd mwyaf hefyd o ran y trydan adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn y pedair gwlad rhwng 2012 a 2013.

Mae'r ffactorau llwyth (cyfran y trydan a gynhyrchwyd o'i gymharu â'r capasiti a osodwyd) yn dangos rhywfaint o amrywiaeth rhwng y technolegau gwahanol, a chânt eu dangos isod ar gyfer gwledydd y DU a'r technolegau. Ni chofnodwyd ar gyfer ynni Solar Ffotofoltaïg.

Mae'r ffactor llwyth yn mesur pa mor ddwys y defnyddir ffynhonnell ynni i gynhyrchu trydan, ac ar gyfer ffynonellau adnewyddadwy, bydd yn adlewyrchu nifer o ffactorau, gan gynnwys 'dibynadwyedd' y 'tanwydd' (e.e. symiau amrywiol o wynt neu law), 'dibynadwyedd' yr offer (methiannau, cyfnodau cynnal a chadw ac ati), yn ogystal â'r galw am y ffynhonnell ynni a phris y trydan a gynhyrchir. Roedd ffactorau llwyth ar eu huchaf yn 2013 ar gyfer bio-ynni a biomas, wedi'u dilyn gan nwyon tirlenwi a nwyon carthffosiaeth. Roedd ffactorau llwyth ar gyfer gwynt y môr yn uwch nag ar gyfer gwynt ar y tir. Roedd y ffactorau llwyth ar gyfer gwynt ar y tir ychydig yn is yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU yn 2013.  Roedd gan ynni dŵr (ar raddfa fawr a bach) hefyd ffactorau llwyth is yng Nghymru na mewn mannau eraill.  Ar y llaw arall, roedd gan Fiomas Planhigion a 'Bio-ynni Arall' ffactorau llwyth uwch yng Nghymru na mewn mannau eraill. Ffactorau llwyth ar gyfer Gwledydd y DU a Thechnoleg Cynhyrchu Trydan Adnewyddadwy - 2013 Load Factors cy

Noder: Yn seiliedig ar y trydan a gynhyrchir o gynlluniau sy'n gweithredu trwy gydol y flwyddyn gyda'r un capasiti a osodwyd.