Cymunedau yn Gyntaf: pa wersi sydd angen eu dysgu?

Cyhoeddwyd 18/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad interim i raglen wrth-dlodi flaenllaw Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf. Roedd yr adroddiad interim yn cynnwys 11 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cafodd adroddiad terfynol y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys mwy o fanylion am y dystiolaeth yr oedd wedi'i thrafod, ei gyhoeddi ym mis Hydref. Bydd y Cynulliad yn trafod y ddau adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 25 Hydref.

Prif ganfyddiadau

Dyma gasgliadau'r adroddiad:

  • Cafodd y rhaglen y dasg amhosibl bron o leihau tlodi, rhywbeth na allai'r un rhaglen unigol fyth ei gyflawni. Mae'r amcanion o leihau’r bylchau economaidd, a'r bylchau o ran addysg/sgiliau ac iechyd rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r rhai mwy cefnog, yn ogystal â chyfrannu at liniaru tlodi parhaus, yn ganmoladwy, ond maent yn ymddangos yn optimistaidd erbyn hyn;
  • Roedd problemau o ran sut y cafodd y penderfyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben ei gyfleu i staff a defnyddwyr gwasanaeth;
  • Ceir dryswch o hyd ynghylch trefniadau pontio sylfaenol megis arian etifeddol, sydd wedi'i gadarnhau am ddwy flynedd ond gyda'r 'posibilrwydd' o estyniad;
  • Mae dull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru ym maes lleihau tlodi wedi newid, ond nid oes strategaeth gyffredinol bellach i fynegi sut mae cyfrifoldeb dros leihau tlodi yn cael ei rannu ar draws adrannau;
  • Mae potensial y gallai pwyslais Llywodraeth Cymru ar 'greu cymunedau cryf' trwy'r tair blaenoriaeth, sef cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, adael bylchau yn narpariaeth gwasanaethau. Nid oes dealltwriaeth drylwyr o'r elfen 'grymuso', ac nid yw'n eglur pam y dewiswyd y tri maes hyn yn hytrach na rhai eraill;
  • Ni ellid profi effaith Cymunedau yn Gyntaf yn glir, hyd yn oed ar ôl 16 mlynedd, ac mae perygl y gallai rhaglenni Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ddisgyn i'r un fagl heb sail dystiolaeth effeithiol a threfniadau cadarn i fonitro perfformiad;
  • Mae angen i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus sicrhau eu bod yn ymgysylltu â phobl ar incwm isel ac yn deall eu hanghenion, ac yn adlewyrchu hyn yn eu cynlluniau llesiant, ac
  • Mae perygl y bydd canolfannau cymuned gwerthfawr, y defnyddir rhai ohonynt gan raglenni eraill, yn cael eu colli o ganlyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben.

Argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 1: Sicrhau bod awdurdodau lleol yn nodi holl waith llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf a ddylai gael ei ddarparu gan gyrff statudol (megis byrddau iechyd neu ysgolion), a throsglwyddo cyfrifoldeb i'r corff hwnnw.

Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd fod "cyfres o weithdai a chyfarfodydd wedi eu trefnu rhwng byrddau iechyd a Chyrff Cyflawni Arweiniol i edrych ar yr hyn sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn yr ardaloedd hyn ac i geisio prif ffrydio agweddau llwyddiannus ar y rhaglen."

Argymhelliad 2 a 3: Egluro am ba hyd y bydd y cyllid etifeddol ar gael, yn sgil y ffaith y nodwyd y bydd ar gael am ddwy flynedd gyda'r 'posibilrwydd' o estyniad, a rhoi pob cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ar ffurf ysgrifenedig.

Derbyniwyd argymhelliad 2, a dywedodd y Llywodraeth y "cytunwyd ar gyllid y Gronfa Etifeddiaeth am ddwy flynedd ariannol yn dechrau yn 2018-19". Ni nododd a fyddai'r arian ar gael y tu hwnt i ddwy flynedd. Derbyniwyd argymhelliad 3 hefyd, ac mae canllawiau pontio wedi'u cyhoeddi ar-lein ers hynny.

Argymhelliad 4: Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth ar gyfer trechu tlodi, gan gynnwys dangosyddion perfformiad a sail dystiolaeth effeithiol.

Cafodd yr argymhelliad hwn ei wrthod. Dywed y Llywodraeth yn ei hymateb fod sicrhau ffyniant yn amcan allweddol ac y byddai'r strategaeth genedlaethol sydd newydd ei chyhoeddi, Ffyniant i bawb (PDF:640kb) yn mynd i'r afael â hynny. Mae'r strategaeth newydd yn crybwyll y gair 'tlodi' ddwywaith, ond mae'n canolbwyntio ar ffyniant.

Argymhelliad 5: Yn rhan o'i dull gweithredu newydd sy'n canolbwyntio ar y tair blaenoriaeth, sef cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, dylai Llywodraeth Cymru ystyried 'cyflogadwyedd' yn ei ystyr ehangaf, a'i gwneud yn eglur i awdurdodau lleol y dylai cymorth cyflogadwyedd gwmpasu pob cam o'r daith at waith.

Cafodd hwn ei dderbyn, gyda'r Llywodraeth yn datgan y bydd y "Grant Cyflogadwyedd yn helpu unigolion sy’n byw mewn tlodi, neu y mae perygl y gallent fod mewn tlodi, yn unol â’r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)." Yn yr ymateb, mae hefyd yn ymrwymo i roi canllawiau i awdurdodau lleol, i bwysleisio pa mor bwysig yw mynd i'r afael â rhwystrau rhag cael gwaith, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a sicrhau cyflogaeth, a darparu cymorth mewn gwaith.

Argymhelliad 6: Dileu rhwystrau sy’n atal teuluoedd rhag manteisio ar gymorth drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg.

Derbyniwyd yr argymhelliad hwn. Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi bod "rhywfaint o hyblygrwydd eisoes i Awdurdodau Lleol i ddarparu cymorth Dechrau’n Deg i blant a’u teuluoedd sy’n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg"

Argymhelliad 7: Nodi'n eglur beth yw ystyr 'grymuso' i awdurdodau lleol yn ystod cyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf.

Derbyniodd y llywodraeth yr argymhelliad hwn 'mewn egwyddor', gan esbonio bod 'grymuso' yn golygu "sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt".

Argymhelliad 8: Sicrhau bod dangosyddion perfformiad ar gyfer pob rhaglen yn gyson, a'u bod ar gael i'r cyhoedd wedi'u dadansoddi fesul awdurdod lleol.

Derbyniwyd yr argymhelliad hwn 'mewn egwyddor', gyda'r Llywodraeth yn datgan bod y Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol (sy'n darparu fframwaith ar gyfer mesur y camau a gymerir i gyflawni'r saith nod lles) yn cynnwys dangosyddion allweddol sy'n ymwneud â thlodi, cymunedau a ffyniant. Mae'r Llywodraeth yn derbyn na fydd y dangosyddion hyn yn mesur perfformiad rhaglenni unigol, ond mae'n nodi y bydd y data hyn yn cael eu cyhoeddi 'lle bo dangosyddion penodol yn angenrheidiol ac yn briodol i fesur perfformiad rhaglenni unigol'.

Argymhellion 9 a 10: Gwella sail dystiolaeth Llywodraeth Cymru ym maes tlodi yng Nghymru trwy ddatblygu dangosfwrdd o ddangosyddion tlodi ac archwilio dichonoldeb sefydlu astudiaeth hydredol o dlodi yng Nghymru.

Gwrthodwyd yr argymhelliad yn ymwneud â dangosfwrdd o ddangosyddion tlodi. Cafodd yr argymhelliad yn ymwneud â'r astudiaeth hydredol ei dderbyn 'mewn egwyddor', ond dywed yr ymateb fod “heriau methodolegol” a “phryderon efallai na fyddai'r budd posib yn cyfiawnhau'r costau sylweddol sydd ynghlwm wrth gynnal astudiaeth o'r fath”. Ond dywed hefyd y bydd yn "gwneud gwaith i archwilio dichonoldeb astudiaeth hydredol, gan edrych ar y costau, yr opsiynau, y buddion ac effeithiau astudiaeth bosib ochr yn ochr â ffyrdd eraill o wella data."

Argymhelliad 11: Ystyried ac asesu effaith cau Cymunedau yn Gyntaf ar raglenni eraill Llywodraeth Cymru a gwneud addasiadau i osgoi canlyniadau anfwriadol.

Derbyniwyd yr argymhelliad hwn, ac mae'r ymateb yn nodi bod "cyfres o weithdai wedi’u trefnu rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Cyrff Cyflawni Arweiniol Cymunedau yn Gyntaf a Byrddau Iechyd Lleol lle mae prosiectau unigol wedi cael eu hadolygu".


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Pixabay gan vitality-m. Dan drwydded Creative Commons.