Cymru, Ewrop a'r byd: Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 02/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020   |   Amser darllen munudau

Ar 14 Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Ryngwladol, newydd, gan amlinellu ei hagwedd at ymgysylltu rhyngwladol a sut mae'n bwriadu cynyddu proffil a dylanwad Cymru yn y byd.

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn craffu'n ofalus ar ddatblygiad y strategaeth. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 174KB) ar y strategaeth ryngwladol ddrafft (PDF, 2.51MB) ar 12 Rhagfyr 2019. Croesawodd Llywodraeth Cymru (PDF, 445KB) adroddiad y Pwyllgor a derbyniodd bob un o'r deg argymhelliad. Holodd y Pwyllgor Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan AC ynghylch ymateb y Llywodraeth ar 10 Chwefror. Caiff yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Mawrth. I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys y strategaeth ryngwladol ddrafft, gweler ein blog blaenorol o fis Awst 2019.

Beth yw'r nodau a'r blaenoriaethau a nodir yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?

Diben datganedig y strategaeth yw:

… cyflawni cydweithredu rhyngwladol a thaflunio Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, a bydd y naill beth a’r llall yn helpu i'n gwneud ni [Cymru] yn fwy cystadleuol ac yn fwy adnabyddus ar y llwyfan byd-eang.

Dyma’r tair blaenoriaeth graidd a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf:

  • codi proffil rhyngwladol Cymru;
  • tyfu economi Cymru drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad; a
  • sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Fel rhan o'i dull o gyflawni'r amcanion hyn, nod y strategaeth yw:

  • hyrwyddo tair 'canolfan ragoriaeth' er mwyn dangos sut mae Cymru’n genedl sydd wedi ymrwymo i greadigrwydd, technoleg a chynaliadwyedd;
  • cynyddu presenoldeb Cymru yn Aelod-wladwriaethau'r UE a datblygu perthnasoedd rhyngwladol â blaenoriaeth gyda gwledydd a rhanbarthau eraill;
  • datblygu cynllun Cymry alltud cynhwysfawr i ddefnyddio'r cyfoeth a'r wybodaeth sydd ganddynt i godi proffil Cymru yn fyd-eang; a
  • dod yn adnabyddus fel y wlad gyntaf i wneud Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith gwlad, drwy hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Drwy ei waith, cododd y Pwyllgor nifer o gwestiynau am gynnwys a chyflwyniad y strategaeth, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb iddynt. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu isod.

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r strategaeth?

Yn y datganiad ysgrifenedig wrth lansio’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft ym mis Gorffennaf 2019, nododd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol y byddai cynlluniau cyflenwi yn cyd-fynd â’r strategaeth, gan gynnwys camau gweithredu a thargedau allweddol. Yn yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y strategaeth ddrafft yn galw am gynnwys targedau mesuradwy a chynlluniau cyflenwi ochr yn ochr â'r strategaeth derfynol, dywedodd Llywodraeth Cymru fod llawer o'r gweithgaredd a amlinellir yn y strategaeth yn dibynnu ar fuddion 'pŵer meddal' nad ydynt yn fesuradwy. At hynny, cadarnhaodd hefyd nad oedd ganddi unrhyw fwriad cyhoeddi cynlluniau manwl pellach heblaw’r rheiny a nodwyd eisoes yn y strategaeth derfynol.

Pa dargedau sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth?

Mae tri tharged mesuradwy wedi'u cynnwys yn y strategaeth derfynol gyda’r nod o’u cyflawni dros y pum mlynedd nesaf:

  1. er mwyn codi proffil Cymru yn rhyngwladol, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio gyda Chymry alltud a chyn-fyfyrwyr ar draws y byd ac yn cynyddu ein cyrhaeddiad yn sylweddol i 500,000 o gysylltiadau, gan ganolbwyntio ein gweithgaredd ar y themâu allweddol yn y strategaeth hon;
  2. er mwyn tyfu economi Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cyfraniad y mae allforion yn ei wneud i economi Cymru gan 5 y cant; ac
  3. er mwyn sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, bydd Llywodraeth Cymru yn plannu 15 miliwn yn fwy o goed yn rhanbarth Mbale yn Uganda erbyn 2025 – yn ychwanegol at y 10 miliwn sydd eisoes wedi'u plannu yn y rhanbarth.

'Canolfannau rhagoriaeth' y strategaeth

Nod y strategaeth derfynol yw hyrwyddo tair 'canolfan ragoriaeth' er mwyn dangos sut mae Cymru yn genedl sydd wedi ymrwymo i greadigrwydd, technoleg a chynaliadwyedd. Dyma’r canolfannau:

  • seiberddiogelwch;
  • lled-ddargludyddion cyfansawdd; a
  • diwydiannau creadigol – teledu a ffilm.

Galwodd adroddiad y Pwyllgor ar y strategaeth ddrafft ar Lywodraeth Cymru i amlinellu 'sut y mae'n bwriadu sicrhau bod sectorau eraill o'r economi yn cael eu cynrychioli'n gan Lywodraeth Cymru yn ei gweithgareddau rhyngwladol’.

Gofynnodd nifer o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun ar y strategaeth ddrafft am fwy o eglurder o ran pam y dewiswyd y canolfannau rhagoriaeth. At hynny, mynegwyd pryderon y gallai blaenoriaethu tri sector gael ei ystyried yn gyfyngol o ran denu buddsoddiad ar gyfer sectorau eraill.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, ac yn y strategaeth derfynol:

  • rhoddodd fwy o wybodaeth am y rhesymeg y tu cefn i ddewis y tri diwydiant hyn;
  • cadarnhodd y gallai canolfannau rhagoriaeth eraill gael eu datblygu yn y dyfodol; a
  • chadarnhaodd fod Cymru yn parhau i groesawu buddsoddiad ym mhob sector o'r economi, a buddsoddiad gan bob sector.

Perthnasoedd rhyngwladol â blaenoriaeth

Mae'r strategaeth yn nodi'r perthnasoedd rhyngwladol â blaenoriaeth a ganlyn, sydd wedi’u dewis ar sail treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyffredin, gwerthoedd a rennir, a diddordebau economaidd a chymdeithasol ar y cyd:

  • perthnasoedd â gwledydd: Yr Almaen, Ffrainc, Iwerddon, UDA a Chanada; a
  • pherthnasoedd rhanbarthol: Gwlad y Basg, Llydaw a Fflandrys.

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd tramor wedi'u lleoli ym mhob un o'r gwledydd â blaenoriaeth, ac ym mhob un o'r gwledydd lle mae'r rhanbarthau â blaenoriaeth wedi'u lleoli, ac eithrio Sbaen (Gwlad y Basg). Nododd adroddiad y Pwyllgor yr anghysondeb hwn a galwodd ar Lywodraeth Cymru i amlinellu a oedd yn bwriadu sefydlu presenoldeb parhaol yng Ngwlad y Basg. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a nodi nad yw eto wedi dod i benderfyniad ynghylch agor swyddfa yng Ngwlad y Basg. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y swyddfeydd ym Mharis a Brwsel yn gweithio ar draws de Ewrop, gan gynnwys Sbaen.

Swyddfeydd tramor

Mae'r strategaeth yn nodi y bydd rhwydwaith Llywodraeth Cymru o 21 swyddfa dramor ar draws 12 gwlad, yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r strategaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cyhoeddi adroddiadau chwarterol sy'n rhoi data perfformiad lefel uchel ar gyfer ei swyddfeydd tramor. Anfonwyd yr adroddiad cyntaf at y Pwyllgor ar 21 Hydref a nododd y bydd mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu hadolygu i gyflawni yn erbyn amcanion y strategaeth ryngwladol. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor y bydd y mesurau perfformiad diwygiedig yn cael eu cyhoeddi a'u defnyddio o Chwarter 1 y flwyddyn ariannol 2020-21 nesaf ymlaen.

Sut all cymdeithas sifil a diwydiant ymgysylltu â'r strategaeth ryngwladol?

Mae'r strategaeth yn nodi y cynhelir dau gyfarfod y flwyddyn er mwyn cydgysylltu gweithgareddau rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill sy'n gweithio dramor. Mae'r rhain yn cynnwys llywodraeth leol, sefydliadau chwaraeon a diwylliannol, a chymdeithas sifil yn fwy eang.

Roedd adroddiad y Pwyllgor ar y strategaeth ryngwladol ddrafft yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o wybodaeth am sut y bydd yn gweithio gyda chymdeithas sifil sydd am gefnogi’r broses o gyflawni’r strategaeth. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad gan ddweud yn ei hymateb:

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda grwpiau, fel y sectorau diwylliant a chwaraeon, i ddwyn ynghyd eu cynlluniau rhyngwladol a sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i wneud y mwyaf o effaith ein gweithgarwch tramor, lle bo hynny'n ymarferol ac yn ymarferol, ac i godi proffil Cymru dramor.

Beth nesaf?

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar y strategaeth ryngwladol ddrafft (PDF, 174KB) ar 12 Rhagfyr 2019, a bydd yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Mawrth 2020.


Erthygl gan Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru