Cymru a Chytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE Hawliau Dynol

Cyhoeddwyd 21/09/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae’r gyfres hon ar y DU a’r UE yn crynhoi rhannau allweddol o’r Cytundeb a’i oblygiadau i Gymru.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio darpariaethau hawliau dynol y Cytundeb, sydd wedi’u crynhoi isod:

Gwneud penderfyniadau

Mae’r Cytundeb yn sefydlu rhwydwaith cymhleth o fforymau newydd rhwng y DU a’r UE, sydd wedi’i egluro mewn canllaw arall yn y gyfres hon. Gellir cynnal trafodaethau a phenderfyniadau ar ddarpariaethau hawliau dynol y Cytundeb yn y Cyngor Partneriaeth a’r Pwyllgor Arbenigol ar Orfodi’r Gyfraith a Chydweithrediad Barnwrol.

Gall Llywodraeth Cymru fynd i rai o’r cyfarfodydd fel sylwedydd. Mae erthyglau Ymchwil y Senedd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar sut y caiff Cymru ei chynrychioli mewn cysylltiadau rhwng y DU a’r UE.

Hawliau dynol yn y Cytundeb

Mae hawliau dynol wedi’u gwreiddio yn y berthynas newydd rhwng y DU a’r UE fel bod eu cydweithrediad yn dibynnu ar ‘barch at hawliau dynol’. Mae hyn yn berthnasol i’r Cytundeb ac i gytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn chwarae rhan bwysig yn y Cytundeb a rhoddir pwyslais ar roi effaith i hawliau a rhyddid y Confensiwn yn ddomestig. I’r DU, mae hwn yn gyfeiriad clir at Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Mae’r Cytundeb yn cynnwys gwahanol fecanweithiau i ymgorffori hawliau dynol yn ei drefniadau llywodraethu, a ddisgrifir yn y canllaw hwn.

Gorfodi’r gyfraith a chydweithredu barnwrol

Mae ymrwymiadau hawliau dynol penodol hefyd wedi’u cynnwys yn Rhan 3 o’r Cytundeb, ar orfodi’r gyfraith a chydweithrediad barnwrol mewn materion troseddol. Mae enghreifftiau o gydweithredu rhwng y DU a’r UE yn cynnwys cyfnewid DNA, data olion bysedd a chofrestru cerbydau, a gwybodaeth cofnodion troseddol.

Dyfynnir y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel sail ar gyfer cydweithredu yn y maes hwn yn Erthygl 524, lle pwysleisir eto bwysigrwydd rhoi effaith i hawliau a rhyddidau’r Confensiwn yn ddomestig.

Y Confensiwn Ewropeiadd ar Hawliau Dynol

Nid yw ymadawiad y DU â’r UE yn effeithio ar ei statws fel parti i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR), sef cytuniad Cyngor Ewrop.

Er bod seneddwyr, academyddion ac arbenigwyr yn anghytuno ar y graddau y mae’r Cytundeb yn cysylltu’r DU â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’i ddeddfwriaeth weithredu yn y DU, mae’r rhan fwyaf yn cytuno bod gan Lywodraeth y DU sawl opsiwn i gyfyngu ar hawliau’r Confensiwn tra’n osgoi gadael y Confensiwn, gan ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol neu dorri rhwymedigaethau rhwng y DU a’r UE.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru