Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2021-22: Archwiliwch y Gyllideb Ddrafft gyda’n diagram rhyngweithiol

Cyhoeddwyd 08/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb 2021-22 yn nodi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’n amlinellu faint o arian yr argymhellir i’w ddyrannu i’w hadrannau a’i hasiantaethau. Cyhoeddwyd Cyllideb Ddrafft 2021-22 ar 21 Rhagfyr 2020.

Archwiliwch y Gyllideb Ddrafft gyda'n diagram rhyngweithiol

Prif ffigurau o’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22, yn dangos newidiadau arian parod ers y gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21

Ffeithlun yn dangos bod Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME) (£21,099m) yn cynnwys refeniw Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) (£16,450m), DEL cyfalaf (£2,403m) a Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) (£2,246m). Mae’r TME wedi cynyddu 5% (1,008m) o’i gymharu â Chyllideb Derfynol 2020-21.

Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): Y cyfanswm sydd gan y Llywodraeth i’w wario.

Terfyn Gwariant Adrannol (DEL): Dyma elfen y gyllideb yn ôl disgresiwn, pan gaiff cyllideb y Llywodraeth ei dyrannu i adrannau’r Llywodraeth a’i gwario ganddynt.

Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): Annewisol. Caiff ei wario ar raglenni yn ôl y galw, fel rhoi benthyciadau myfyrwyr.

Ffeithlun yn dangos cyfanswm y dyraniad DEL i bob un o Bortffolios y Gyllideb a’r newid canrannol ac arian parod o’i gymharu â chyllideb Derfynol 2020-21.

*Wedi’i hailddatgan fel cymhariaeth, gan gynnwys y £231 miliwn ar gyfer taliadau uniongyrchol y cymhorthdal i ffermydd ond heb gynnwys y dyraniadau dilynol ar gyfer COVID yn 2020-21 a dyraniadau eraill.

**Nid yw’n cynnwys £1.1 biliwn o incwm ardrethi annomestig.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Cyfeiriwch at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 am yr union ffigurau.

 

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ein herthygl: Cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 – beth sydd i ddod?

Tudalennau Cyllideb Llywodraeth Cymru

Ymchwil y Senedd - Uned Craffu Ariannol

 

Erthygl gan Joe Wilkes a Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru