Cyllideb Derfynol 2021-22: Llywodraeth Cymru yn dyrannu £869.5 miliwn yn ychwanegol

Cyhoeddwyd 08/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22 ar 2 Mawrth, ynghyd â gwybodaeth am drethi Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Beth sydd wedi newid o’i gymharu â’r Gyllideb Ddrafft?

Mae’r Gyllideb Derfynol yn sicrhau bod £869.5 miliwn yn ychwanegol ar gael i adrannau Llywodraeth Cymru yn 2021-22. Mae hynny 4 y cant yn rhagor na’r hyn a amlinellwyd yn y Gyllideb Ddrafft (Rhagfyr 2020).

Ariennir y cyllid ychwanegol o adnoddau a gadwyd a oedd heb eu dyrannu yn y Gyllideb Ddrafft a thrwy gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar ôl cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, fel rhan o broses Amcangyfrifon Atodol Llywodraeth y DU 2020-21 ym mis Chwefror. Cytunwyd ar hyblygrwydd ychwanegol gyda Llywodraeth y DU ynghylch tua £650 miliwn o’r cyllid hwnnw, sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gario rhagor o gyllid o 2020-21 i 2021-22 nag y mae’r rheolau cyllidol, y cytunwyd arnynt â Thrysorlys y DU, yn ei ganiatáu fel arfer.

Arweiniodd y gobaith o ddyraniadau cyllid ychwanegol sylweddol yn y Gyllideb Derfynol at gasgliad y Pwyllgor Cyllid mai “Fersiwn ddrafft yn sicr yw’r Gyllideb Ddrafft hon” o’i chymharu â’r arfer. Roedd Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn ategu hyn, ac yn amcangyfrif bod y Gyllideb Ddrafft eleni ag oddeutu pum gwaith swm y cronfeydd wrth gefn o’i gymharu â’r cyfartaledd a ddelir ar y pwynt hwn ar draws y cyfnod seneddol.

Mae’r diagram isod yn dangos y gyllideb a ddyrannwyd i bob portffolio wedi’i dadansoddi yn ôl refeniw a chyfalaf.

Ffeithlun sy’n dangos refeniw Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) £17,154 miliwn, Cyfalaf DEL £2,568 miliwn a Gwariant a Reolir yn Flynyddol £2,246 miliwn. Cyfanswm y DEL yw £19,723 miliwn. Cyfanswm y dyraniadau DEL i bortffolios yw: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £9,494 miliwn, Tai a Llywodraeth Leol £5,206 miliwn, Addysg £1,908 miliwn, Economi a thrafnidiaeth £1,629 miliwn, yr amgylchedd, ynni a materion gwledig £730 miliwn, Gwasanaethau canolog a gweinyddiaeth £426 miliwn, Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg £329 miliwn.

Amlinellir rhai o’r prif ddyraniadau ychwanegol isod.

Covid-19

Roedd y Gyllideb Ddrafft yn darparu pecyn cychwynnol o £77 miliwn ar gyfer COVID-19. Mae’r Gyllideb Derfynol yn dyrannu £682.2 miliwn yn ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r ymateb i COVID-19 yn benodol, gan gynnwys:

  • £380m ychwanegol i ‘ddiogelu gwasanaethau craidd y GIG’, sy’n cynnwys chwe mis cyntaf 2021-22 ac yn cynnwys cyflwyno’r brechlyn, profion, a’r galw am gyfarpar diogelu personol (PPE), ymhlith pethau eraill. Darperir £50 miliwn arall ar gyfer olrhain cysylltiadau;
  • £206.6 miliwn ar gyfer y Gronfa Caledi Llywodraeth Leol, sy’n ymwneud â chwe mis cyntaf 2021-22 ac yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim, gofal cymdeithasol oedolion a glanhau ysgolion;
  • £16.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau;
  • £10.5 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol; a
  • £18.6 miliwn ychwanegol i ymestyn cefnogaeth i weithredwyr bysiau i ail chwarter 2021-22.

Cyfnod pontio’r UE

Mae’r gyllideb derfynol yn cynnwys dyraniad o £7.1 miliwn i’r gronfa pontio Ewropeaidd, yn ogystal â £4.1 miliwn ar gyfer cyfrifoldebau newydd a osodir ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â swyddogaethau a chyfrifoldebau a ddychwelwyd i Gymru o Frwsel.

Dyraniadau nad ydynt yn ymwneud â COVID-19

Gwnaed nifer o ddyraniadau refeniw bach eraill sy’n ymateb i faterion a gododd ers cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, gan gynnwys: £2.6 miliwn i gefnogi datblygiad cymorth i amaethwyr ar ôl yr ymadawiad â’r UE; £4.3 miliwn ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru a; £3 miliwn i fwrw ymlaen â newidiadau rheoliadol a amlinellir yn y papur gwyn ar y ‘Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau i Gymru‘.

Pecyn Ysgogi Cyfalaf

Gan adeiladu ar y pecyn ailgreu o £320 miliwn a amlinellwyd yn y Drydedd Gyllideb Atodol 2020-21, mae’r Gyllideb Derfynol yn rhoi manylion am becyn ysgogi cyfalaf o £224.5 miliwn, na chrybwyllir yn y Gyllideb Ddrafft.

Mae’r pecyn yn cynnwys nifer o gynlluniau cyfalaf, fel y cynllun £100 miliwn ar gyfer Rhaglenni Tai Cymdeithasol, £30 miliwn ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a £20 miliwn ar gyfer Teithio Llesol.

Cynnal ymrwymiad i beidio â chynyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT).

A hwythau wedi’u cyflwyno yn 2019-20, goblygiadau Cyfraddau Treth Incwm Cymru yw bod gan Lywodraeth Cymru y gallu i amrywio’r tair cyfradd dreth incwm 10c yn y bunt ar gyfer Talwyr Trethi yng Nghymru - mae Llywodraeth y DU yn parhau’n gyfrifol am bob agwedd arall.

Mae’r Gyllideb Derfynol yn cynnal ymrwymiad Llywodraeth Cymru na fydd yn cynyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru y tymor Senedd hwn. Felly ni fydd y cyfraddau yn gwyro oddi wrth yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i osod ar gyfer 2021-22.

Rhagor o gyllid Covid-19 ar gyfer llywodraeth leol

Amlinellwyd y cyllid refeniw craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ym mis Rhagfyr. Nid yw’r swm a ddyrannwyd wedi newid yn y Setliad Terfynol Llywodraeth Leol. Disgwylir i bob awdurdod lleol dderbyn yr un faint o arian refeniw craidd ag a gynigiwyd ym mis Rhagfyr, sy’n gynnydd o 3.8 y cant i gyd, o’i gymharu â’r llynedd.

Fodd bynnag, fel y nodwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei llythyr at awdurdodau lleol ar adeg y Setliad Dros Dro, roedd cyllid ar gyfer y pandemig yn cael ei ystyried ar wahân i’r cyllid craidd a ddyrannwyd drwy’r setliad.

Yn gyffredinol, bu’r un peth yn wir drwy gydol y pandemig, sef bod awdurdodau lleol wedi gallu hawlio am golli incwm ac ar gyfer costau ychwanegol drwy’r ‘Gronfa Caledi Llywodraeth Leol’. Fel y nodwyd uchod, mae’r Gyllideb Derfynol yn dyrannu £206.6 miliwn ychwanegol i’r gronfa honno.

Dim newid ar gyfer yr Heddlu

Yn yr un modd â Llywodraeth Leol mae yna Setliad Dros Dro yr Heddlu (a gyhoeddwyd oddeutu adeg y Gyllideb Ddrafft), a Setliad Terfynol yr Heddlu, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror. Er nad yw plismona wedi’i ddatganoli, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu cyfran o’r cyllid hwnnw.

Disgwylir y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer pedwar heddlu Cymru yn £408.2 miliwn yn 2021-22, sef cynnydd o 6.3 y cant o’i gymharu â 2020-21. O fewn hynny mae cyfraniad Llywodraeth Cymru yn £143.4 miliwn. Mae’n werth nodi bod gan Lywodraeth y DU fecanwaith ar waith sy’n golygu y bydd pob heddlu ledled Cymru a Lloegr yn cael yr un cynnydd y flwyddyn nesaf.

Cyllideb Llywodraeth y DU

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chyllideb ddydd Mercher diwethaf (3 Mawrth), sef y diwrnod ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Derfynol.

Roedd Cyllideb y DU yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau ynghylch cymorth yn sgîl y coronafeirws ledled y DU a fydd yn effeithio ar Gymru, gan gynnwys:

  • Ymestyn y cynllun ffyrlo tan ddiwedd mis Medi
  • Ymestyn cefnogaeth i bobl hunangyflogedig hyd ddiwedd mis Medi
  • Ymestyn y codiad o £20 i’r Credyd Cynhwysol am chwe mis arall

O ran treth incwm, roedd y trothwy lwfans personol wedi’i rewi tan 2026, ynghyd â’r trothwy treth incwm cyfradd uwch. Disgwylir i’r dreth gorfforaeth gynyddu ar gyfer rhai busnesau o 19 y cant i 25 y cant yn 2023. Disgwylir i’r Dreth ar Werth hefyd gael ei chadw ar y gyfradd 5 y cant ar gyfer lletygarwch, llety ac atyniadau ledled y DU tan fis Medi, ac ar ôl hynny bydd cyfradd interim o 12.5 y cant yn berthnasol am 6 mis.

Fe wnaeth Cyllideb y DU hefyd ymestyn y gostyngiad dros dro i Dreth Tir y Dreth Stamp yn Lloegr (a Gogledd Iwerddon) tan fis Medi. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad (hyd at Fehefin 2021) i’r gostyngiad dros dro i’r Dreth Trafodiadau Tir, a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020.

Cafwyd nifer o gyhoeddiadau hefyd a fydd yn effeithio ar Loegr yn unig, ac a fyddant felly’n arwain at gyllid canlyniadol i Gymru. Er enghraifft, rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bwriad i ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru am 12 mis arall.

Bydd Llywodraeth Cymru, drwy fformiwla Barnett, yn cael £735 miliwn yn ychwanegol o gyllid refeniw yn 2021-22 oherwydd polisïau a gyhoeddwyd yng nghyllideb y DU.

Beth sydd i ddod?

Trafodir y Gyllideb Derfynol yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Mawrth, ochr yn ochr â dadleuon ar:

  • Gyfraddau Treth Incwm Cymru
  • Setliad Llywodraeth Leol 2021-22
  • Setliad yr Heddlu 2021-22

Disgwylir i’r Drydedd Gyllideb Atodol (gan gyfeirio at y flwyddyn ariannol 2020-21) hefyd gael ei thrafod ochr yn ochr â’r eitemau hyn. Gallwch wylio pob dadl yn fyw ar SeneddTV.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gyllideb Ddrafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn ein herthygl ymchwil.


Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru