Gwraig yn gweithio gartref gyda chath ar y ffenestr

Gwraig yn gweithio gartref gyda chath ar y ffenestr

Cyhoeddiad newydd: Amlinellu gwahanol elfennau’r 'Arbrawf Gweithio Gartref Mawr' a'i oblygiadau i Gymru

Cyhoeddwyd 10/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad (PDF) a gomisiynodd gan Yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd ar weithio gartref yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyflawnwyd y gwaith o dan gynllun Cofrestr Arbenigwyr COVID-19  Ymchwil y Senedd lle mae academyddion perthnasol yn cynorthwyo'r Senedd gyda'i gwaith yn ymwneud â’r pandemig COVID-19 a'i effeithiau.

Gofynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod yr astudiaeth yn llywio ei ymchwiliad ar Weithio o Bell: Y goblygiadau i Gymru, a gynhaliodd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mai ei huchelgais hirdymor oedd bod 30 y cant o weithlu Cymru yn gweithio o bell yn rheolaidd. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ddatblygu sylfaen dystiolaeth helaethach mewn cysylltiad â gweithio o bell, gan fod hwn yn faes polisi sy'n dod yn fwyfwy amlwg.

Mae adroddiad yr Athro Felstead yn ymdrin â:

  • diffinio gweithio o bell;
  • dadansoddiad o’r tueddiadau o ran gweithio gartref yn ystod y pandemig;
  • pa grwpiau demograffig sy'n gallu gweithio gartref;
  • effeithiau economaidd a chymdeithasol posibl rhagor o weithio o bell; a
  • monitro a gwerthuso cynnydd wrth gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru bod 30 y cant o'r gweithlu'n gweithio o bell yn rheolaidd.

Amlinellu gwahanol elfennau’r 'Arbrawf Gweithio Gartref Mawr' a'i oblygiadau i Gymru (PDF), yr Athro Alan Felstead    

 

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru