Cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ar ôl Brexit: diweddariad (10/12/2018)

Cyhoeddwyd 10/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi’n wreiddiol ar 1 Tachwedd 2018. Mae’n cael ei hailbostio cyn y Ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol ar Hawliau Dynol yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Rhagfyr 2018.

Bydd y Cynulliad yn trafod effaith Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol ddydd Mercher 7 Tachwedd.

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (EAAL) a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau (ELGC) wedi edrych yn fanwl ar y mater hwn dros y 18 mis diwethaf. Mae’r erthygl hon yn crynhoi barn gyfunol ac argymhellion y Pwyllgorau (roedd Gareth Bennett a Janet Finch-Saunders yn anghytuno), ac ymatebion Llywodraeth Cymru.

Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE

Un o’r prif bryderon am effaith Brexit ar hawliau dynol yw’r posibilrwydd y gallem golli Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE. Mae eglurhad ar y Siarter mewn iaith glir ar gael ar wefan RightsInfo.

Yn dilyn ei hymadawiad â’r UE, ni fydd yn rhaid i’r DU gydymffurfio â’r Siarter wrth wneud deddfau a phenderfyniadau gweinyddol mewn meysydd a oedd gynt o fewn cymhwysedd yr UE, fel amddiffyn hawliau defnyddwyr neu hawliau gweithwyr. Mae’r Siarter yn cynnwys hawliau ychwanegol at y rhai yn Neddf Hawliau Dynol y DU, ac yn benodol mae’n cynnwys llawer o hawliau cymdeithasol ac economaidd, nad ydynt yn cael eu cydnabod yn llawn yng nghyfraith y DU. Maent yn cynnwys:

  • amrywiaeth o hawliau cymdeithasol a hawliau gweithwyr yn Nheitl IV, gan gynnwys yr hawl i amodau gwaith teg, amddiffyniad rhag diswyddo anghyfiawn, a mynediad at ofal iechyd, cymorth cymdeithasol a thai;
  • gwarant o urddas dynol (gan gynnwys bioetheg), a
  • hawl i ddidwylledd corfforol a meddyliol (gan gynnwys hawliau o ran data personol).

Nid oedd y pwyllgorau wedi’u darbwyllo gan honiad Llywodraeth y DU yn ei Dadansoddiad o’r Siarter: Rights by Rights bod holl hawliau’r Siarter eisoes wedi’u gwarchod gan gyfraith ddomestig y DU. Maent yn cytuno â chyngor cyfreithiol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn groes i ddadansoddiad y Llywodraeth [ y DU], bod y Siarter wedi creu hawliau newydd gwerthfawr, ac mae wedi ymestyn cwmpas yr hawliau presennol, a gallai barhau i wneud hynny pe bai darpariaethau’r Siarter yn cael eu hymgorffori yn y gyfraith ddomestig". Gofynnodd y pwyllgorau i Lywodraeth Cymru "nodi sut y bydd yn sicrhau bod hawliau’r Siarter yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru" ar ôl Brexit.

Byddai ‘Deddf Parhad’ Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol i gyfraith Cymru sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd gael ei dehongli yn unol â’r Siarter Hawliau Sylfaenol, ond ar ôl cytuno ar fargen â Llywodraeth y DU y dylid datrys gwrthdaro ynghylch pwerau datganoledig ar ôl ymadael â’r UE, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gymryd camau i ddiddymu’r ddeddfwriaeth.

Yn ei lythyr, ym mis Mai 2018 dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y pwyllgorau fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch "ymrwymo i Gytundeb Gwleidyddol a fyddai’n cymeradwyo’r fframwaith presennol o ddeddfwriaeth triniaeth gyfartal sydd mewn grym sy’n berthnasol yn ein cenhedloedd".

Dywedodd y Prif Weinidog wrth y pwyllgorau ym mis Gorffennaf y bydd y Llywodraeth "yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrwydd ar hawliau unigol yn ystod y misoedd nesaf [a] bydd hefyd yn parhau i ymgysylltu’n weithredol â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynglŷn â’r materion hyn."

Cyllid

Clywodd y pwyllgorau bryderon gan amrywiaeth o dystion ynghylch colli arian yr UE a dargedir ar gyfer materion cydraddoldeb a hawliau dynol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, “ar hyn o bryd, bydd Cymru’n cael £370 miliwn y flwyddyn gan yr Undeb Ewropeaidd i’w fuddsoddi yn Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-2020 [sy’n cynnwys Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop]. […] Cyfle Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhywedd (EO a GM) yw un o’r tair thema drawsbynciol sydd wedi’u cynnwys yn rhan o Raglenni 2014-2020”.

Mae gwaith ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod amcanion 8, 9 a 10 [o Raglen Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi yr Undeb Ewropeaidd] yn ymwneud yn uniongyrchol â chydraddoldeb a hawliau dynol, a bod y cyllid hwn yn werth £4.15 biliwn yn y DU rhwng 2014 a 2020. Y grwpiau targed ar gyfer y tri amcan hyn yw: pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs), pobl sy’n 50 oed neu’n hŷn, menywod, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig, pobl â rhwystrau cymhleth lluosog, troseddwyr a chyn-droseddwyr.

Canfu’r gwaith ymchwil fod cyllideb Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn £1.4 biliwn yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae oddeutu 60 y cant o brosiectau sy’n cael eu hariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn targedu pobl sydd ag un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig sydd wedi’u nodi yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Canfu hefyd fod mwy na hanner y cyllid a geir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn targedu cyflogadwyedd, sgiliau a phrofiad.

Argymhellodd y pwyllgorau y dylai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (a fydd yn disodli arian yr UE ledled y DU) gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chymru i sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Maent hefyd o’r farn y dylai’r Gronfa dargedu mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar hefyd y dylai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin barhau i ganolbwyntio ar dlodi, cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl Brexit.

Cytunodd y Prif Weinidog ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a nododd mai "dull a gaiff ei ddylunio yng Nghymru yn unig a fydd yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol".

Cymru fel arweinydd byd

Edrychodd y pwyllgorau yn fanwl ar ffyrdd y gallai Cymru barhau i fynd y tu hwnt i ofynion cydraddoldeb a safonau hawliau dynol sylfaenol i gryfhau gwarchodaeth ar ôl Brexit.

Nid yw dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb wedi ei dechrau yng Nghymru (gan Weinidogion Cymru y mae’r pŵer i wneud hynny bellach). Byddai’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran canlyniad a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. Argymhellodd y pwyllgorau y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a nododd fod y ddyletswydd wedi’i deddfu yn yr Alban.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym:

"byddwn yn adolygu ein safbwynt yng nghyd-destun ein Hadolygiad Cyflym o Gydraddoldeb Rhywiol yng Nghymru ac yn archwilio’r materion a lywiodd benderfyniad Llywodraeth yr Alban i weithredu’r ddyletswydd.”

Galwodd tystion hefyd am ragor o ymgorffori o ran cytundebau hawliau dynol rhyngwladol. Roedd yr Athro Simon Hoffman yn dadlau y gellid defnyddio’r model ‘ystyriaeth ddyledus’ a ddefnyddir gan y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus Cymru roi sylw dyledus i gytundebau rhyngwladol eraill (er enghraifft, y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), neu’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD).

Argymhellodd y pwyllgorau y dylid ystyried ymgorffori cytundebau hawliau dynol rhyngwladol ymhellach yng Nghymru. Ym mis Mai, ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud y bydd "Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn parhau’n brif offeryn deddfwriaethol yn hyn o beth", ac ailadroddodd hyn ym mis Gorffennaf drwy ddweud y bydd y Ddeddf "yn helpu i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu diogelu yng Nghymru".

Y tu hwnt i Brexit

Ni fyddai yn rhaid i’r DU weithredu deddfau’r UE a ddeuai i rym ar ôl Brexit, y gallai rhai ohonynt wella amddiffyniad rhag gwahaniaethu. Disgrifiodd Yr Athro Thomas Glyn Watkin amddiffyniad hawliau dynol yn y DU ar y diwrnod ymadael fel ‘fferru ffrâm’, ac ar yr un pryd gallai amddiffyniad yng ngwledydd yr UE gynyddu yn gyflymach nag yn y DU.

Cyfeiriodd Anabledd Cymru ac RNIB Cymru at amryw o ddeddfau’r UE o ran hygyrchedd pobl anabl sy’n debygol o ddod i rym ar ôl Brexit, fel Deddf Hygyrchedd yr UE, Cyfarwyddeb Gwe’r UE a rheoliadau ar hygyrchedd wrth deithio ar awyrennau a bysiau. Ni fydd pobl y DU yn elwa ar y rhain.

Roedd y pwyllgorau’n bryderus ynghylch sut y bydd y DU a Chymru’n cyd-fynd â chyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol yr UE ar ôl Brexit. Byddai’r Ddeddf Parhad’ wedi caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fyddai’n cyflwyno deddfwriaeth newydd neu yn addasu’r ddeddfwriaeth bresennol fel y gallai Cymru gyd-fynd â deddfwriaeth newydd yr UE a gaiff ei phasio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Dywedodd y Prif Weinidog y "bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y DU i fonitro cynnydd hawliau dynol a chydraddoldeb yng Nghymru, gan nodi datblygiadau yn yr UE ac mewn gwledydd eraill [..] mae’r Comisiwn yn y sefyllfa orau i asesu datblygiadau mewn perthynas â hyn".

Mynegodd y pwyllgorau bryderon hefyd nad yw hawl i gydraddoldeb yn y DU yn cael ei ddiogelu gan fil hawliau cyfansoddiadol, a fyddai’n cyfyngu’r graddau y gallai cydraddoldeb gael ei erydu neu ei ddiystyru gan ddeddfwriaeth Senedd y DU. Ar hyn o bryd, cyfraith yr UE sy’n cyflawni’r swyddogaeth ‘wrth gefn’ hon drwy sicrhau na ellir tynnu neu ddileu hawliau yn y Ddeddf Cydraddoldeb (oherwydd bod eu hangen yn ôl cyfraith yr UE).

Dywedodd y Prif Weinidog "nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer hawl ychwanegol, annibynnol arall i gydraddoldeb a allai ddyblygu neu fynd yn groes i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes". Aeth ymlaen i amlygu: "Rydym hefyd wedi dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, drwy Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth (‘GEO’, sydd bellach o fewn y Swyddfa Gartref) ynghylch ymrwymo i Gytundeb Gwleidyddol a fyddai’n cymeradwyo fframwaith presennol y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â thriniaeth gyfartal sydd ar waith o fewn ein gwledydd, sef Deddfau Cydraddoldeb 2006 a 2010 ac is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Deddfau hynny".

Troseddau casineb

Canfu’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fel a ganlyn: “in the month following the EU referendum, reports show that racist or religious abuse incidents recorded by police in England and Wales increased by 41% compared to the previous year." Dywedodd y Swyddfa Gartref y credir bod y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb oddeutu amser refferendwm yr UE a hefyd oherwydd gwelliannau parhaus mewn dulliau cofnodi troseddau gan yr heddlu.

Argymhellodd y pwyllgorau fod "Llywodraeth Cymru yn diweddaru’r Cynllun Cydlyniant Cymunedol cyn haf 2018 i ystyried y cynnydd diweddar mewn troseddau casineb a heriau newydd i gydlyniant cymunedol yng Nghymru." Ym mis Gorffennaf, dywedodd Arweinydd y Tŷ yn y Cyfarfod Llawn y byddai’r Llywodraeth yn ymgynghori ynglŷn â’r cynllun cydlyniant cymunedol newydd ‘yn yr hydref’.

Darllenwch ragor am hawliau dynol yng Nghymru yn ein blog blaenorol.


Erthygl gan Hannah Johnson and Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru