Coronafeirws: rheoliadau brys ar ofal cymdeithasol ac iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 09/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Erthygl wedi’i ddiweddaru ar 12 Mai

Gwnaed rheoliadau yng Nghymru i ddod â darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 – sy’n ymwneud â gofal a chymorth awdurdodau lleol, a Thribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru – i rym. Bydd ganddynt oblygiadau sylweddol i bobl sydd angen gofal a chefnogaeth, ac i ofalwyr di-dâl.

Diben y rheoliadau

Gofal cymdeithasol i oedolion

Mae rheoliadau Cymru’n diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i lacio’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol. Mae'r newidiadau’n golygu nad oes rhaid i awdurdodau lleol, mwyach, gynnal asesiadau o anghenion ar gyfer oedolion a gofalwyr sy'n oedolion, ac nad oes dyletswydd arnynt, mwyach, i fodloni anghenion gofal a chymorth cymwys oedolion, nac anghenion gofalwyr sy’n oedolion am gefnogaeth.

At hynny, nid yw'n ddyletswydd, mwyach, i gynnal asesiadau ariannol. Yn flaenorol, roedd prawf modd yn gymwys, a byddai unigolion fel arfer yn cyfrannu at gostau gofal. Heb asesiad ariannol, ni ellir codi taliadau am wasanaethau.

Pan nad yw awdurdod lleol wedi codi tâl ar berson am ei ofal yn ystod y pandemig, mae yna bwerau ar gyfer cymhwyso’r taliadau yn ôl-weithredol mewn rhai amgylchiadau (yn dilyn asesiad ariannol). Gallai hynny fod yn ddadleuol, am y gellid codi tâl ar unigolyn am wasanaethau yn ôl-weithredol, hyd yn oed os oedd y gwasanaethau hynny’n amhriodol, ac nad oeddent yn diwallu ei anghenion (sy'n fwy tebygol os na chynhelir asesiad o anghenion).

Mae dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth cymwys oedolion, ac anghenion cymorth oedolion sy'n ofalwyr, wedi'u dileu (wedi'u disodli, i bob pwrpas, â phŵer i ddiwallu anghenion), ac ni fydd yn rhaid i awdurdodau lleol baratoi nac adolygu cynlluniau gofal a chymorth. Erbyn hyn, dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol y mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth, lle maent yn pennu ei bod yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn yr unigolyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod, neu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rheoliadau tebyg, y mae'n eu galw'n 'hawddfreintiau' newydd y Ddeddf Gofal yn Lloegr. Cafodd canllawiau statudol manwl ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar 1 Ebrill, sy’n amlinellu sut i ddefnyddio'r hawddfreintiau newydd, gan gynnwys arweiniad ar wneud penderfyniadau, blaenoriaethu a gofynion o ran adrodd.

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r mesurau hyn, bu oedi cyn iddi gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol o ran pryd a sut i’w gweithredu, ac roedd hyn yn destun pryder i randdeiliaid.

Bryd hynny, nododd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (Cymru) fod y diffyg arweiniad yng Nghymru’n golygu nad oes gan weithwyr cymdeithasol yng Nghymru, ar hyn o bryd, fframwaith nac arweiniad yn sail i’w prosesau ymarfer a gwneud penderfyniadau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau statudol i gyd-fynd â’r rheoliadau ar 30 Ebrill, a elwir ganddi yn ‘addasiadau’ i’r ddeddfwriaeth yng Nghymru. Mae’r canllawiau’n nodi bod yr addasiadau hyn yn gymwys am gyfnod penodol ac y dylid eu defnyddio cyn lleied â phosibl. Yn ôl y canllawiau:

Dim ond pan fydd yn hanfodol gwneud hynny, pan fetho popeth arall, er mwyn cynnal y lefel uchaf bosibl o wasanaethau y dylid rhoi'r addasiadau ar waith.

Nid yw'r addasiadau yn Neddf 2020 yn rhoi awdurdod i atal gwasanaethau cyfan, cyfyngu arnynt na'u tynnu'n ôl. Maent yn galluogi awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau dros dro sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn perthynas â gofal a / neu gymorth yn ystod y pandemig. Nod y penderfyniadau hyn yw sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i'r rheini â'r anghenion mwyaf, gan ddefnyddio'r egwyddorion cyffredin a'r gwerthoedd craidd ar gyfer gofal cymdeithasol.

At hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi fframwaith moesegol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd (yn ôl Llywodraeth Cymru). Diben y fframwaith yw bod yn ganllaw ar gyfer gwneud penderfyniadau a sicrhau bod digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfres o werthoedd ac egwyddorion moesegol wrth drefnu a darparu gofal cymdeithasol i oedolion.

Ymatebion i’r rheoliadau

Mynegodd rhanddeiliaid bryderon cryf ynghylch goblygiadau'r newidiadau gofal cymdeithasol i bobl sy’n agored i niwed ac arnynt angen gofal a chefnogaeth. Mae pryderon hefyd am y baich a roddir ar ofalwyr di-dâl, gyda mwy o alw a dyletswyddau gofalu yr un pryd â dileu, o bosibl, gwasanaethau cymorth fel gofal seibiant.

Yn ôl Cangen Cymru o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain mae'r newidiadau i ofal cymdeithasol yn ddigynsail ac o bosibl mae iddynt oblygiadau enfawr mewn sector sydd eisoes wedi’i gwthio i’r eithaf.

Roedd y trothwy cymhwysedd ar gyfer gofal a chymorth eisoes yn cael ei ystyried yn uchel. Nid yw’r trothwy’n berthnasol, mwyach, a’r unig ddyletswydd sy’n bodoli yw diwallu anghenion y rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

At hynny, mae Cangen Cymru o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yn nodi bod dileu'r ddyletswydd i gynnig dewis o lety gofal yn creu risg bod unigolion yn cael eu gosod mewn llety anaddas nad yw, o bosibl yn diwallu eu hanghenion. Yn ôl Cangen Cymru o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, mae tystiolaeth anecdotaidd sy’n awgrymu bod hyn eisoes yn digwydd, o ystyried yr angen dybryd i ryddhau lle mewn ysbytai.

Roedd aelodau o Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi mynegi pryderon yn flaenorol wrth y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gofalwyr di-dâl.

Arweiniodd y ffaith bod y rheoliadau hyn wedi’u gwneud mor gyflym at lefel o sioc ymhlith rhanddeiliaid. Nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi esboniad ynghylch pam eu bod yn teimlo bod angen dod â'r darpariaethau hyn yn y Ddeddf i rym mor fuan.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU wrth Senedd y DU yn flaenorol:

The measures would only be activated ‘in circumstances where staff numbers were severely depleted’, and only on the basis of scientific advice.

Ni chyhoeddwyd asesiad o effaith yng Nghymru. Yn ôl asesiad o effaith Llywodraeth y DU ni fyddai'r mesurau yn y Bil yn cael eu rhoi ar waith oni bai fod hynny'n hollol angenrheidiol. Y rhesymeg dros hynny oedd, pan fyddai’r pandemig ar ei waethaf, byddai gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn wynebu cynnydd mewn galw a gostyngiad mewn capasiti yn deillio o gyfraddau uwch o absenoldeb staff. Aeth yr asesiad o effaith ymlaen i bwysleisio:

These provisions, which would only be brought into operation for the shortest possible time at the peak of the coronavirus outbreak, would allow [local authorities] to do this by temporarily releasing them from some of their duties. […]

At hynny, nododd asesiad effaith Llywodraeth y DU fod yr amseru o ran rhoi’r cymalau ar waith yn allweddol, ac y byddai'n seiliedig ar gyngor clinigol a meddygol o ran y graddau y mae’r coronafeirws wedi datblygu.

Yn ôl Cangen Cymru o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, mae effaith y newidiadau i ofal cymdeithasol yn golygu y bydd yn anodd iawn herio awdurdodau lleol am fethu â darparu gofal a chefnogaeth.

Arguably, the greatest impact will be on those who are already severely disadvantaged and for whom recourse to challenge has been their only option. The result is that many individuals with needs for care and support and their carers, are likely to be left with no entitlement to care, at a time of crisis and isolation and when their care needs may have increased.

Rhesymeg rhanddeiliaid yw bod y cysylltiad rhwng y methiannau presennol i ddiwallu anghenion gofal, a'r pwysau o ganlyniad ar bob gwasanaeth, wedi'i hen sefydlu.

Daw Cangen Cymru o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain i’r casgliad ei bod yn anodd credu na fydd y newidiadau hyn, a brys Llywodraeth Cymru i’w rhoi ar waith, yn gwaethygu’r sefyllfa.

Iechyd meddwl

Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn cynnwys mesurau dros dro i newid Deddf Iechyd Meddwl 1983 (y mae angen is-ddeddfwriaeth i’w rhoi ar waith). Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd na fydd y darpariaethau hyn yn dod i rym heblaw bod nifer y staff yn cael eu gostwng yn sylweddol. At hynny, maent wedi dweud y bydd y darpariaethau yn cael eu troi ymlaen’ pan fydd eu hangen a'u 'diffodd' pan nad oes eu hangen, mwyach.

Mae Tribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Ymarfer ynghylch Coronafeirws, sy'n nodi'r gwahanol ffyrdd o weithio y bydd yn eu mabwysiadu, er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws ac i reoli'r llwyth gwaith yn briodol. Cyhoeddir y Cyfarwyddyd Ymarfer am gyfnod o 6 mis.

Mae'r rheoliadau’n cychwyn adrannau o Ddeddf y Coronafeirws, sy'n golygu nad oes yn rhaid i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gydymffurfio â gofynion penodol erbyn hyn.

Nid oes gofyniad, mwyach, bod yn rhaid cael o leiaf tri aelod i ffurfio tribiwnlys, ac mewn amgylchiadau penodol, gellir penderfynu ar achosion heb wrandawiad lle gallai hynny fod yn anymarferol, neu lle byddai'n niweidiol i iechyd y claf. Os nad yw Llywydd y Tribiwnlys ar gael dros dro gall Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru enwebu aelod cyfreithiol arall i weithredu fel dirprwy.

Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn diogelu cleifion y mae eu rhyddid wedi'i gyfyngu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac yn adolygu achosion cleifion sy'n destun y Ddeddf Iechyd Meddwl. Efallai y bydd cleifion a'u teuluoedd yn codi pryderon trwy gyfrwng y tribiwnlys iechyd meddwl, a fydd yn arbennig o bwysig pan na fydd arolygiaethau’n cynnal arolygiadau o fewn unedau.

Mae llacio gofynion y Tribiwnlys yn llai dadleuol na newidiadau eraill i'r Ddeddf Iechyd Meddwl nad ydynt wedi eu rhoi ar waith hyd yn hyn, ond serch hynny, mae'n bwysig eu monitro o ran sicrhau diogelwch a hawliau pobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae ein Crynodeb o'r Bil yn rhoi manylion pellach am y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys gostwng nifer y meddygon sy'n ofynnol er mwyn cadw unigolyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i'w asesu a'i drin; newidiadau i ba mor hir y gellir remandio unigolion i'r ysbyty; a newidiadau i bwerau cadw’r heddlu.

Mae elusennau iechyd meddwl, fel Mind a Rethink Mental Illness wedi mynegi pryderon ynghylch sut y gallai rhai o'r newidiadau eraill i bwerau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl effeithio ar hawliau a diogelwch pobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty i gael triniaeth iechyd meddwl.

Codwyd pryderon y gallai'r newidiadau arwain at gadw unigolion sy’n agored i niwed yn ddiangen y tu hwnt i'w hadran, oherwydd pwysau'r gweithlu. Gallai hefyd olygu y gallai unigolion gael eu rhyddhau yn gynnar heb y driniaeth neu'r gefnogaeth feddygol briodol oherwydd pwysau ar y gweithlu neu'r ystâd iechyd meddwl.

Beth yw'r rheoliadau?

Cafodd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn: Rhif 1) (Cymru) 2020 eu gwneud ar 26 Mawrth 2020. Maen nhw’n rhoi darpariaethau canlynol Deddf y Coronafeirws ar waith:

  • Adran 10, Rhan 1 o Adran 8, a pharagraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 yn ymwneud ag iechyd meddwl (daethant i rym ar 27 Mawrth 2020);
  • Adran 15, a Rhan 2 o Atodlen 12 yn ymwneud â gofal a chymorth gan awdurdodau lleol (daethant i rym ar 1 Ebrill 2020).

Rhoddwyd y pwerau i wneud y rheoliadau hyn gan adran 87(4) o Ddeddf y Coronafeirws 2020. Nid oedd y rheoliadau yn destun unrhyw weithdrefn ffurfiol yn y Cynulliad ac ni chawsant eu gosod gerbron y Cynulliad (fel sy'n arferol ar gyfer rheoliadau cychwyn).

Mae'r Ddeddf yn cynnwys mesurau tebyg ar gyfer Cymru a Lloegr yn y meysydd hyn. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod rheoliadau tebyg yn ymwneud â gofal cymdeithasol yn Lloegr, ond hyd yma nid yw wedi rhoi’r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ar waith.

Sylwer: Mae'r Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (a wnaed gan Lywodraeth y DU) hefyd yn berthnasol i ofalwyr di-dâl. Bydd Rheoliad 9 yn caniatáu i ofalwyr gadw eu hawl i lwfans gofalwr os cânt seibiant dros dro wrth ofalu, o ganlyniad i ynysu.

Pa mor hir fydd y rheoliadau'n para?

Disgwylir i'r Ddeddf ddod i ben mewn dwy flynedd (gyda rhai eithriadau), ond gellir ymestyn hynny hyd at chwe mis ar y tro, neu ei dirwyn i ben yn gynharach os bydd angen. Ni fydd paragraffau 30, 33 a 35 o Atodlen 12, sy'n ymwneud â chodi tâl am ddiwallu anghenion yn ystod y cyfnod brys, hygludedd gofal a chefnogaeth a chanllawiau Gweinidog Cymru, yn dod i ben ar yr un pryd â'r Ddeddf.

Bydd y rheoliadau hyn yn aros yn eu lle nes iddynt gael eu dirymu gan Weinidogion Cymru, neu pan nad oes i’r Ddeddf rym mwyach. Mae adran 88 o Ddeddf y Coronafeirws (y pŵer i atal ac adfywio darpariaethau'r Ddeddf) yn rhoi pwerau i Weinidogion droi darpariaethau penodol yn y Ddeddf ymlaen a’u diffodd, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r darpariaethau a roddwyd ar waith gan y rheoliadau hyn.

Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddatganiadau i gyd-fynd â'r rheoliadau.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.