Coronafeirws: iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 14/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae effaith pandemig y coronafeirws a'r camau aros gartref ar iechyd meddwl a lles pobl yn achos pryder sylweddol.

Mae amrywiaeth eang o ffactorau cyfrannol, gan gynnwys rhagor o straen, arwahanrwydd, tarfu ar arferion arferol, ansicrwydd ariannol, problemau cydberthynasau, cam-drin a phrofedigaeth.

Gall y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl eisoes fod yn poeni am lai o fynediad at gymorth. Mae Mind Cymru yn adrodd bod un o bob pump o bobl wedi methu â chael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y cyfyngiadau ar symud.

Mae pryderon hefyd am yr effaith ar iechyd meddwl staff iechyd, staff gofal cymdeithasol a staff rheng flaen eraill. Yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion:

Healthcare staff working in the current pandemic are likely to face a range of stressors including workplace stress, home pressures, traumatic exposure, moral distress and the risks of moral injury. The currently unprecedented circumstances also come at a time when NHS staff are already stretched, services are often understaffed and when organisational morale may be far from ideal.

Er bod awgrymiadau y bydd cyfraddau hunanladdiad yn codi hefyd, dywed arbenigwyr atal hunanladdiad nad yw hyn yn anochel:

Suicide is likely to become a more pressing concern as the pandemic spreads and has longer-term effects on the general population, the economy, and vulnerable groups. Preventing suicide therefore needs urgent consideration. (Lancet Psychiatry, 21 Ebrill 2020)

Rhagwelir y bydd effaith y pandemig ar iechyd meddwl yn para llawer hirach na'r effaith ar iechyd corfforol, fel y trafodwyd yn yr Erthygl hon yn y BMJ (British Medical Journal) (5 Mai 2020).

Plant a phobl ifanc

Mae NSPCC wedi sôn am y 'galw digynsail’ am ei wasanaeth Childline yn ystod y pandemig. Mae Papur briffio gan NSPCC (17 Ebrill 2020) yn amlygu’r prif bryderon y mae plant a phobl ifanc wedi bod yn siarad â chwnselwyr Childline amdanynt:

Young people use the word “trapped” to describe how they feel about being at home, particularly since strict social distancing measures were put in place. Not being able to go to school, visit family or friends or take part in activities outside of the family home is having a negative impact on their mental health.

Some young people tell us they are having suicidal thoughts and feelings and some talk about using self-harm to cope.

Ar 16 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n darparu £1.25 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela ysgolion i gefnogi plant a allai fod yn fwy pryderus o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Gyda phlant a phobl ifanc bellach yn gorfod dibynnu rhagor ar ffynonellau cymorth iechyd meddwl ar-lein, gall fod pryderon ynghylch eu gallu i gael mynediad at dechnoleg yn y cartref ac i gysylltu â gwasanaethau ar-lein. Gall preifatrwydd fod yn broblem hefyd.

Ar 5 Mai 2020, bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn holi'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am effaith y pandemig ar les meddyliol plant a phobl ifanc, a pha sicrwydd y gallai ei roi y byddai hyn yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Ymatebodd:

… it is a real worry list for me about how we understand the impact on the mental health and well-being of children and young people, and to move forwards, that we don't end up with an entire generation of children and young people who grow up with a range of damage because we haven't thought about what that will look like. So, the mental health recovery plan will of course be of very real importance to me. In amongst all the other priorities I have, I'm certainly not going to allow the mental health and well-being of children and young people to be forgotten.

O ystyried ei ffocws ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ystod y Pumed Cynulliad, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cadw llygad barcud ar y mater hwn. Mae ein herthygl flaenorol yn mynd i’r afael ag effaith y pandemig ar hawliau plant.

Mesur yr effaith

Mae sefydliadau'r trydydd sector yn gwneud gwaith i ddeall effaith y pandemig ar ein hiechyd meddwl, gan gynnwys:

  • y Sefydliad Iechyd Meddwl, sydd yn arwain astudiaeth hydredol ledled y DU i olrhain newidiadau o ran iechyd meddwl y boblogaeth mewn amser real, ac yn targedu materion wrth iddynt ddod i'r amlwg, a
  • chrëwyd Arolwg gan Mind Cymru i edrych ar effaith y coronafeirws ar iechyd meddwl pobl a mynediad at gefnogaeth.

Mae'n amlwg, fodd bynnag, y bydd angen rhagor o ymchwil. Gan ymateb i gwestiwn am effaith y pandemig ar iechyd meddwl plant (5 Mai 2020), dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

Part of the honest challenge, again, is that we don't fully understand the impact on the mental health and well-being of children but we do expect there will have been an impact. (…). Until we have more contact with families, we may not fully understand that, and that's a real point of concern for me.

In all of the unknowns within this, the impact on mental health and well-being is absolutely one of them, because we're looking at how we then develop not just a recovery plan for the economy but a recovery plan around mental health.

Dywed papur nodi’r sefyllfa, a gyhoeddwyd yn y Lancet Psychiatry (15 Ebrill 2020) bod yn rhaid i ymchwil gwyddor iechyd meddwl fod yn ganolog i'r ymateb rhyngwladol i'r pandemig. Mae'n tynnu sylw, nid yn unig at yr effaith bosibl ar iechyd meddwl unigolion a phoblogaethau, ond hefyd at effeithiau posibl y clefyd ei hun ar weithrediad ymennydd rhai o’r bobl yr effeithir arnynt.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ar 15 Ebrill 2020, ysgrifennodd Dr Andrew Goodall (Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru) at fyrddau iechyd yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau iechyd meddwl barhau i ddarparu ymatebion diogel a chynaliadwy i unigolion y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt yn ystod y cyfnod hwn.

Ar 6 Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith gweithredu COVID-19 GIG Cymru (ar gyfer chwarter cyntaf 2020/21), a dogfen ar Wasanaethau iechyd hanfodol i gyd-fynd ag ef. Mae hyn yn cadarnhau y caiff gwasanaethau iechyd meddwl eu categoreiddio fel 'gwasanaeth hanfodol', hynny yw, yn wasanaeth y dylid ei gynnal bob amser drwy gydol pandemig y coronafeirws.

Mae'r ddogfen hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod 'offeryn monitro iechyd meddwl COVID-19' wedi'i ddatblygu i roi sicrwydd ynghylch capasiti gwasanaethau i gyflawni eu swyddogaethau allweddol. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd gwblhau a dychwelyd hwn yn wythnosol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r wybodaeth a ganlyn i gefnogi gwasanaethau yn ystod y pandemig:

Ar 16 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod gwasanaeth cymorth iechyd meddwl am ddim i feddygon yn cael ei ehangu i gwmpasu holl staff rheng flaen GIG Cymru yn ystod y pandemig.

Cafodd gwasanaethau galar a phrofedigaeth yng Nghymru £72,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i ymateb i gynnydd posibl i’r galw am eu gwasanaethau dros y misoedd nesaf, o ganlyniad i’r coronafeirws.

Adnoddau o ran cymorth a gwybodaeth

Mae nifer o sefydliadau wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau gwybodaeth i helpu i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae’r rhain yn cynnwys:

Ar 6 Mai 2020 daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O ganlyniad, mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon yn adlewyrchu'r newid enw, gan gyfeirio at y sefydliad fel y 'Cynulliad' mewn cyd-destun hanesyddol (cyn 6 Mai) a'r 'Senedd' wedi hynny.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.