Coronafeirws: diweddariad mis Tachwedd 2021 ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 16/11/2021   |   Amser darllen munudau

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2021 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Medi 2021.

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021. Fodd bynnag, nid yw ffigurau Arolwg o’r Llafurlu ar gyfer mis Tachwedd yn adlewyrchu nifer y bobl a roddwyd ar ffyrlo oherwydd y coronafeirws.

Yn ôl ystadegau CThEM ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws roedd dros 39,700 o gyflogaethau yng Nghymru ar ffyrlo ar 30 Medi 2021. Mae hynny’n cynrychioli cyfradd o 3% sydd wedi defnyddio’r Cynllun. Roedd 18,500 o weithwyr benywaidd a 21,200 o weithwyr gwrywaidd ar ffyrlo o dan y Cynllun ar 30 Medi 2021.

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae’r Arolwg o’r Llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o oddeutu 80,000 o oedolion. Mae’r arolwg yn gofyn nifer o gwestiynau gwahanol am gyflogaeth a’r farchnad lafur. Gan fod pobl yn dal i fod ar ffyrlo rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Medi 2021, nid yw hyn yn adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio eu bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) wedi cael eu hail-bwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ail-bwysoli yn rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Roedd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl 16+ oed yng Nghymru ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2021 yn 3.8 y cant, sef ychydig yn is na’r 4.1 y cant yn ystod y chwarter blaenorol (mis Ebrill 2021 i fis Mehefin 2021). Mae hyn yn ostyngiad o 4,000 o bobl ers y chwarter blaenorol, i 58,000.

Ffeithlun 1 = Penawdau ystadegau mis Gorffennaf 2021 i fis Medi 2021 o’u cymharu â’r chwarter blaenorol mis Ebrill 2021 i fis Mehefin 2021. Mae’r gyfradd diweithdra 16+ yn 3.8 y cant gyda 58,000 o bobl yn ddi-waith, gostyngiad o 4,000 ers y chwarter blaenorol. Mae’r gyfradd cyflogaeth 16-64 yn 73.8 y cant. Mae 1,483,000 o bobl 16+ oed yn gyflogedig, cynnydd o 7,000 ers y chwarter blaenorol. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd 16-64 yn 23.2 y cant gyda 441,000 o bobl yn economaidd weithgar, sef cynnydd o 13,000 ers y chwarter blaenorol.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru (3.8 y cant) yn is nag yn Lloegr (4.3 y cant), yr Alban (4.1 y cant) a Gogledd Iwerddon (4.0 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Gorffennaf 2016 – Medi 2016 i Gorffennaf 2021 - Medi 2021.

Ffeithlun 2 = Graff llinell o gyfraddau diweithdra 16+ oed ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maent i gyd yn dangos gostyngiad cyffredinol i lai na 4 y cant yn 2019. Cafwyd cynnydd cyffredinol sydyn wedyn ers dechrau 2020. Bu cynnydd yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y chwarter olaf. Nodir y ffigurau presennol uchod.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Tachwedd 2021

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mehefin 2021. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfraddau diweithdra yn gostwng gydag oedran ar gyfer dynion a menywod. Ym mhob grŵp oedran, mae’r cyfraddau diweithdra yn uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Mehefin 2021

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 oed yn 13.2 y cant o'i gymharu â 10.8 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 25 a 49 oed yn 3.8 y cant o'i gymharu â 3.1 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 50 a 64 oed yn 3.3 y cant o'i gymharu â 2.7 y cant ar gyfer menywod.

Mae data diweithdra hefyd ar gael fesul etholaeth seneddol. Mae’r map isod yn dangos, dros y deuddeg mis hyd at fis Mehefin 2021, mai Gorllewin Abertawe oedd â’r gyfradd uchaf, ac mai Aberconwy ac Islwyn oedd â’r cyfraddau isaf (1.8 y cant).

Noder: Mae maint y sampl ar gyfer Gorllewin Clwyd a Chanol Caerdydd yn rhy fach i roi amcangyfrifon.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill. Mae’r data a addaswyd yn dymhorol ar gyfer Talu Wrth Ennill ym mis Hydref 2021 (1,279,015) yn dangos bod nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na’r nifer ym mis Chwefror 2020. Bu cynnydd o 6,320 o gyflogeion ar gyflogres rhwng mis Medi a mis Hydref 2021.

Nifer yr hawlwyr - wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 59,173 ym mis Mawrth 2020 i 119,232 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 85,528 ym mis Hydref 2021.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Hydref 2019 i fis Hydref 2021

Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Awst 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 59,173 ym mis Mawrth 2020 i 119,232 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 85,528 ym mis Hydref 2021.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwchyn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru