Coronafeirws: cymorth i fusnesau

Cyhoeddwyd 02/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 27 Awst 2020

Bydd y coronafeirws eisoes wedi effeithio ar lawer o fusnesau ledled Cymru, y DU a'r byd, a gallant ddisgwyl teimlo effeithiau'r pandemig byd-eang dros y misoedd nesaf.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o gynlluniau i gefnogi busnesau drwy’r cyfnod hwn. Mae'r rhain yn cynnwys grantiau, rhyddhad ardrethi busnes, cymorth i'r hunangyflogedig, a chymorth i gyflogwyr dalu eu staff. Mae'r erthygl hon yn amlinellu ac yn crynhoi'r help sydd ar gael gan y ddwy lywodraeth.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi erthyglau blog heddiw ar gyflogaeth a chymorth budd-daliadau mewn perthynas â’r coronafeirws.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Grantiau busnes

Lansiodd Llywodraeth Cymru ddau grant i gefnogi busnesau sy’n talu ardrethi busnes.

Bydd yr holl fusnesau sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (hynny yw, ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000) yn cael grant o £10,000. Yr unig gyfyngiad yw y gall y trethdalwr gael y grant ar gyfer hyd at ddau eiddo yn unig ym mhob ardal awdurdod lleol.

Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000. Mae hyn yn cynnwys busnesau fel siopau, bwytai, caffis, tafarndai, gwestai a lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Awdurdodau lleol sy’n gweinyddu'r grantiau hyn ac mae Busnes Cymru wedi creu tudalen ar y we sy’n cynnwys lincs i'r adran berthnasol ar wefan pob awdurdod lleol. Bydd y wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau i gael gafael ar y grantiau ar gael ar-lein, a chyngor Busnes Cymru yw peidio â ffonio’r awdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch y grantiau ardrethi busnes. Yn ôl y canllawiau, bydd y penderfyniad i roi’r grant yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol, a dylid gwneud y penderfyniad hwn yn unol â phrif egwyddor y cynllun, sef darparu cymorth ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt yn negyddol. Yn ogystal, ar 20 Ebrill, mewn perthynas â llety hunanddarpar, ni fydd eiddo’n gymwys oni bai bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod y llety hunanddarpar yn gallu dangos cyfrifon masnachu ar gyfer y ddwy flynedd yn uniongyrchol cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
  • Bod y llety hunanddarpar wedi cael ei osod am o leiaf 140 diwrnod ym Mlwyddyn Ariannol 2019–20
  • Mai’r busnes llety hunanddarpar yw prif ffynhonnell incwm y perchennog (o leiaf 50 y cant)

Caeodd y cynllun grantiau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020.

Rhyddhad ardrethi busnes

Ni fydd yn rhaid i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol is na £500,000 dalu dim ardrethi busnes ym mlwyddyn ariannol 2020-21. Bydd awdurdodau lleol yn ceisio dyfarnu'r rhyddhad hwn yn awtomatig drwy'r system ardrethi busnes cyn gynted â phosibl, ac anfonir bil diwygiedig at fusnesau pan fydd hyn wedi'i wneud.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at bob busnes yn y sectorau hyn sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o £500,000 neu fwy, a bydd yn ystyried cymorth yn ôl disgresiwn os bydd achos economaidd cymhellol i wneud hynny.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau manwl ar gyfer y cynllun, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd.

Cronfa Cadernid Economaidd

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu cymorth busnes ychwanegol drwy ddwy elfen.

Bydd Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000 ar gyfraddau ffafriol i fusnesau sy'n cael problemau llif arian o ganlyniad i’r pandemig. Bydd cyfnod 12 mis o wyliau lle nad oes angen ad-dalu llog a chyfalaf, cyfradd llog sefydlog 2 y cant am chwe blynedd yn cynnwys y gwyliau, a dim ffioedd monitro na threfnu. Mae’r Banc Datblygu wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa, cymhwysedd a'r broses ymgeisio.

Mae’r benthyciadau a gynigiwyd gan Fanc Datblygu Cymru wedi’u ddefnyddio’n llawn; cafodd y cynllun dros 1,500 o geisiadau yn ei wythnos gyntaf. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn galw ar i Ganghellor y Trysorlys i ddarparu arian ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru.

Hefyd, bydd cwsmeriaid presennol y Banc Datblygu yn cael cynnig gwyliau tri mis pan nad oes angen ad-dalu ffioedd cyfalaf a monitro ar fenthyciadau presennol, ac eithrio benthyciadau datblygu eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu ‘cronfa frys’ i ddarparu cyllid grant. Yn bennaf, mae’r gronfa hon ar gyfer busnesau na fyddai wedi bod yn gymwys i gael pecynnau cymorth a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae cymorth ar gael ar gyfer busnesau o bob maint.

  • Bydd microfusnesau sy’n cyflogi 1 i 9 o bobl yn gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £10,000, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru;
  • Bydd busnesau bach a chanolig sy’n cyflogi 10-249 o bobl yn gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £ 100,000, ar yr amod eu bod bodloni’r meini prawf a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru; a
  • Bydd busnesau mawr o bwys economaidd a chymdeithasol hanfodol i Gymru yn gallu gwneud cais am gymorth. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos, er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu mewn ffordd sy’n ategu ffynonellau cymorth eraill.

Caeodd y cylch ymgeisio diweddaraf i geisiadau ar gyfer y Gronfa ar 10 Gorffennaf 2020.

Grant Busnes Newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Grant Busnes Newydd o £2,500 i fusnesau a sefydlwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020. Mae’r grant hwn ar agor i fusnesau sydd â throsiant blynyddol llai na £50,000, ac sydd wedi cael dros 50% yn llai o incwm rhwng mis Ebrill a Mehefin 2020. At hynny, er mwyn derbyn y grant, rhaid i fusnesau beidio derbyn dim cymorth gan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, y Gronfa Cadernid Economaidd, na’r Grant Ardrethi Busnes. Ceir rhagor o wybodaeth am y meini prawf yn y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

I wneud cais am y grant, dylai busnesau ddefnyddio’r gwiriwr cymhwystra ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd a’r Grant Busnes Newydd ar wefan Llywodraeth Cymru – gellir llenwi’r ffurflen gais unwaith y mae’r gwiriadau cymhwystra wedi eu cwblhau ar wefan Busnes Cymru.

Cymorth gan Lywodraeth y DU

Lansiodd Llywodraeth y DU adnodd i helpu busnesau ar draws y DU i ddod o hyd i ffynonellau cymorth busnes sy'n ymwneud â’r coronafeirws ar 20 Ebrill. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau cyllido Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil Coronafeirws

Lansiodd Llywodraeth y DU y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil Coronafeirws i gefnogi busnesau bach a chanolig yn bennaf i gael mynediad at fenthyciadau a gorddrafftiau banc. Bydd yn cael ei ddarparu gan Fanc Busnes Prydain.

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi gwarant o 80 y cant i roddwyr benthyciadau ar bob benthyciad (yn amodol ar derfyn fesul rhoddwr benthyciadau ar hawliadau) i roi mwy o hyder i fenthycwyr barhau i ddarparu cyllid i fusnesau bach a chanolig. Ni fydd yn codi tâl ar fusnesau na banciau am y warant hon, ac mae'r Cynllun yn cefnogi benthyciadau gwerth hyd at £5 miliwn.

Gall busnesau gael mynediad at y cyllid hwnnw’n ddi-log am y 12 mis cyntaf, gan mai’r llywodraeth sy’n talu’r taliadau llog am y 12 mis cyntaf.

Gall busnesau yn y DU sydd â throsiant blynyddol hyd at £45 miliwn gael mynediad at y cynllun, ac mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi meini prawf cymhwysedd a chwestiynau cyffredin.

Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Mawr yn sgil y Coronafeirws

Lansiwyd y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Mawr yn sgil y Coronafeirws ar 20 Ebrill. Mae’r cynllun hwn yn darparu gwarant gan y llywodraeth o 80 y cant i alluogi banciau i gynnig benthyciadau hyd at £25 miliwn i gwmnïau yn y DU sydd â throsiant blynyddol rhwng £45 miliwn a £250 miliwn a hyd at £50 miliwn i fusnesau sydd â throsiant dros £250 miliwn. Caiff y benthyciadau hyn eu cynnig ar gyfraddau llog masnachol.

Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a sut y mae'r cynllun yn gweithredu ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain, sydd hefyd wedi cyhoeddi canllaw i fusnesau ar y cynllun a dogfen Cwestiynau Cyffredin, sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais amdano.

O 26 Mai, trwy'r cynllun hwn, bydd busnesau mawr yn gallu benthyca gwerth hyd at 25 y cant o'u trosiant, hyd at uchafswm o £200 miliwn. Fodd bynnag, os yw busnesau am fenthyca mwy na £50 miliwn, byddant yn destun cyfyngiadau ar daliadau difidend, cyflogau uwch-swyddogion a threfniadau prynu cyfranddaliadau yn ôl ar gyfer cyfnod y benthyciad. Ni fydd busnesau yn gallu talu bonws na dyfarnu codiadau cyflog i uwch-reolwyr, oni bai eu bod eisoes wedi cael eu datgan, a’u bod yn debyg i daliadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf, ac nad ydynt yn effeithio'n sylweddol ar allu'r busnes i ad-dalu'r benthyciad.

Benthyciadau Adfer

Cafodd y cynllun Benthyciadau Adfer ei lansio ar gyfer ceisiadau ar 4 Mai.

Mae’r cynllun hwn yn cefnogi busnesau bach a chanolig i fenthyg rhwng £2,000 a £50,000. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwarantu 100 y cant o’r benthyciad ac nid oes unrhyw ffioedd na llog yn daladwy yn ystod y 12 mis cyntaf. Caiff busnesau'r DU y mae’r Coronafeirws wedi cael effaith negyddol arnynt wneud cais am y cynllun, ar yr amod nad oeddent mewn trafferth ar 31 Rhagfyr 2019. Fodd bynnag, ni chaiff busnesau sydd wedi cael benthyciad drwy Gynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws wneud cais. Ond, os ydynt wedi cael benthyciad llai na £50,000 dan y cynllun hwn, cânt ei drosglwyddo i'r Cynllun Benthyciadau Adfer drwy drefnu hyn gyda’u benthyciwr cyn 4 Tachwedd 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am fanylion y cynllun, a sut i wneud cais, ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein, a hynny drwy ateb saith cwestiwn, a bwriad Llywodraeth y DU yw y bydd cyllid ar gael i fusnesau o fewn diwrnodau iddynt gyflwyno cais.

Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU sy’n galluogi pobl hunangyflogedig y mae’r coronafeirws wedi cael effaith negyddol ar eu hincwm i hawlio grant arian trethadwy.

Mae ar gael i bobl y mae eu helw masnachu blynyddol yn llai na £50,000 (neu’n llai na £50,000 y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod 2016-17, 2017-18 a 2018-19), a phan fo mwy na hanner eu hincwm yn dod o hunangyflogaeth. Dim ond i bobl a fasnachodd ym mlwyddyn drethi 2019-20, ac sydd wedi cyflwyno’u ffurflen dreth ar gyfer 2018-19 y mae ar gael. Y cyngor gan Lywodraeth y DU yw, os nad ydych wedi cyflwyno'ch ffurflen dreth Hunanasesu Treth Incwm ar gyfer blwyddyn drethi 2018-19, fod yn rhaid i chi wneud hyn erbyn 23 Ebrill 2020.

Mae’r cynllun hefyd yn gymwys i aelodau o bartneriaethau. Nid yw pobl sy’n talu cyflog a difidendau i'w hunain drwy eu cwmni eu hunain yn cael eu cwmpasu gan y cynllun, ond efallai y gallant gael mynediad at y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws os ydynt yn cael eu talu drwy’r cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE).

Bydd grantiau yn cael eu talu fel un cyfandaliad ar gyfer y tri mis, ac mae modd gwneud cais nawr. Cyn gwneud hawliad, dylai pobl hunangyflogedig ddefnyddio Holiadur gwirio cymhwysedd Cyllid a Thollau EM i weld a oes ganddynt hawl i’r gefnogaeth hon. Os yw rhywun yn gymwys i hawlio, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer yr hawliad, ac mae'r gwasanaeth ar-lein bellach wedi’i lansio er mwyn gwneud hyn. Ar ôl i hawliad gael ei gyflwyno, bydd Cyllid a Thollau EM yn ei wirio, ac yn talu'r grant i gyfrif banc yr hawlydd o fewn chwe diwrnod gwaith.

Ar 29 Mai, cyhoeddodd y Canghellor y byddai'r cynllun yn cael ei ymestyn, fel y bydd y rhai sy'n gymwys yn gallu hawlio ail grant a'r olaf ym mis Awst. Bydd y grant yn werth 70 y cant o'r elw masnachu misol cyfartalog, wedi’i dalu mewn un rhandaliad sy’n cwmpasu gwerth tri mis o elw, ac sydd wedi’i gyfyngu i £6,570 at ei gilydd.

Mae'r meini prawf cymhwysedd yr un fath ar gyfer y ddau grant, a bydd angen i unigolion gadarnhau bod y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar eu busnes. Nid oes rheidrwydd bod unigolyn wedi hawlio’r grant cyntaf i gael yr ail grant.

Mae ceisiadau am yr ail grant bellach ar agor i ymgeiswyr cymwys tan 19 Hydref 2020, os oedd y pandemig wedi effeithio'n andwyol ar eu busnes ar 14 Gorffennaf neu wedi hynny.

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws

Nod y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws Llywodraeth y DU yw cefnogi cyflogwyr y mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar eu gweithrediadau.

Mae'r cynllun yn agored i fusnesau, elusennau ac asiantaethau recriwtio yn y DU a oedd wedi creu cynllun cyflogres Talu Wrth Ennill (TWE) ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny, wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein, ac sydd â chyfrif banc yn y DU. Hefyd, mae awdurdodau cyhoeddus yn gymwys mewn rhai amgylchiadau.

Mae'n caniatáu i gyflogwyr roi gweithwyr a oedd ar y gyflogres ar 19 Mawrth ar ‘ffyrlo’ (hynny yw, rhoi caniatâd iddynt fod yn absennol), os na allant weithio am nifer o resymau gan gynnwys bod y busnes wedi'i orfodi i gau, neu am nad oes gwaith i’w wneud oherwydd y coronafeirws. Gall gweithwyr a oedd yn cael eu cyflogi ar 28 Chwefror 2020 ac ar y gyflogres ac a ddiswyddwyd neu a stopiodd weithio i'r cyflogwr ar ôl hynny a chyn 19 Mawrth 2020 hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun os yw'r cyflogwr yn cytuno i'w hail-gyflogi a'u rhoi ar ffyrlo.

O 1 Gorffennaf ymlaen, bydd y cynllun dim ond ar gael i gyflogwyr sydd wedi defnyddio'r cynllun o'r blaen mewn perthynas â gweithwyr y maent wedi’u rhoi ar ffyrlo yn flaenorol. Er mwyn adlewyrchu'r newidiadau i'r cynllun ffyrlo, ni fydd cyflogwyr bellach yn gallu cyflwyno hawliadau am gyfnodau sy'n gorgyffwrdd misoedd calendr. Ni fyddant ychwaith yn gallu hawlio am nifer uwch o weithwyr a roddwyd ar ffyrlo mewn cyfnod hawlio nag y maent wedi'i wneud o'r blaen.

Gall deiliaid swyddi (gan gynnwys cyfarwyddwyr cwmnïau), aelodau cyflogedig o Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PACau), gweithwyr asiantaeth, a chontractwyr dibynnol gael eu rhoi ar seibiant os ydynt yn cael eu talu drwy PAYE.

Hefyd, gellir rhoi pobl ar seibiant os ydynt yn gwarchod' oherwydd eu bod mewn grŵp sy’n agored i niwed neu os oes angen iddynt aros gartref gyda rhywun sy'n gwarchod (ac ni allant weithio gartref), neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.

Nid yw'r cynllun yn cynnwys gweithwyr y mae eu horiau wedi'u lleihau.

Bydd y cynllun yn talu am 80 y cant o gostau cyflog misol arferol gweithwyr ar seibiant, hyd at £2,500 y mis (heb gynnwys bonysau, ffioedd na chomisiwn). Gall cyflogwyr ychwanegu ato drwy dalu’r 20 y cant sy'n weddill, neu unrhyw swm sy'n fwy na'r terfyn £2,500, ond nid yw'n ofynnol iddynt wneud hyn.

Ar 29 Mai, cyhoeddodd y Canghellor y byddai busnesau, o 1 Gorffennaf ymlaen, yn gallu dod â gweithwyr ar ffyrlo yn ôl i weithio’n rhan-amser. Bydd cyflogwyr yn penderfynu ar oriau a phatrymau’r sifftiau y bydd eu gweithwyr yn gweithio pan fyddant yn dychwelyd, a byddant yn gyfrifol am dalu eu cyflogau.

O fis Awst ymlaen, bydd y cynllun yn dechrau tapro, a bydd cyflogwyr yn dechrau talu rhan o gyflogau gweithwyr ar ffyrlo. Ym mis Awst, bydd cyflogwyr yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) a chyfraniadau pensiwn cyflogwyr. Ym mis Medi, yn ogystal â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau phensiwn cyflogwyr, byddant hefyd yn talu 10 y cant o'u cyflogau, gyda Llywodraeth y DU yn talu 70 y cant hyd at uchafswm o £2,187.50. Ym mis Hydref, bydd hyn yn codi fel bod cyflogwyr yn talu 20 y cant o gyflogau yn ogystal â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, gyda Llywodraeth y DU yn talu 60 y cant o gyflogau hyd at uchafswm o £1,875.

Gall cyflogwyr wneud cais i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws drwy wefan Llywodraeth y DU.

Bonws Cadw Swyddi

Cyhoeddwyd y Bonws Cadw Swyddi yng Nghynllun ar gyfer Swyddi Canghellor y Trysorlys. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu taliad untro o £1,000 i gyflogwyr y DU ar gyfer pob gweithiwr a roddwyd ar ffyrlo sy’n dal i gael ei gyflogi’n barhaus hyd at ddiwedd mis Ionawr 2021. Mae'n rhaid bod gweithwyr yn ennill uwchlaw’r Terfyn Enillion Isaf (£520 y mis) ar gyfartaledd rhwng diwedd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a diwedd mis Ionawr 2021. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun ar gael erbyn diwedd mis Gorffennaf, a bydd taliadau'n cael eu gwneud ym mis Chwefror 2021.

Cymorth i fusnesau twf uchel ac arloesol

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid i helpu busnesau'r DU i sbarduno arloesedd a datblygiad drwy bandemig y coronafeirws. Caiff ei ddarparu drwy ddau gynllun, Cronfa’r Dyfodol ar gyfer y Coronafeirws a chymorth wedi'i dargedu ar gyfer busnesau bach a chanolig sy'n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu.

Mae Cronfa’r Dyfodol ar gyfer y Coronafeirws, a gyflenwir gan Fanc Busnes Prydain, yn darparu benthyciadau gwerth rhwng £125,000 a £5 miliwn i gwmnïau arloesol ar draws y DU sy'n wynebu anawsterau cyllido oherwydd argyfwng y coronafeirws. Bydd y benthyciadau hyn yn troi’n ecwiti’n awtomatig ar gylch cyllido cymwys nesaf y cwmni, neu ar ddiwedd y benthyciad os na chânt eu had-dalu.

Mae’r gronfa’n agored i fusnesau yn y DU a all ddenu arian cyfatebol gan fuddsoddwyr preifat trydydd parti a sefydliadau, ac sydd wedi codi o leiaf £250,000 mewn buddsoddiad ecwiti o'r blaen gan fuddsoddwyr trydydd parti yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Nid oes cap ar faint y gall buddsoddwyr preifat ei fenthyg i'r cwmni.

Mae'r gronfa ar agor i geisiadau tan ddiwedd mis Medi 2020. Mae'r gronfa yn cael ei harwain gan fuddsoddwyr, sy'n golygu y gall buddsoddwr arweiniol gofrestrau ar-lein i ddechrau'r broses ymgeisio. Mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi gwirydd cymhwystra, gwybodaeth i gwmnïau, a gwybodaeth i fuddsoddwyr.

Caiff y cyllid arloesedd ar gyfer busnesau bach a chanolig ei ddarparu gan Innovate UK, a chaiff y taliadau cyntaf eu gwneud erbyn canol mis Mai. Caiff yr holl gyllid, fwy neu lai, ei ddefnyddio i gyflymu taliadau grant a benthyciad a chynyddu cymorth i gwsmeriaid presennol Innovate UK, a chaiff y gweddill ei gynnig i 1,200 o gwmnïau nad ydynt yn cael cyllid Innovate UK ar hyn o bryd.

Adennill Tâl Salwch Statudol

Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno rheoliadau gan ddefnyddio pwerau o dan adran 39 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 i ganiatáu i fusnesau bach a chanolig a chyflogwyr adennill Tâl Salwch Statudol a dalwyd ar gyfer absenoldeb salwch oherwydd y coronafeirws. Bydd yr ad-daliad hwn yn cwmpasu hyd at 2 wythnos o dâl salwch statudol i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith oherwydd y coronafeirws, a bydd yn agored i fusnesau a oedd yn cyflogi llai na 250 o bobl ar 28 Chwefror 2020.

Mae'r cynllun yn cwmpasu pob math o gontract cyflogaeth, gan gynnwys gweithwyr amser llawn a rhan-amser; gweithwyr ar gontractau asiantaeth; gweithwyr ar gontractau hyblyg neu gontract dim oriau; a gweithwyr ar gontractau tymor penodol.

Gall cyflogwyr hawlio o'r diwrnod cymwys cyntaf y mae eu gweithiwr yn absennol o’r gwaith neu os yw’r cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch yn dechrau ar, neu ar ôl:

  • 13 Mawrth 2020 - os oedd gan y gweithiwr coronafeirws neu'r symptomau, neu'n hunanynysu oherwydd bod rhywun sydd â symptomau yn byw gyda nhw
  • 16 Ebrill 2020 - os oedd y gweithiwr yn gwarchod ei hun oherwydd y coronafeirws
  • 28 Mai 2020 - os yw'r gweithiwr wedi cael gwybod gan y GIG neu gorff iechyd cyhoeddus ei fod wedi dod i gysylltiad â rhywun â’r coronafeirws

Mae’n rhaid bod cyflogwyr wedi talu tâl salwch y gweithiwr cyn y gall ei hawlio yn ôl.

Mae’r gwasanaeth ar-lein i gyflogwyr hawlio Tâl Salwch Statudol yn ôl ar gyfer absenoldebau staff o ganlyniad i’r coronafeirws bellach ar gael.

Cymorth arall sydd ar gael

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi nodi manylion am nifer o fesurau eraill i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gall busnesau sydd yn bryderus na fyddant yn gallu talu eu bil treth nesaf fod yn gymwys i gael cymorth drwy linell gymorth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM ar 0800 024 1222. Cytunir ar y trefniadau fesul achos, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol;
  • Mae Llywodraeth y DU wedi gohirio taliadau TAW am dri mis, fel bod gan fusnesau sydd â bil TAW sy'n ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin yr opsiwn i’w dalu’n ddiweddarach, neu ei dalu fel arfer os ydynt am wneud hynny;
  • Gall pobl hunangyflogedig y mae’n bryd iddynt wneud taliad treth incwm hunanasesu erbyn 31 Gorffennaf 2020 ohirio hyn tan 31 Ionawr 2021 os ydynt am wneud hynny oherwydd bod y coronafeirws wedi effeithio ar eu busnes;
  • Mae’r dyddiad cau ar gyfer busnesau sydd angen ffeilio eu cyfrifon rhwng 26 Mawrth 2020 a 29 Medi 2020 wedi cael ei ymestyni 30 Medi 2020, neu 12 mis o ddiwedd cyfnod cyfrifo’r busnes. Bydd yr estyniad hwn yn cael ei gymhwyso’n ddiofyn gan Dŷ’r Cwmnïau, ac nid oes angen i gwmnïau wneud cais am yr estyniad.
  • Bydd tenantiaid masnachol nad ydynt yn gallu talu eu rhent yn cael eu gwarchod rhag cael eu troi allan tan 30 Medi 2020. Er y bydd tenantiaid masnachol yn dal i fod yn atebol am y rhent, bydd y mesurau sydd wedi’u cyflwyno yn golygu na fydd yr un busnes yn colli eu prydles yn awtomatig ac yn cael eu gorfodi i adael eu heiddo os ydynt yn methu â gwneud taliad hyd at 30 Medi. At hynny, mae Deddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020, a ddaeth i rym fis diwethaf, yn gohirio rhannau o’r gyfraith ansolfedd dros dro drwy gyflwyno moratoriwm o 20 diwrnod busnes i gyfarwyddwyr busnesau ystyried opsiynau i achub eu cwmni drwy wneud cais am foratoriwm i’r llys. Gellir ymestyn cyfnod y moratoriwm am 20 diwrnod busnes ychwanegol heb gydsyniad y credydwyr, neu am gyfnod hwy gyda chydsyniad y credydwyr, drwy ffeilio’r datganiadau perthnasol i’r llysoedd. Ymhelaethir ar hyn yng nghanllawiau Llywodraeth y DU.
  • Mae Cynllun ar gyfer Swyddi Canghellor y Trysorlys yn nodi manylion gostyngiad dros dro mewn TAW o 20 y cant i 5 y cant ar gyfer lletygarwch, llety gwyliau ac atyniadau. Bydd y gyfradd dros dro yn weithredol rhwng 15 Gorffennaf 2020 a 12 Ionawr 2021. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau cyffredinol ynghylch sut y bydd y gostyngiad dros dro yn gweithredu, yn ogystal â dogfennau manylach sy'n ymdrin â lletygarwch, llety gwyliau ac atyniadau.
  • Gall busnesau gofrestru ar gyfer cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan Llywodraeth y DU, sy’n cynnig gostyngiad o 50 y cant hyd at uchafswm o £10 y person, oddi ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol. Bydd y gostyngiad ar gael ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher o 3-31 Awst 2020, a bydd busnesau'n gallu hawlio'r arian yn ôl gan Lywodraeth y DU. Gall busnes gofrestru gyda Llywodraeth y DU i hawlio'r gostyngiad os yw’n gwerthu bwyd i’w fwyta yn y fan a’r lle ar y safle, yn darparu ei ardal fwyta ei hun neu’n rhannu ardal fwyta gyda busnes arall, a’i fod wedi’i gofrestru fel busnes bwyd gyda’i awdurdod lleol erbyn 7 Gorffennaf.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.