Coronafeirws: cymharu strategaethau ymadael y DU

Cyhoeddwyd 02/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddarwyd yr erthygl hon ar 2 Mehefin 2020

Mae'r pwerau dros y cyfyngiadau symud wedi'u datganoli felly mae pob gwlad unigol yn gyfrifol am benderfynu sut byddant yn cael eu llacio. Roedd nifer o wahaniaethau bach rhwng y cyfyngiadau cychwynnol ledled y DU gyfan ac mae mwy yn dod i'r amlwg wrth i’r rhain gael eu llacio.

Bydd yr erthygl hon yn amlinellu ac yn cymharu'r fframweithiau a gyhoeddwyd gan y pedair llywodraeth ar gyfer eu dulliau eu hunain o lacio'r cyfyngiadau.

Fframwaith Cymru ar gyfer adferiad

Ar 24 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith yn seiliedig ar dri ‘philer’ a fydd, yn ôl Prif Weinidog Cymru, yn “arwain Cymru allan o’r argyfwng hwn”.

Mae'r piler cyntaf yn cynnwys ffactorau i'w hystyried wrth drafod llacio’r cyfyngiadau. Mae'r rhain yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ofal iechyd, fel sicrhau cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer “yr holl weithwyr ar y rheng flaen sydd ei angen”. Hefyd, sonnir am edrych ar “[d]ystiolaeth ryngwladol gadarn ynglŷn ag effaith amrywiol gamau i godi cyfyngiadau ar ledaeniad y feirws” fel ffactor.

Mae’r ail biler yn amlinellu saith egwyddor allweddol gyda chwestiynau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gofyn wrth werthuso’r opsiynau i lacio rhai mesurau, gan gynnwys:

  • A yw’r risg o heintio pellach sydd ynghlwm â’r mesur yn isel?
    • A oes modd rhannu gwybodaeth ynglŷn â graddfa’r cam yn glir er mwyn osgoi dryswch ynglŷn â’i union faint a’i derfynau?
  • A oes modd ei wrthdroi’n gyflym os oes canlyniadau anfwriadol?
    • A oes trefniadau digonol i fonitro effaith y cam?

Mae’r trydydd piler yn tynnu sylw at y ffaith fod angen ymateb iechyd y cyhoedd i gefnogi’r mesurau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau. Mae gwella’r ffordd o gadw golwg ar y sefyllfa er mwyn “monitro lefelau trosglwyddo yn y gymuned” yn un rhan o'r ymateb iechyd cyhoeddus a fydd yn cael ei arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dywed y fframweithiau y bydd camau gweithredu i olrhain cysylltiadau “ar raddfa fawr”, ac “a gynhelir yn ddigidol” ledled Cymru yn cefnogi’r gwaith o gadw golwg ar y sefyllfa.

Canllaw goleuadau traffig

Ar 15 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw goleuadau traffig i symud allan o’r cyfyngiadau. Mae’n cynnwys naw maes gyda phedwar cam sy’n symud o’r cyfyngiadau caeth, i goch, oren a gwyrdd. Mae’r meysydd a nodir yn cynnwys gweld teulu a ffrindiau; teithio yma ac acw; ac ymarfer corff, chwaraeon a gemau.

Nid yw’r canllaw goleuadau traffig yn cynnwys dyddiadau. Mae’r ddogfen yn dweud bod y camau hyn yn “amlinellu camau bras” ac na fydd Cymru’n “symud popeth ar yr un pryd o’r naill gam i’r llall”. Felly, mae’n bosibl y gall un maes fod yn y cam coch a maes arall yn y cam gwyrdd.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi sefydlu “cyfres o wiriadau a fydd yn arwain at ailosod mesurau”. Dywedodd y Prif Weinidog bod y gwiriadau hyn yn cynnwys nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd y coronafeirws a nifer y bobl sydd yn yr ysbyty ac yna’n gorfod mynd i wely mewn uned gofal dwys.

Yn dilyn y trydydd adolygiad o’r rheoliadau, ar 29 Mai cyhoeddodd y Prif Weinidog y gall “aelodau dwy wahanol aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored ar unrhyw adeg benodol. Bydd hyn yn cynnwys cyfarfod mewn ardaloedd preifat yn yr awyr agored, er enghraifft mewn gerddi”. Newidiodd y neges o ‘aros gartref’ i ‘aros yn lleol’ a dylai bobl ddefnyddio “canllaw o bum milltir”. Mae ein herthygl yn amlinellu’r cyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd.

Fframwaith yr Alban ar gyfer gwneud penderfyniadau

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei dull ac egwyddorion ar gyfer gwneud penderfyniadau ar lacio’r cyfyngiadau ar 23 Ebrill 2020.

Mae sawl tebygrwydd rhwng fframweithiau Cymru a’r Alban, fel yr angen am fesurau iechyd cyhoeddus ar y cyd â llacio’r cyfyngiadau. Mae hyn yn cynnwys rhagor o fesurau o ran gwyliadwraeth er mwyn deall ym mhle mae’r feirws a pha mor amlwg ydyw. Mae fframwaith yr Alban hefyd yn nodi bod angen offer digidol er mwyn olrhain cysylltiadau, ond hefyd y byddai angen cefnogaeth weithredol gan y cyhoedd er mwyn gwneud hyn.

Yn wahanol i ddull Cymru, mae fframwaith yr Alban yn dweud ei bod yn rhy gynnar i bennu beth allai’r dull mwyaf diogel ac effeithiol fod, o wneud cymariaethau rhyngwladol. Dywed hefyd y bydd Llywodraeth yr Alban yn asesu rhinweddau teilwra opsiynau i ardaloedd a sectorau penodol, neu rannau o’r economi wledig, neu’r rhai sy’n gallu gweithio yn yr awyr agored. Nid yw hyn yn ymddangos yn Fframwaith Llywodraeth Cymru.

Trywydd yr Alban

Ar 21 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei thrywydd ar gyfer llacio’r cyfyngiadau gan nodi y bydd yn gwneud hynny fesul cam. Bydd pedwar cam yn dilyn cyfnod y cyfyngiadau, tebyg i fframwaith Cymru, ac mae’r camau hyn yn cynnwys naw o feysydd fel gweld teulu a ffrindiau; symud o le i le; a siopa, bwyta ac yfed allan.

Mae Llywodraeth yr Alban, fel Cymru a Gogledd Iwerddon, wedi penderfynu peidio â chynnwys dyddiadau. Mae’r trywydd hefyd yn dweud bod posibilrwydd na fydd popeth sydd wedi’i restru ar hyn o bryd mewn un cam yn digwydd yr un pryd.

Yn dilyn adolygiad statudol o’r cyfyngiadau ar 28 Mai 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban nifer o newidiadau a fyddai’n cael eu rhoi ar waith y diwrnod wedyn, 1 a 3 Mehefin. Roedd hyn yn cynnwys cwrdd ag un aelwyd arall ar y tro. Byddai uchafswm o 8 yn cael cwrdd, ond ni ddylai neb deithio mwy na thua 5 milltir i wneud hynny.

Strategaeth Lloegr ar gyfer adferiad

Ar 11 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun i ailadeiladu ar gyfer byd sy’n byw gyda COVID-19. Er mai cynllun Llywodraeth y DU yw hwn, i Loegr yn unig y mae mwyafrif helaeth y camau yn y ddogfen hon yn berthnasol gan eu bod yn dod o fewn meysydd polisi datganoledig.

Mae’r cynllun yn cynnwys 14 rhaglen ategol er mwyn helpu i ddarparu’r cynllun. Yn yr un modd â fframweithiau Cymru a'r Alban, mae angen i fesurau iechyd fod ar waith, gan gynnwys sicrhau bod yr holl staff yn cael eu hamddiffyn gan y cyfarpar diogelu personol priodol. Caiff pwysigrwydd profi ac olrhain cysylltiadau ei amlygu, trwy ddefnyddio ap COVID-19 newydd y GIG i olrhain cysylltiadau. Dywed y cynllun y byddai’r ap hwn yn rhybuddio defnyddwyr pan fyddant wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun y nodwyd ei fod wedi’i heintio. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi darparu rhagor o wybodaeth am yr ap.

Yn yr un modd â fframwaith yr Alban, mae cynlluniau Lloegr yn dweud y byddant yn ystyried gwahanol gyfyngiadau o fewn y wlad. Dywed y cynllun y gall Llywodraeth y DU addasu cyfyngiadau mewn rhai rhanbarthau cyn rhai eraill oherwydd ni ddylai risg uwch yng Nghernyw arwain at gyfyngiadau anghymesur yn Newcastle os yw’r risg yn is yno.

Cam un

Ar ôl cwblhau adolygiad statudol o'r cyfyngiadau yn Lloegr, ar 10 Mai 2020, dywedodd Prif Weinidog y DU er nad dyma’r amser i ddod â’r cyfyngiadau i ben yn llwyr yr wythnos hon, byddai’n cymryd y camau cyntaf gofalus i addasu’r mesurau. Cafodd cam un o gynllun Llywodraeth y DU ei weithredu yn Lloegr ar 13 Mai 2020. Mae hyn yn cynnwys y newidiadau canlynol:

  • Dylai pob gweithiwr na all weithio gartref deithio i'r gwaith os yw ei weithle ar agor ac yn un o'r sectorau sydd wedi’i ganiatáu i fod ar agor (fel cynhyrchu bwyd, adeiladu, gweithgynhyrchu, ymchwil wyddonol);
  • Gall pobl dreulio amser yn yr awyr agored i gwrdd ag un person o'r tu allan i'w cartref a gallant wneud ymarfer corff gyda'r un person hwn; a
  • Gall pobl yrru i fannau awyr agored waeth beth yw'r pellter.

Ar 28 Mai 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio ymhellach mewn nifer o feysydd gan gynnwys caniatáu i hyd at 6 o bobl gwrdd yn yr awyr agored o 1 Mehefin ymlaen.

Dull Gogledd Iwerddon o wneud penderfyniadau

Ar 12 Mai 2020 cyhoeddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon y dull y bydd yn ei fabwysiadu wrth adolygu'r cyfyngiadau mewn perthynas â’r coronafeirws.

Bydd egwyddorion y Weithrediaeth wrth ystyried newidiadau i'r cyfyngiadau hefyd yn ystyried capasiti’r system gofal iechyd i sicrhau nad yw'n cael ei lethu gan ail don neu don ddilynol o'r pandemig. Mae'r effeithiau ar yr economi a'r gymdeithas yn egwyddorion allweddol hefyd. Yn ogystal â hynny, mae’r ddogfen yn dweud y bydd apiau’n cael eu defnyddio os gallant helpu, ond mae’n dweud na fydd llawer o werth iddynt oni bai bod rhannau helaeth o’r gymdeithas yn eu defnyddio.

Y llwybr at adferiad

Mae dull y Weithrediaeth yn cynnwys llwybr at adferiad sy'n amlinellu chwe adran gyda phum cam i symud ymlaen o'r sefyllfa bresennol. Nid yw'n cynnwys dyddiadau gan y bydd y Weithrediaeth, yn eu geiriau nhw, yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg yn hytrach na chalendr ar bob cam. Mae hyn yn wahanol i gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr sydd wedi rhoi dyddiadau i’r camau nesaf.

Mae'r ddogfen hefyd yn dweud na fydd y camau o reidrwydd yn cael eu rhoi ar waith yr un pryd mewn adrannau gwahanol. Gan hynny, gallai Gogledd Iwerddon fod yng ngham 1 mewn un adran a cham 3 mewn adran arall, sy’n debyg i system goleuadau traffig Cymru.

Ar 18 Mai 2020, cyhoeddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon nifer o newidiadau i’r cyfyngiadau gan gynnwys caniatáu i 6 o bobl o wahanol aelwydydd gwrdd yn yr awyr agored.

Map o’r ffordd ymlaen ar gyfer Gweriniaeth Iwerddon

Mae Gogledd Iwerddon mewn sefyllfa unigryw, gan ei bod yn rhan o’r DU ac yn rhannu ffiniau tir â Gweriniaeth Iwerddon. Dywed y ddogfen sy’n amlinellu’r dull ei bod yn gweithio’n agos ar sail pedair gwlad y DU yn ogystal ag ar sail gogledd/de gyda Llywodraeth Iwerddon.

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Adran Iechyd yn Iwerddon a'r adran gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon. Dywed y ddogfen, gan nad yw’r pandemig yn cydnabod ffiniau, bod achos cryf dros gydweithredu agos, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a, lle bo’n briodol, dull gweithredu cyffredin yn y ddwy awdurdodaeth.

Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi rhoi cyfyngiadau symud tebyg i'r DU ar waith, gyda phobl yn gorfod aros gartref ac ond yn cael gadael y tŷ am resymau cyfyngedig yn unig. Ar 1 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon ei chynllun ar gyfer ailagor y gymdeithas a busnesau. Mae'n cynnwys pum cam, a phob un â dyddiadau ar gyfer pryd y bydd y newidiadau yn dod i rym.

Dechreuodd y cam cyntaf ar 18 Mai 2020 pan, ymhlith pethau eraill, rhoddwyd caniatâd i bobl gwrdd â theulu a ffrindiau o fewn 5 cilometr mewn grwpiau o hyd at 4 o bobl.

Dull pedair gwlad?

Mae'r pedair llywodraeth wedi lleisio eu hawydd am ddull pedair gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai ei dewis “fyddai bod pob un o’r pedair gwlad yn mynd ati i godi’r cyfyngiadau yn yr un ffordd”.

Fodd bynnag, mae pob llywodraeth hefyd wedi dweud y byddant yn dewis eu llwybr eu hunain os bydd angen. Dywedodd Prif Weinidog Cymru “lle mae pethau y mae angen i ni eu gwneud yn wahanol i gyd-fynd ag amgylchiadau Cymru, yna wrth gwrs, byddwn yn gwneud hynny”. Mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi ei bryder y bydd y gwahanol negeseuon sydd gan Gymru a Lloegr yn peri dryswch.

Nid yw gweithio gyda'n gilydd a defnyddio dull cydgysylltiedig yn golygu bod yn rhaid cymryd yr un camau ledled y DU. Mae yna enghreifftiau rhyngwladol lle mae gwledydd eraill yn defnyddio dull rhanbarthol. Er enghraifft, mae Prif Weinidog Sbaen wedi dweud y bydd yn codi cyfyngiadau mewn ffordd anghymesur, fesul rhanbarth, gan nad yw’r pandemig wedi effeithio ar bob rhanbarth yn yr un ffordd. Mae cymhariaeth ryngwladol o gyfyngiadau coronafeirws i’w gweld yn ein herthygl.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.