Coronafeirws: bioamrywiaeth

Cyhoeddwyd 12/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ystod pandemig y coronafeirws, gellid credu bod natur yn dychwelyd. Mae bywyd ar saib. Gan fod llai o geir ar y ffyrdd, mae llai o anifeiliaid yn cael eu lladd ganddynt. Mae cynghorau’n torri gwair yn llai aml, sy’n golygu mwy o flodau gwylltion a mwy o beillwyr, ac mae cadw cathod i mewn yn golygu nad ydynt yn lladd cynifer o anifeiliaid bach. Ac mae geifr mynydd crwydrol Llandudno wedi dod â rhywfaint o ddifyrrwch ac wedi cyrraedd y newyddion yn rhyngwladol.

Fodd bynnag, mae'n rhy gynnar i wybod beth yw gwir effaith y coronafeirws ar fioamrywiaeth.

Bydd amgylcheddwyr yn gobeithio gweld tueddiadau cadarnhaol yn yr Adroddiad nesaf ar Sefyllfa Byd Natur. Ond mae ymgyrchwyr yn rhybuddio rhag camdybio bod natur yn gwella. Gallai’r tarfu ar waith cadwraeth a gostyngiad mewn cyllid gael effaith negyddol ar fioamrywiaeth am flynyddoedd i ddod. Mae'r darlun yn un cymhleth ac, wrth gwrs, bydd yn wahanol drwy’r byd.

Mae'r erthygl hon yn trafod rhai o'r materion ar gyfer bioamrywiaeth yn 2020, sef blwyddyn olaf Degawd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig a hefyd 'Flwyddyn Awyr Agored' Cymru.

Bydd erthygl ar wahân yn ein cyfres ar y coronafeirws yn trafod effaith y pandemig ar newid hinsawdd.

Blwyddyn nodedig ar gyfer adferiad bioamrywiaeth?

Rhagwelwyd 2020 fel 'blwyddyn natur'. Yn adroddiad nodedig y Cenhedloedd Unedig (2019), tynnwyd sylw at yr angen i weithredu ar unwaith i wyrdroi dirywiad digynsail bioamrywiaeth. Mae cadwraeth natur wedi codi ar agendâu llywodraethau. Yn ddiweddar, pennodd Llywodraeth Cymru fioamrywiaeth yn un o'i hwyth maes blaenoriaeth yng ngoleuni adroddiadau, gan gynnwys Sefyllfa Byd Natur 2019 a nododd fod 17 y cant o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.

Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi llesteirio’r ymateb i alwad y Cenhedloedd Unedig i weithredu ar unwaith.

Mae ansicrwydd bellach ynghylch y cyfarfodydd mawr ar gyfer gosod yr agenda amgylcheddol i’r degawd nesaf. Gwneir ymdrechion i sicrhau'r cyfarfodydd hyn yn digwydd, gan gynnwys y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, Cyngres Cadwraeth y Byd a chynhadledd bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig, er i rai ohoynt gael eu gohirio tan 2021.

Beth yw’r effaith ar waith rheoli cynefinoedd?

Mae cyrff anllywodraethol amgylcheddol y DU yn pryderu bod adfer natur yn y DU wedi mynd yn 'anoddach nag erioed' yn ystod y pandemig. Mae’r ffaith bod gwarchodfeydd natur ar gau a’u staff ar ffyrlo yn golygu nad yw cynefinoedd pwysig yn cael eu hadfer.

Mae’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt wedi nodi amryw bryderon wrth i safleoedd beidio â chael eu rheoli:

  • Nid yw gwarchodfeydd gweundir wedi cael eu pori - strategaeth a ddefnyddir i greu brithwaith o amryfal gynefinoedd sy'n cynnal rhywogaethau prin, gan gynnwys troellwyr mawr a ehedyddion, nadroedd llyfn a madfallod y tywod;
  • Rhoddwyd y gorau i gyfrif adar y môr a mamaliaid y môr, ac i fonitro gloÿnnod byw a phlanhigion;
  • Yn absenoldeb gwaith rheoli, mae rhywogaethau estron goresgynnol wedi amlhau, gan greu risgiau i fywyd gwyllt cynhenid;
  • Gallai dolydd blodau gwylltion hanesyddol, a adferwyd trwy glirio prysgwydd, fod dan fygythiad. Gallai pum mlynedd o waith i adfer dolydd Gwarchodfa Natur Cwm Col-huw fod yn ofer bellach; a
  • Gallai’r diffyg gwaith i lanhau traethau arwain at broblemau llygredd, yn enwedig i famaliaid y môr.

Beth am gyllid ar gyfer bioamrywiaeth yn ystod y pandemig?

I gyrff anllywodraethol amgylcheddol, mae rhai prosiectau a ariennir gan grantiau yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi rhewi cyllid grant a’r broses o gymeradwyo hawliadau grantiau. Mae hyn yn cynnwys Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam a Phrosiect Lles yr Afon a Choetiroedd ar gyfer Dŵr.

Mae llawer o gyrff anllywodraethol yn cael incwm gan ymwelwyr â gwarchodfa natur, digwyddiadau codi arian a rhoddion, ond mae'r pandemig wedi effeithio ar bob un o’r rhain. Mae'r diffyg cyllid hwn yn bygwth prosiectau fel y prosiect monitro pathewod yn ne-orllewin Cymru.

Mae cadwraethwyr wedi codi pryderon ynghylch sut y gallai noddwyr ddewis buddsoddi - neu beidio - os bydd dirwasgiad.

Sut mae pobl wedi bod yn ymgysylltu â natur?

A bywyd mor wahanol i’r arfer, mae llawer o bobl yn ymgysylltu â natur. Gwelwyd ciwiau hir y tu allan i ganolfannau garddio yng Nghymru wrth iddynt ailagor. Yr wythnos hon, mae compost yr un mor anodd i gael hyd iddo â blawd, ac mae’r penawdau wedi sôn am y mynd mawr ar blanhigion plannu allan. Mae'n ymddangos bod y pandemig wedi arwain at dwf byd-eang mewn garddio.

Mae'r duedd hyd yn oed wedi cael ei chymharu ag ymgyrch gerddi buddugoliaeth yr Ail Ryfel Byd, wrth i bobl dyfu eu bwyd eu hunain. Amser a ddengys a fydd y cynnydd mawr hwn mewn garddio yn parhau ac yn gwella bioamrywiaeth.

Oherwydd y cyfyngiadau ar deithio, mae pobl yn crwydro eu lleoedd gwyrdd lleol, gan sylwi'n frwd ar ganu’r adar mewn dinasoedd di-draffig ledled y byd.

Ffotograff o bobl yn garddio

Mae llawer yn cael cysur ym myd natur, ond mae eraill yn cyflawni gweithgareddau anghyfreithlon tra bo llai o orfodaeth amgylcheddol oherwydd diffyg staff neu ddiffyg arian.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn mynd i’r afael â physgota anghyfreithlon ac mae wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiadau amgylcheddol eraill, gan gynnwys difrod i gynefin llygod y dŵr yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn.

Mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt wedi datgan bod fandaliaeth amgylcheddol wedi digwydd ar eu safleoedd lle nad oes neb yn gofalu amdanynt.

Yn y cyfamser mae'r RSPB ‘dan ei sang’ gydag adroddiadau ynghylch lladd adar yn anghyfreithlon, megis bodaod tinwyn, hebogiaid tramor, bwncathod a barcutiaid coch. Mae Grŵp Cyflawni'r Flaenoriaeth i Atal yr Erlid ar Adar Ysglyfaethus wedi dweud ei bod yn ymddangos bod y cyfyngiadau symud wedi cael eu gweld gan rai fel golau gwyrdd i ladd adar yn anghyfreithlon.

Ymhellach i ffwrdd cafwyd adroddiadau bod cynnydd mewn potsio. Mae Charlie Gardener o Brifysgol Caint wedi amlygu’r ffaith nad oes gan ddinasyddion llawer o wledydd incwm isel gefnogaeth gan eu llywodraethau, sy’n golygu eu bod yn agored i niwed. Dywed fod llawer yn gweld manteisio ar adnoddau naturiol yn y coedwigoedd a'r cefnforoedd yn fel rhwyd ddiogelwch.

Beth yw’r effaith ar ymchwil ecolegol?

Yn fyd-eang, mae gweithwyr maes yn gorfod rhoi eu hesgidiau gwaith i gadw. Mae Perspectives gan Nature Conservancy yn tynnu sylw at sut mae casglu data amgylcheddol wedi dod i stop. Mae prifysgolion ar gau, sy’n golygu na ellir gwneud gwaith labordy. Mae llawer o Brifysgolion Cymru yn wynebu risg ariannol oherwydd iddynt golli ffioedd dysgu, yn enwedig gan fyfyrwyr tramor.

Mae ecolegwyr wedi awgrymu bod y pandemig yn deillio o driniaeth ddynol o anifeiliaid gwyllt. Mae Dr Diogo Veríssimo o'r grŵp ymgyrchu On The Edge Conservation wedi dweud:

It's about our relationship with nature, and how we have now put animals in contexts and situations where these types of diseases are more likely to not only cross species within wildlife but also cross to humans.

O ganlyniad, mae golygydd ar gyfer y Journal of Applied Ecology yn gofyn sut y gallai’r coronafeirws ddylanwadu ar gyfeiriad ymchwil ecolegol gymhwysol. Gallai ymchwil i afiechydon, effeithiau rhywogaethau goresgynnol a masnach bywyd gwyllt mewn perthynas ag iechyd pobl fod yn bynciau sy'n cael mwy o sylw yn y blynyddoedd i ddod.

Mae ecolegwyr eisoes yn dadlau y bydd cynyddu bioamrywiaeth yn allweddol i'n diogelu rhag pandemigau yn y dyfodol; mae amrywiaeth ehangach o rywogaethau yn atal rhywogaethau unigol rhag ymledu, a thrwy hynny drosglwyddo afiechydon i fodau dynol. A allai adferiad gwyrdd egino o'r cysylltiad hwn?

Adferiad gwyrdd?

Bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben rywbryd. Ond a fydd bywyd yn dychwelyd i normal? Mae grwpiau gwyrdd yn ymgyrchu dros adferiad gwyrdd.

Mae’r Athro Paul Chatterton o Brifysgol Leeds yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl mewn lleoliadau trefol yn ystod y cyfyngiadau symud wedi dod yn fwy ymwybodol cyn lleied o leoedd gwyrdd sydd ganddynt ar stepen y drws. Mae'n dal bod angen i leoedd cyhoeddus gwyrdd amrywiol, sy’n sail i lesiant, fe gredir, gael eu hehangu'n sylweddol mewn polisïau trefol fel y gall pobl ymgynnull a gwella ar ôl trawma'r profiad hwn. Dywed:

Neighbourhood design inspired by nature can support this. Interweaving the places we live with extensive natural spaces linked to active travel opportunities can reduce car dependency, increase biodiversity and create options for meaningful leisure on our doorsteps. They can also incorporate local food production and features to cope with flooding, such as sustainable urban drainage and water gardens, further increasing future crisis resilience.

Yn ogystal â chynllunio trefol, mae RSPB Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfau cryfach i warchod yr amgylchedd, yn enwedig cynefinoedd sensitif fel coetiroedd, mawndiroedd, glaswelltiroedd lled-naturiol a dolydd morwellt. Dywed y dylid blaenoriaethu cyllid ychwanegol i adfer cynefinoedd wrth i Gymru ymateb i'r pandemig, ac mae wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt ar gyfer adferiad gwyrdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Atodol, yn dangos sut y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn ystod yr argyfwng a wedyn. Mae cynnydd dros 10 y cant yn ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol - dyrennir £2.4 biliwn i gefnogi ymateb Cymru i’r coronafeirws. Mae gostyngiadau ym mhortffolio’r Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gan gynnwys gostyngiad gwerth £900,000 ar gyfer bioamrywiaeth a £7.58 miliwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, deil Llywodraeth Cymru na 'fwriedir i’r gostyngiadau hyn felly effeithio ar gyflawni ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r dirywiad yn ecosystemau Cymru.'

Cyn y gyllideb, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol y dylid dyrannu adnoddau fel y gellir adfer cynefinoedd naturiol Cymru, gyda choridorau gwyrdd yn cysylltu’r wlad a mwy o fuddsoddiad yn y goedwig genedlaethol newydd sy’n cael ei phlannu.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod dwy gronfa newydd yn cael eu hagor i helpu pobl i greu lleoedd ar gyfer natur yn eu cymunedau nhw, unwaith y bydd y pandemig wedi mynd heibio yng Nghymru.

Sut y gallwn ni barhau i ymgysylltu â natur yn ystod y cyfyngiadau symud?

Er bod y cyfnod cyfyngiadau symud yn para, mae llawer o grwpiau amgylcheddol wrthi o hyd yn rhannu ffyrdd newydd o ymgysylltu â'r byd naturiol.

Mae'r RSPB yn annog y cyhoedd i gysylltu rhwng 08.00 a 09.00 yn ystod yr wythnos, gan ddefnyddio'r hashnod #BreakfastBirdwatch, i rannu beth maen nhw'n ei weld yn eu gerddi neu eu mannau gwyrdd lleol.

Mae’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn rhoi cynnwys newydd ar eu Sianel YouTube, 'Wildlife Watch' bob wythnos. Hefyd, mae ''30 Days Wild'', sef eu her ar gyfer mis Mehefin, yn annog pobl i wneud gweithredoedd gwyllt er budd eu hiechyd, eu llesiant a’r blaned.

Mae Cymdeithas Ecolegol Prydain yn darlledu sgyrsiau ar-lein am ddim ar yr ymchwil ecolegol ddiweddaraf ac mae’n trefnu rhaglenni dysgu digidol.


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.