Coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r brîff ymchwil hwn yn archwilio cyflwr presennol coetiroedd Cymru, pwy sy'n berchen arnynt ac yn eu rheoli a sut maent yn newid. Mae'n rhoi trosolwg o'r gwasanaethau ecosystem y mae coetiroedd yn eu darparu ac yn nodi eu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl. Daw i ben drwy nodi’r cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a'i pholisïau, gyda'r nod o arwain dyfodol coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru.

1.	Ffigur ystadegau allweddol ar goetiroedd yng Nghymru: gwerth ychwanegol crynswth o £665 miliwn; mae 11,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector; fe wnaeth 77% o ymatebwyr yng Nghymru ymweld â choetir am resymau hamdden yn 2019; mae 1.84 miliwn tunnell o CO2e yn cael ei ddal a’i storio bob blwyddyn gan goetiroedd; mae 210 o'r 542 o rywogaethau sydd o'r pwys mwyaf ar gyfer bioamrywiaeth yng Nghymru yn dibynnu ar gynefinoedd coetir.

 

2.	Ffigur o ystadegau allweddol ar arwynebedd coetiroedd Cymru: mae coetir yn gorchuddio 15% neu 309,000 hectar o Gymru (49% conwydd, 51% llydanddail; 31% yn hynafol; 40% yn cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru). Y gyfradd blannu ar gyfartaledd am y degawd diwethaf oedd 430 hectar y flwyddyn, yn erbyn targed o 5,000 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

3.	Ffigur yn dangos tuedd o ddirywiad o ran plannu blynyddol yng Nghymru (o 3,720 hectar ym 1971 i 80 hectar yn 2020) a’r cyfraddau ailstocio mwy cyson yng Nghymru (1,120 hectar ym 1971 a 1,500 hectar yn 2020).

Erthygl gan Thomas Mitcham ac Aoife Mahon, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Thomas Mitcham gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.