Cenedl Noddfa: Cymru ac Affganistan

Cyhoeddwyd 08/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/09/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 29 Awst, addawodd 98 talaith i gynorthwyo pobl sy'n ceisio ffoi o Affganistan.

Cytunodd y DU i adsefydlu 5,000 o bobl yn y flwyddyn gyntaf ac 20,000 yn y blynyddoedd i ddod. Ystyrir mai menywod a genethod sydd fwyaf mewn perygl, a chânt hwy eu blaenoriaethu.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am fewnfudo, ond caiff ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n dod i Gymru wasanaethau cyhoeddus a chefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.

Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru yn dod yn 'Genedl Noddfa' gyntaf y byd; sef cynllun a ardystiwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen “ymateb Cymreig unigryw” bellach.

Mae'r erthygl hon yn amlinellu beth allai goblygiadau argyfwng Affganistan fod i Gymru, ac mae’n crynhoi'r ymateb hyd yma.

Cyfrifoldebau rhyngwladol

Mae gan y DU gyfrifoldebau cyfreithiol rhyngwladol i amddiffyn ffoaduriaid. Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'r rhwymedigaethau hyn yn ôl y setliad datganoli.

Ochr yn ochr â’r 148 o wledydd eraill, mae'r DU yn rhan o’r Confensiwn Ffoaduriaid 1951, sef cytundeb byd-eang a oruchwylir gan y Cenhedloedd Unedig.

The core principle is non-refoulement, which asserts that a refugee should not be returned to a country where they face serious threats to their life or freedom.

Mae’r DU hefyd yn rhan o gytuniadau eraill sy’n amddiffyn ffoaduriaid, fel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru yn egluro sut y bydd yn sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol.

Ffoadur neu geisiwr lloches?

Mae’r Confensiwn Ffoaduriaid yn diffinio ‘ffoadur’ a ‘cheisiwr lloches’ fel a ganlyn:

Ceisiwr lloches

Rhywun sydd wedi croesi ffin ryngwladol i chwilio am ddiogelwch ond nad yw ei gais am statws ffoadur wedi’i benderfynu. Hyd y bydd yn clywed y penderfyniad ynghylch a yw’n ffoadur ai peidio, gelwir y person hwn yn geiswiwr lloches.

Ffoadur

Rhywun sydd y tu allan i’w wlad, y mae ganddo ofn erledigaeth gwirioneddol ar sail ei hil, ei grefydd, ei genedl, ei aelodaaeth o grŵp cymdeithasol neu farn wleidyddol benodol. Mae’n amharod neu yn analluog i ddychwelyd yno, oherwydd ofn cael ei erlid.

Nid oes gan geiswyr lloches a ffoaduriaid yr un statws yn y DU. Er enghraifft, ni all ceiswyr lloches weithio na hawlio budd-daliadau, ond fe all ffoaduriaid wneud hynny.

Bydd pobl sy'n cyrraedd o Affganistan drwy lwybrau adsefydlu y DU, a sefydlwyd mewn ymateb i’r argyfwng, yn cael eu hystyried yn ffoaduriaid. Caiff y bobl sy’n cyrraedd drwy ffyrdd amgen i’r llwybrau adsefydlu wneud cais am loches.

Datganoli: pwy fydd yn cyflawni beth?

Cytunodd Prif Weinidog y DU i gynnal uwchgynhadledd pedair gwlad i gydlynu ymateb y DU i argyfwng Affganistan. Nid yw manylion yr uwchgynhadledd wedi'u cyhoeddi eto.

Bydd y rhai sy'n cyrraedd o Affganistan yn cael gwahanol fathau o gefnogaeth gan y DU a’r llywodraethau datganoledig. Defnyddiwch y cwymplenni hyn i gael rhagor o wybodaeth.

Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dau gynllun ar gyfer pobl sy'n ffoi o Affganistan:

  1. Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP). Mae ARAP, neu 'Operation Warm Welcome', yn gymwys i Affganiaid sydd wedi gweithio'n agos gyda milwyr o Brydain a Llywodraeth y DU yn Affganistan.
  2. Mae'r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan yn gymwys i ddinasyddion Affganistan yr ystyrir eu bod yn y perygl mwyaf o gam-driniaeth o ran eu hawliau dynol a thriniaeth ddad-ddyneiddiol gan y Taliban, gan gynnwys menywod a genethod. Nid yw'r cynllun hwn yn agored eto, a chyfyngedig yw’r wybodaeth sydd ar gael amdano.
Llywodraeth Cymru

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n dod i Gymru yn cyrchu gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, fel gofal iechyd ac addysg.

Mae aros o hyd am ragor o fanylion am gynlluniau adsefydlu Llywodraeth y DU, y mae Llywodraeth Cymru yn nodi a fydd yn ei galluogi hi i gynllunio a chefnogi pobl sy’n cyrraedd o Affganistan yn well.

Yn ychwanegol at y gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru hefyd mae ei Gwefan noddfa, cyngor cyfreithiol am ddim a mynediad dros dro at y rhyngrwyd ar gael.

Affganistan: “ymateb Cymreig nodedig”

Ni wyddys eto faint o ffoaduriaid o Affganistan fydd yn cael eu hadsefydlu yng Nghymru.

Nododd rhanddeiliaid wrth y BBC ar 26 Awst eu bod yn disgwyl y bydd Cymru yn derbyn rhwng pump a saith y cant o ffoaduriaid y DU, ond pwysleisiwyd nad yw'r nifer yn hysbys.

Cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ddatganiad ar 26 Awst yn amlinellu ymateb Cymreig unigryw i wacáu Affganistan, gydag awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio’n “galed iawn i sicrhau ein bod yn chwarae rhan lawn” yn ymateb y DU.

Mae’r datganiad yn esbonio:

  • Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi nodi y gallant gynnig eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar WalesOnline.
  • Cyfarfu’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â rhanddeiliaid i drafod y gefnogaeth y gall Cymru ei chynnig, gan adeiladu ar y gefnogaeth a gynigwyd yn flaenorol yn ystod argyfwng ffoaduriaid Syria. Rhoddodd y BBC sylw i’r sgyrsiau a gynhaliwyd ar 26 Awst.
  • Hyrwyddodd y Gweinidog linellau cymorth, gan gynnwys llinellau cymorth iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i addo ei hymrwymiad i helpu mewn unrhyw ffordd y gall, ac i ofyn am eglurder ar frys ar nifer o faterion pwysig, gan gynnwys rhagor o eglurder ynghylch trefniadau cynllunio.

Deddfwriaeth y DU

Efallai y bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y DU, sydd ar ei hynt drwy Senedd y DU, yn effeithio ar Affganiaid sy'n cyrraedd y DU drwy ffyrdd gwahanol i’r llwybrau adsefydlu a ddisgrifir uchod.

Mae sefydliadau dyngarol a seneddwyr wedi codi pryderon y gallai'r Bil gael ei ddefnyddio i beri bod y rhai sy'n cyrraedd y DU heb ganiatâd yn troseddu.

Rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig bod y Bil yn ‘bygwth” hawl i loches Affganiaid sy'n cyrraedd y DU yn ddigymell. Roedd y Cenhedloedd Unedig yn flaenorol wedi’u “tristáu” o ddeall bod y Bil wedi pasio cyfnod ei ail ddarlleniad yn Senedd y DU.

Ar 17 Mehefin, rhoddodd Llywodraeth Cymru wybod ei bod yn bwriadu sicrhau bod Llywodraeth y DU yn “deall ein barn yn llawn” o ran ei chynlluniau mewnfudo newydd.

Y camau nesaf

Ar adeg ysgrifennu, mae ymatebion y DU a Chymru i'r argyfwng yn ddim ond dau o lawer o ddarnau symudol.

Mae sawl cwestiwn yn parhau heb eu hateb, fel, faint o ffoaduriaid fydd yn cael eu hadsefydlu yng Nghymru a sut y bydd llywodraethau'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth.

Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog wedi pwysleisio bod yn rhaid i Gymru “wneud y cwbl allwn ni i sicrhau bod cyfieithwyr, ffoaduriaid a'u teuluoedd yn gallu bod yn ddiogel a chael croeso yma”. Mae hi wedi addo rhoi diweddariad i'r Senedd ym mis Medi.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru