Canllaw hwylus i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Cyhoeddwyd 18/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ei phasio gan Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020. Cafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.

Diben datganedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Ddeddf fel y’i nodwyd yn ei Memorandwm Esboniadol yw ‘rhoi ffyrdd newydd i lywodraeth leol gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau’ ac 'adfywio democratiaeth leol yng Nghymru'.

Mae'r Ddeddf yn gwneud newidiadau i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant. Darpariaeth allweddol yn y Ddeddf yw estyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio yng Nghymru yn gyfreithlon. Mae'r newid hwn yn yr etholfraint yn adlewyrchu'r darpariaethau yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sy'n estyn hawliau pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd.

Mae'r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o'r darpariaethau allweddol yn y Ddeddf.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru