Brexit a phrifysgolion a cholegau Cymru: beth yw'r heriau, ac a oes unrhyw gyfleoedd?

Cyhoeddwyd 22/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2020   |   Amser darllen munudau

'Mae Brexit yn creu heriau a chyfleoedd gwahanol ym mhob un agwedd ar fywyd yng Nghymru,’ meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog.

Mae'r erthygl hon yn ystyried rhai o’r cyfleoedd a'r heriau sy’n wynebu prifysgolion a cholegau wrth i‘r Deyrnas Unedig barhau â’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'n cyd-fynd ag ymchwiliad presennol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Brexit. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, cynhaliwyd digwyddiad i randdeiliaid ar 4 Gorffennaf 2018 yng Nghaerdydd. Pentwr bach o werslyfrau generig.

Myfyrwyr a staff

Mae staff a myfyrwyr sy’n dod o’r UE i’r DU yn awr yn gwneud hynny o dan y fframweithiau tegwch o ran symudiad pobl (PDF: 1,340KB) . Mae rheolau mewnfudo gwahanol yn berthnasol i staff a myfyrwyr rhyngwladol eraill.

Nid yw'n glir eto beth fydd y rheolau mewnfudo yn y dyfodol, ond mae Canllawiau Llywodraeth y DU yn awgrymu system sy'n cyfyngu mwy ar ddinasyddion yr UE.

Mae prifysgolion Cymru (PDF 282KB) yn dadlau y byddai hyn yn debygol o arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd, ac y byddai hynny’n effeithio er gwaeth ar brofiadau myfyrwyr a staff.

Mae Prifysgol Caerdydd (PDF 348KB) yn awgrymu y gallai'r gostyngiad fod cymaint â 80-90% o nifer bresennol y myfyrwyr israddedig sy’n dod o’r UE ar hyn o bryd.

Faint o fyfyrwyr a staff o’r UE sydd yng Nghymru?

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2016/17, roedd 6,235 o fyfyrwyr o’r UE wedi cofrestru ar gwrs addysg uwch yng Nghymru o'u cymharu â 5,500 yn 2012/13.

Nid oedd prin ddim dim myfyrwyr o’r UE wedi cofrestru ar gyrsiau addysg bellach yn 2016/17.

Mae’r data diweddaraf am dderbyn myfyrwyr (PDF 348KB) yn dangos, hyd yma, y bu cynnydd o 2%, ers 2017, yn nifer y myfyrwyr o’r UE sydd wedi gwneud cais am le mewn sefydliadau addysg uwch yn 2018. O ran sefydliadau yng Nghymru, fodd bynnag, mae nifer y myfyrwyr o’r UE sydd wedi gwneud cais 9% yn is nag ydoedd yn 2017.

Mae’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o’r UE sydd wedi gwneud cais am le yn un o sefydliadau Cymru yn cyd-daro â’r drefn newydd o godi ffioedd dysgu llawn ar fyfyrwyr o’r UE, o ganlyniad i Adolygiad Diamond.

Mae nifer sylweddol o staff prifysgolion Cymru yn dod o'r UE ac mae Prifysgolion Cymru yn datgan bod 1,355 o staff (PDF 282KB) o'r UE yn gweithio ym Mhrifysgolion Cymru yn 2015/16. Mae'n amcangyfrif bod hynny’n cyfateb i dros 10% o weithlu prifysgolion Cymru.

Beth am fyfyrwyr rhyngwladol eraill?

Mae mwy na dwywaith mwy o fyfyrwyr rhyngwladol o wledydd o’r tu allan i’r UE wedi'u cofrestru ar gwrs addysg uwch yng Nghymru o'u cymharu â myfyrwyr o’r UE. Yn 2016/17 roedd 14,970 o fyfyrwyr rhyngwladol o wledydd o’r tu allan i’r UE yn astudio yng Nghymru. Mae hyn yn fwy na 11% o gyfanswm nifer y myfyrwyr a oedd wedi'u cofrestru ym mhrifysgolion Cymru.

Cyllid ar gyfer ymchwil prifysgol

Yn 2015/16 nododd prifysgolion Cymru (PDF 348KB) eu bod wedi cael cyfanswm o £209 miliwn o grantiau a chontractau ymchwil ac, o’r rhain, daeth 12% (£25 miliwn) o ffynonellau’r UE. Mae hyn yn cymharu â’r 35% (£73 miliwn) a gawsant gan Gynghorau Ymchwil a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Un o ffynonellau’r UE sy’n rhoi cyllid ymchwil i brifysgolion Cymru yw rhaglen ymchwil Horizon 2020, gwerth € 70 biliwn, sy'n rhedeg o 2014 i 2020.

Fel y nodwyd mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru (PDF 2,671KB), hyd at fis Medi 2017, roedd Cymru wedi cael €83 miliwn drwy’r rhaglen, a dyrannwyd 66% o’r swm hwn i brifysgolion.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen (PDF 169KB) sydd, meddai, yn egluro i ba raddau y mae’r DU yn gymwys i gymryd rhan yn rhaglen Horizon 2020. Yn yr adroddiad, mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y trafodaethau hyd yma’n awgrymu y bydd y ffrwd cyllido o’r UE yn parhau yn ystod oes y prosiect, ac y bydd y DU yn gallu gwneud cais am gyllid gan Horizon 2020 tra bydd y rhaglen yn parhau, gan gynnwys ar ôl i’r DU adael yr UE.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi nodi mai eu nod yw manteisio ar raglen olynol Horizon 2020, sef Horizon Ewrop.

Bydd Horizon Ewrop ar waith rhwng 2021 a 2027 ac mae'n werth €100 biliwn. Mae cynigion diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd yn awgrymu y gallai'r DU fanteisio ar raglen Horizon Ewrop fel "trydedd wlad" (PDF 656KB).

Mae nifer o brifysgolion, fel Prifysgol Caerdydd, hefyd yn pryderu (PDF 348KB) am faterion y tu hwnt i gyllid, gan sôn am y modd y bydd Brexit yn amharu ar rwydweithiau ymchwil a chydweithrediad rhwng sefydliadau ac ymchwilwyr.

Ennill mwy o gyllid ymchwil

Mae prifysgolion Cymru hefyd yn cael cyllid ymchwil ac arloesi gan y DU a hynny drwy gorff o’r enw United Kingdom Research and Innovation (UKRI). Mae gan y corff hwn gyllideb flynyddol gyfunol o dros £6 biliwn a gall prifysgolion gystadlu amdano.

Fel y soniodd yr Athro Reid, awdur yr Adolygiad (PDF 4,120KB) a gynhaliwyd yn ddiweddar i ymchwil a ariennir gan Lywodraeth y DU, nid oes dim rheolau ar gyfer gosod terfyn ar faint o'r £6 biliwn y gallai prifysgolion Cymru ei ennill. Dywed:

Mae’r gyllideb gynyddol yn UKRI bellach yn cynnig cyfleoedd pwysig i fusnesau a phrifysgolion yng Nghymru [...].Nid oes terfyn ar gyfran cyllid UKRI y gellir ei hennill [ond] dim ond y cystadleuwyr cryfaf a fydd yn ennill.

Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd

Mae cyllid ar gael hefyd gan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ESF) Mae Prifysgolion Cymru (236 KB) a CholegauCymru (PDF 258KB), sef y cyrff sy’n cynrychioli prifysgolion a cholegau Cymru, yn y drefn honno, o’r farn bod angen dod o hyd i ffynhonnell cyllid arall yn lle cyllid strwythurol yr UE fel mater o flaenoriaeth.

Mae'n hawdd gweld pam.

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn cynhyrchu Rhestr o Brosiectau wedi’u Cymeradwyo ac mae hon yn dangos bod 42 o brosiectau yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Nodir bod cyfanswm o £281 miliwn wedi’i ddyrannu i’r rhain o gronfeydd yr UE. Gyda chyllid cyfatebol, mae'r prosiectau hyn yn werth bron hanner biliwn o bunnoedd rhwng 2014 a 2023.

Yn ogystal â hyn, mae, ColegauCymru (PDF 1085KB) wedi cynhyrchu adroddiad sy’n dangos faint o gyllid Ewropeaidd y mae’r colegau’n manteisio arno, gan gynnwys y Cynllun Erasmus +.

Yn ôl yr adroddiad, ers 2000, mae colegau wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a mentrau a ariannwyd gan yr UE ac, at ei gilydd, mae’r rhain yn werth £594 miliwn, ac mae £ 124 miliwn o’r swm hwn wedi’i ddyrannu ar gyfer y cyfnod 2014-2020.

Syniadau ar gyfer y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru (PDF 1,782KB) a Llywodraeth y DU wedi nodi'r hyn y maent yn credu yw’r gwendidau yn y model ESF presennol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld cyfle i gryfhau ffocws strategol prosiectau, dileu ffiniau artiffisial a 'symleiddio rheolau a chymhlethdod gweinyddol '.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi (PDF 169KB) Cronfa Ffyniant i Bawb (rhaglen fuddsoddi ddomestig) ond ychydig iawn o fanylion ychwanegol sydd ar gael ar sut y byddai’n gweithredu.

Ansicrwydd

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn datgan (PDF 434KB) bod y sector yn wynebu cryn dipyn o ansicrwydd wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae eraill hefyd yn cyfeirio at gyfleoedd i ddod o hyd i ffynonellau cyllido eraill, neu hyd yn oed i greu cyllid, i newid y cynnig i fyfyrwyr o’r UE / myfyrwyr rhyngwladol yn y dyfodol, ac i barhau i gymryd rhan mewn rhaglenni y mae'r sectorau'n ystyried yn allweddol fel Horizon Ewrop ac Erasmus +, er mai fel ‘trydedd wlad’ y byddai’n gwneud hynny.

Fodd bynnag, gan na fydd cytuneb ar ddim nes bydd cytundeb ar bopeth (PDF 475KB), gan na chafwyd ymrwymiad pendant eto gan Lywodraeth Cymru i ariannu holl argymhellion Adolygiad Reid yn llawn, a chan mai prin yw’r manylion presennol am drefniadau mewnfudo yn y dyfodol ac am ddyfodol buddsoddiad rhanbarthol, mae'r ansicrwydd yn y sectorau yn debygol o barhau am gyfnod eto.


Erthygl gan Phil Boshier, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru