Blog Wythnosol newydd yr UE

Cyhoeddwyd 11/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Ionawr 2016 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Croeso i flog wythnosol newydd yr UE gan Swyddfa Brwsel y Cynulliad. Y nod yw rhoi ciplun o'r datblygiadau allweddol ar agenda yr UE (ym Mrwsel a gartref) sydd fwyaf perthnasol i Gymru. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol - os bydd, byddwn yn parhau i'w gynhyrchu! Yr wythnos hon, busnes fel arfer ydyw i sefydliadau'r UE ar ôl toriad y Nadolig. Yn y flwyddyn newydd, newidiodd Llywyddiaeth Cyngor yr UE, fel sy'n digwydd bob chwe mis. Mae’r Iseldiroedd wedi cymryd yr awenau oddi wrth Lwcsembwrg, ac mae ei Rhaglen Lywyddiaeth "yn canolbwyntio ar yr hanfodion, Undeb sy'n canolbwyntio ar dwf a swyddi drwy arloesi, ac Undeb sy'n cysylltu â'r ymdeithas sifil". Mae pedwar maes blaenoriaeth y Llywyddiaeth yn dangos parhâu â blaenoriaethau 2015 i raddau helaeth: (i)Ymfudo a diogelwch rhyngwladol (ii) Ewrop fel arloeswr a chrëwr swyddi (iii) Cyllid cadarn ac ardal yr ewro gadarn (iv) Polisi hinsawdd ac ynni blaengar. Mae gan Lywyddiaeth newydd yr Iseldiroedd le amlwg ar agendâu'r pwyllgorau sy'n cyfarfod yn Senedd Ewrop yr wythnos hon, gyda sawl Comisynydd hefyd yn ymddangos, gan gynnwys y Comisiynydd ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd ac Ynni, i drafod canlyniad y trafodaethau COP21 ym Mharis ym mis Rhagfyr, a'r Comisiynydd Polisi Rhanbarthol i drafod Polisi Cydlyniant. Mabwysiadodd y Pwyllgor ENVI ei Adroddiad ar adolygiad canol tymor Strategaeth Fioamrywiaeth yr UE mewn cyfarfod ar 22 Rhagfyr 2015 - disgwylir i Benderfyniad gael ei fabwysiadu ym mis Chwefror yn y sesiwn yn y cyfarfod llawn ar yr adroddiad hwn. Hefyd, cynhaliodd ENVI sesiwn cyfnewid barn gyda Chomisiynydd Amgylchedd Vella ar y pecyn o gynigion ynghylch Economi Gylchol, a gyhoeddwyd ddechrau mis Rhagfyr. Cafwyd Cytundebau Cyfaddawd cyn y Nadolig yn y trafodaethau tairochrog (rhwng Llywyddiaeth yr UE, Senedd Ewrop a'r Comisiwn) ar sawl darn o ddeddfwriaeth ddrafft, gan gynnwys: Iechyd Planhigion; Bridio Anifeiliaid; a diwygio Diogelu Data yr UE. Mae Cyngor ECOFIN hefyd yn cyfarfod yr wythnos hon a bydd yn trafod blaenoriaethau Llywyddiaeth yr Iseldiroedd, gweithredu’r Undeb Bancio, yn ogystal â mabwysiadu canlyniadau’r Arolwg Twf Blynyddol, gan nodi dechrau cylch blynyddol semestrau Ewrop. Mae agenda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r UE (gweler hefyd Blog 1 a Blog 2 o Bigion am fwy o wybodeath) wedi cael sylw mawr yn y newyddion yn sgil y Cyngor Ewropeaidd ar 17-18 Rhagfyr, gyda nifer o erthyglau ar ymatebion i'r uwhgynhadledd. Roedd y Prif Weinidog, Mr Cameron ym Mafaria'r wythnos diwethaf; cyfarfu â gwleidyddion uchel-radd o Blaid yr Undeb Cymdeithasol Cristnogol, a chafodd y Guardian gyfweliad â Manfred Weber, Cadeirydd y EPP yn Senedd Ewrop - yr EPP, wrth gwrs, yw'r blaid fwyafrifol o'r rhai a gynrychiolir yn y Cyngor Ewropeaidd. Mae menter y DU mewn Ewrop sy'n Newid wedi cyhoeddi nifer o flogiau yn yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys blog yr wythnos diwethaf gan Dr Jo Hunt a Dr Rachel Minto o Ysgol y Gyfraith Caerdydd ar ymgysylltu gan y Cenhedloedd Datganoledig yn yr agenda ddiwygio'r UE (bydd Dr Minto yn cynnal sesiwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am agenda ddiwygio'r UE i swyddogion y Cynulliad ar 18 Ionawr; trefnwyd y swesiwn gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru). Nid oes amheuaeth na fydd trafod ar y materion hyn ac eraill yn Nadl y Sefydliad Materion Cymreig 'Europe: In or Out?' rhwng y Prif Weinidog Carwyn Jones AC ac arweinydd UKIP Nigel Farage ASE heno. Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd nifer o ymgynghoriadau newydd dros y Nadolig, gan gynnwys: (i) profiadau o ran rhwymedigaethau gwyrddio yng nghynllun taliadau uniongyrchol PAC (yn cau ar 8 Mawrth); (ii) adolygiad o'r Strategaeth Anabledd Ewropeaidd 2010-2020 (yn dod i ben ar 18 Mawrth); a chydweithredu rhwng yr UE a'r UD o ran e-Iechyd/TG Iechyd (yn dod i ben ar 15 Mawrth). Mae Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad i fod i drafod, mewn sesiwn breifat, yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i Ddatblygu Potensial yr Economi Forol. Yn olaf, heddiw, bydd Lucas Leblanc yn ymweld â'r Swyddfa UE ym Mrwsel (a swyddfa Dr Kay Swinburne ASE y prynhawn yma). Myfyriwr yng Ngholeg William a Mary yn Virginia, UDA ydyw, ac roedd yn intern gyda David Melding AC yn ystod yr haf a'r hydref. Bydd Lucas yn mynd ar interniaeth yn Swyddfa Senedd Ewrop yn Washington pan ddychwel i'r Unol Daleithiau yn ddiweddarach y mis hwn. Lincs defnyddiol: Ystafell Newyddion Europa (datganiadau i'r wasg; manylion pob cynnig newydd) Pwyllgorau Senedd Ewrop (manylion cyfarfodydd, agendâu ac ati) Senedd Ewrop y DU (cynrychiolaeth yn Llundain a Chaeredin) Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (datganiadau i'r wasg ac ati) Y DU mewn UE sy'n Newid (Prosiect ESRC i hysbysu'r cyhoedd cyn y refferendwm ar yr UE - yn cynnwys Ysgol y Gyfraith Caerdydd) Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddEurope View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg