Blog Wythnosol newydd yr UE (25/01/2016)
Cyhoeddwyd 25/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
25 Ionawr 2016
Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae blog Wythnosol yr UE yn rhoi ciplun o'r datblygiadau allweddol ar agenda yr UE (ym Mrwsel a gartref) sydd fwyaf perthnasol i Gymru.
Yr wythnos hon bydd pwyllgorau yn cyfarfod yn Senedd Ewrop ym Mrwsel. Bydd y Semester Ewropeaidd a thrafodaethau ar yr Arolwg Twf Blynyddol yn cael eu cynnwys yn nifer o Bwyllgorau, tra bydd Pwyllgor y Gyllideb yn ystyried paratoi ar gyfer yr adolygiad o'r Fframwaith Ariannol Aml-flynyddol ar gyfer 2014-2020. Bydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth yn ystyried y cynigion Cyfraith Iechyd Anifeiliaid, yn dilyn y Cyngor yn cytuno ei sefyllfa gyffredin ym mis Rhagfyr, a disgwylir y bydd y cyfarfod llawn yn cynnal ail ddarlleniad ar y cynigion ym mis Chwefror.
Nid oes unrhyw gyfarfodydd ffurfiol o'r Cyngor i'w nodi'r wythnos hon, er y bydd Gweinidogion Cyfiawnder a Materion Cartref a Gweinidogion Cystadleurwydd yn cynnal sesiynau anffurfiol fel rhan o Lywyddiaeth yr Iseldiroedd o'r UE.
Yr argyfwng dur oedd amlycaf wrth gwrs yn y penawdau yr wythnos ddiwethaf, a bydd yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda yng Nghymru. Cyhoeddodd Y Gwasanaeth Ymchwil ddau flog ar ddiwedd yr wythnos a bydd blogiau pellach yn dilyn wrth i ddigwyddiadau ddatblygu. Cyhoeddodd CEPS (y Ganolfan Astudiaethau Polisi Ewropeaidd) adroddiad ar Ddiwydiant Dur yr UE yn 2013 sy'n rhoi trosolwg darllenadwy iawn o strwythur y diwydiant, a'r pwysau sy'n ei wynebu (a gyhoeddwyd wrth gwrs cyn yr argyfwng presennol). Cymhorthion y wladwriaeth a'r potensial i ddarparu cymorth gan y llywodraeth i'r sector yw un o'r materion a godwyd fel rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r argyfwng, a rhoddodd Comisiynydd Cystadleuaeth yr UE araith i esbonio dull y Comisiwn at gefnogi'r sector hwn - gan gynnwys edrych ar ddau ymchwiliad diweddar y mae wedi'u cynnal ar gymorth i'r sector (yng Ngwlad Belg a'r Eidal), yn ogystal â'r cynllun cymorth a gymeradwywyd yn ddiweddar ar gyfer y DU.
Mae mudo a'r argyfwng ffoaduriaid hefyd yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda gwleidyddol, gydag Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn rhoi rhybudd yn Senedd Ewrop yr wythnos ddiwethaf, mai "y Cyngor Ewropeaidd ym mis Mawrth fydd y cyfle olaf i weld a yw ein strategaeth [ar fewnfudo/yr argyfwng ffoaduriaid] yn gweithio. Os nad ydyw, mi fyddwn yn wynebu canlyniadau difrifol megis cwymp Schengen."
Roedd y Prif Weinidog, David Cameron yn y Weriniaeth Tsiec fel rhan o'i drafodaethau ar ddiwygio'r UE. Cyhoeddodd gwefan UK in a Changing DU nifer o flogiau ar y materion hyn yr wythnos ddiwethaf hefyd. Mae'r trawsgrifiad a'r dystiolaeth gan ymweliad diweddar Tŷ'r Arglwyddi â Brwsel bellach ar gael ar wefan yr Arglwyddi. Yr wythnos ddiwethaf cynhaliodd Pwyllgor Cysylltiadau Ewropeaidd ac Allanol Senedd yr Alban sesiynau tystiolaeth ar ddewisiadau amgen i aelodaeth o'r UE.
Yn olaf, ddydd Iau bydd Llysgennad Ffrainc i'r DU yn ymweld â'r Cynulliad i gyflwyno'r Legion d'Honneur i ddeg o gyn-filwyr Cymreig o'r Ail Ryfel Byd mewn seremoni arbennig yn y Pierhead, wedi'i chyflwyno gan y Dirprwy Lywydd David Melding AC.
Lincs defnyddiol:
Ystafell Newyddion Europa (datganiadau i'r wasg; manylion pob cynnig newydd)
Pwyllgorau Senedd Ewrop (manylion cyfarfodydd, agendâu ac ati)
Senedd Ewrop y DU (cynrychiolaeth yn Llundain a Chaeredin)
Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru
Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (datganiadau i'r wasg ac ati)
Y DU mewn UE sy'n Newid (Prosiect ESRC i hysbysu'r cyhoedd cyn y refferendwm ar yr UE - yn cynnwys Ysgol y Gyfraith Caerdydd)
Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddEurope
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg