Bil y Farchnad Fewnol: Pa welliannau sydd wedi’u gwneud hyd yma?

Cyhoeddwyd 02/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 10 Medi cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Mae’r Bil yn un o Filiau mwyaf arwyddocaol yn gyfansoddiadol yn y broses Brexit a bydd ei effeithiau yn para ymhell y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio.

Mae’r Bil yn gwneud tri pheth allweddol:

  • Sefydlu rheolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau ledled y DU;
  • Rhoi pwerau cyllido i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig a chadw pwerau dros reoli cymhorthdal i Senedd y DU; a
  • Rhoi pwerau i Weinidogion y DU basio rheoliadau mewn perthynas â Phrotocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon sy’n datgymhwyso rhannau o Gytundeb Ymadael y DU-UE.

Mae’r Bil wrthi’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Dŷ’r Arglwyddi. Cafodd y Bil ei ddiwygio ar ei daith drwy Dŷ’r Cyffredin. Mae ein briff, sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil, yn adlewyrchu’r gwelliannau hyn a’r hyn y maent yn ei olygu o ran rhoi’r Bil ar waith yn ymarferol.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru