Ddydd Mawrth 2 Mawrth 2021, bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar welliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 3 ar daith y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Rydym wedi llunio crynodeb o'r newidiadau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2, a ddigwyddodd yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Ionawr 2021.
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Crynodeb o’r Bil (Cyfnod 2).
Mae'r Bil yn darparu'r sylfaen statudol ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022 ymlaen. Mae ein Crynodeb o'r Bil, a gyhoeddwyd pan gyflwynwyd y Bil, yn esbonio’r hyn mae'r Bil yn ei wneud ac yn rhoi gwybodaeth gefndirol.
Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru