Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021: Crynodeb o'r Bil

Cyhoeddwyd 08/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/11/2021   |   Amser darllen munudau

Gosodwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gerbron y Senedd ar 01 Tachwedd 2021. Yr Aelod sy'n gyfrifol yw Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Mae'r Bil yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn creu Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru newydd a elwir y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Bydd y corff hwn yn gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-orfodol ac yn cynnwys addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, addysg chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned. Ar hyn o bryd, CCAUC sy’n rheoleiddio addysg uwch ac yn darparu cyllid ar ei chyfer, a Llywodraeth Cymru sy’n gwneud hynny ar gyfer y sectorau addysg drydyddol eraill - bydd y Comisiwn yn cyfuno'r gweithgareddau hyn o dan un corff.

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.

Mae ein Crynodeb o'r Bil yn crynhoi'r dogfennau hyn.


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru